Mae Anthem Genedlaethol Cymru yn un o'r anthemau mwyaf
ardderchog yn y byd ac yn gân wedi'i gwreiddio yn
hanes. Evan James a'i fab James James, dau fasnachwr gwylaidd
a oedd yn byw ym Mhontypridd yng nghanol yr 19eg ganrif
a'i sgrifennodd hi. Cafodd Evan James ei eni ym 1809 yng
Nghaerffili ond pan roedd e'n bedair blwydd oed symudodd
i fyw yn nhafarn yr Ancient Druid yn agos i Argoed ym mhlwyf
Bedwellte. Gwehydd oedd o ran ei swydd ond treuliodd flynyddoedd
cynnar ei fywyd priodasol yn dafarnwr hefyd a sefydlodd
ei wydd yn agos i'r dafarn. Cafodd ei fab James ei eni
yno hefyd ym 1832 a roedd e'n un o saith blant. Daeth Evan
James a'i deulu i Bontypridd ym 1847 i redeg ffatri wlân
wrth ochr Afon Rhondda. Yno buodd e tan ei farwolaeth yn
1878. Gadawodd James James Pontypridd i fynd i Aberpennar
ac wedyn symudodd i Aberdâr yn 1893 lle buodd e farw
ym 1902.
Byddai Evan James yn treulio
llawer o oriau yn darllen llenyddiaeth a chyfansoddi barddoniaeth
seml. Mae llawer yn dweud roedd e'n cadw darn o lechfaen wrth
ei ochr drwy'r amser rhag ofn byddai syniadau newydd yn dod
i'w feddwl. Rydyn ni'n deall bod James wedi amlygu dawn naturiol
at gerddoriaeth o oedran ifanc iawn ac roedd e wrth ei fodd
yn canu'r delyn. Felly byddai'r tad a'i fab yn treulio nosweithiau
hir hapus gyda'i gilydd, un yn cyfansoddi penillion a'r llall
yn chwarae cerddoriaeth.
‘Genedigaeth'
yr Anthem Genedlaethol
Mae pawb yn cytuno bod y dôn
wedi ei chyfansoddi ym mis Ionawr 1856. Mae'r dyddiad wedi'i
ysgrifennu ar gopi cynharaf yr Anthem sy'n dal gyda ni, llawysgrif
yn llaw James James ac sydd yn cael ei chadw yn y Llyfrgell
Genedlaethol yn Aberystwyth. Does dim sicrwydd ynglyn ag amgylchiadau
cyfansoddi'r anthem fodd bynnag. Mae'n ddirgelwch i'r dydd
heddiw ai'r geiriau ynteu'r gerddoriaeth a ddaeth gyntaf. Yn
anffodus does dim cofnod dibynadwy ar gael ac mae llawer o
storïau sy'n gwrthddweud ei gilydd yn dal o gwmpas o hyd.
Mae un o'r rhain yn dweud y cafodd geiriau Hen Wlad Fy Nhadau
ei ysgrifennu yn ymateb i wahoddiad ei frawd i ymuno ag e yn
America. Mae e'n rhoi'r geiriau i James a'r rheiny'n ei ysbrydoli
i gyfansoddi'r gerddoriaeth.
Rhoddodd Taliesin James, mab
James James, esboniad arall mewn llythyr at John Crockett o
Bontypridd. Wedi'i ddyddio Rhagfyr 1910, ysgrifennodd James
wedi cyfansoddi'r dôn wrth gerdded ar hyd ochr Afon Rhondda
a gofyn i'w dad i ysgrifennu penillion iddi. Beth bynnag yw'r
gwir, enwon nhw'r gân yn ‘Glan Rhondda' - addas iawn
yn yr amgylchiadau.
Blynyddoedd
cynnar yr Anthem
Er na chafodd hi ddim ei chydnabod
yn Anthem Genedlaethol Cymru, mae Hen Wlad Fy Nhadau
wedi ei hystyried yn anthem gan y bobl ers cyn diwedd
yr 19eg ganrif. Chafodd hi mo'i chomisiynu i gofio rhyw achlysur
arbennig fel anthemau eraill. Yn wahanol i anthemau eraill,
enillodd hi ei phlwyf yn araf a hawlio lle bob perfformiad.
Perfformiwyd y gân gan ferch 16 mlwydd oed o'r enw
Elizabeth John o Bontypridd yng Nghapel Tabor Methodistiaid,
sydd nawr yn Glwb Gweithwyr, ym Maesteg. Yn ôl erthygl
a ysgrifennodd y newyddiadurwr a'r derwydd, Owen Morgan (Morien)
ar gyfer y “Western Mail” (Ebrill 4ydd 1894) canodd James
James ei hun y gân mewn eisteddfod yn Nhafarn Castell
Ifor yn Nhrehopcyn. Mae ffynonellau eraill yn dweud iddo
ganu'r alaw yn Seremoni'r Orsedd yn Eisteddfod Pontypridd
a gafodd ei chynnal ar Gomin Pontypridd ym 1857.
Daeth
hi'n fwy cyfarwydd ar ôl Eisteddfod Genedlaethol 1858
Llangollen. Roedd y gystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o
alawon Cymru oedd heb eu cyhoeddi. Cynhwysodd Thomas Llewelyn
(Llewelyn Alaw) o Aberdâr Glan Rhondda yn ei ddetholiad
a rhannodd y wobr gyntaf. Roedd John Owen (Owain Alaw) y
beirniad a cherddor o fri yn hoffi'r gân yn fawr iawn.
Penderfynodd i gynnwys y geiriau a'r gerddoriaeth yn ei gasgliad, Gems
of Welsh Melody , a gafodd ei gyhoeddi gan Isaac Clarke
o Ruthun ym 1860. Trefnodd yr alaw ar gyfer pedwar llais
hefyd a rhoddodd y teitl Hen Wlad fy Nhadau iddi. Rydyn ni
bron yn sicr y cafodd y geiriau eu cyhoeddi am y tro cyntaf
yn y llyfr ‘ Gems of a Welsh Melody' . Mae tudalen
o faled yn cael ei chadw yn llyfrgell Pontypridd ac mae'r
geiriau arno'n dweud ei bod wedi ei hargraffu gan F. Evans
o Bontypridd ym 1858. Bydd rhaid chwilio ymhellach ynghylch
dilysrwydd y dyddiad.
Canodd John Owen Hen Wlad Fy Nhadau mewn
nifer o gyngherddau dros Ogledd Cymru i gyd. Ac iddi hi
gorawd fflamychol ac yn hawdd ei dysgu daeth hi'n boblogaidd
iawn gyda dilynwyr yr Eisteddfod. Roedd yr unawdwyr mawrion
yn ei chanu eu hunain gyda chrynawch wrth weld ymateb y
cynulleidfaoedd. Canodd Lewis William Lewis (Llew Llwyfo)
y gân gyda chryn effaith yn Eisteddfod Caer ym 1866
yn ôl yr hanesydd Dr John Davies. “Cafodd Hen Wlad
Fy Nhadau ei chanu gyda'r fath frwdfrydedd fel y cafodd
ei mabwysiadu yn Anthem Genedlaethol. Cafodd ei chanu i
gau pob sesiwn a phob Eisteddfod o hyn ymlaen” meddai Dr
John Davies yn ei lyfr A History of Wales. Naw
mlynedd wedyn cafodd y gân ei chanu gan
yr unawdwr blaenllaw Robert Rees (Eos Morlais) yn Eisteddfod
Genedlaethol Bangor. “Roedd ei berfformiad yn llwyddiannus
iawn” meddai'r papur newydd “Baner ac Amserau Cymru”. Cafodd
Hen Wlad Fy Nhadau ei chydnabod yn gân yr Eisteddfod
yn Eisteddfod Caernarfon ym 1880 a chafodd ei chanu ym
mhob un o seremonïau'r orsedd ers hynny.
Cafodd Hen Wlad fy Nhadau hwb arall eto yn yr Eisteddfod
Genedlaethol a gafodd ei chynnal yn Neuadd Albert yn Llundain
yn 1887. Doedd dim modd i'r Tywysog Albert Edward, Tywysog
Cymru, osgoi'r Eisteddfod hyn er roedd e wedi llwyddo i
wneud sawl esgus yn y gorffennol. Arweniodd Eos Morlais
pawb i ganu “God Bless the Prince of Wales” wrth iddo dyrraedd.
Ar ddiwedd yr achlysur cododd Eos i ganu Hen Wlad Fy Nhadau.
Cododd Albert a'i deulu hefyd a sefyll tra oedd yr anthem
yn cael ei chanu. Dydyn ni ddim yn gwybod pam cododd e
ond roedd y teulu brenhinol wedi codi i Anthem Genedlaethol
Cymru.
Ar ddiwedd yr 19eg ganrif cymerodd yr anthem gam mawr
arall ymlaen. Cafodd y recordiad cyntaf o ganeuon Cymraeg
ei gwneud yn Llundain ar Fawrth 11 1899 a chafodd ei dosbarthu
gan Gwmni Gramaphone. Roedd Hen Wlad Fy Nhadau ymhlith
y caneuon hynny.
Cofio
Anthem Genedlaethol Cymru ym Mhontypridd
Roedd coffadwriaeth gyntaf Pontypridd i awdur a chyfansoddwr
yr anthem ym 1909. Rhoddodd prifathro cyntaf Ysgol Ramadeg
Pontypridd, Mr Rhys Morgan, anerchiad i Gymdeithas Cymrodorion
Pontypridd a phlediodd achos sefydlu cofeb i Evan James
a James James yn ystod mis Ebrill y flwyddyn honno. Ar
Fehefin 10fed 1909, cafodd cyfarfod cyhoeddus ei gynnal
yn Adeilad y Dref. Cafodd pwyllgor ei benodi a oedd yn
cynnwys y Cynghorydd Hopkin Morgan yn gadeirydd a Mr Rhys
Morgan a Mr J Colenso Jones yn gyd-ysgrifenyddion. Serch
hynny, aeth dros 20 mlynedd heibio cyn llwyddo i wireddu
delfryd Mr Rhys Morgan i gael cofeb i gofio Evan a James
James.
Dechreuodd y prosiect yn dda iawn. Ar ddiwedd Mehefin
1909 ymddangosodd adroddiad a rhestr o lofnodion ynglyn â chyfarfod
cyntaf y Pwyllgor Cyffredinol yn y papur newydd ‘Pontypridd
Observer'. Cafodd cylchlythyrau eu hanfon allan a chafodd
cyngherddau eu cynnal i godi arian. Aeth Henry Davies i
America hyd yn oed ym mis Mehefin 1913 i godi arian oddi
wrth Gymry America er inni weld yn yr Observer iddo ddioddef
y sarhad o wadu sibrydion ei fod e wedi gwario peth o'r
arian a gododd tra oedd e yno.
Pum mlynedd ar ôl dechrau'r ymgyrch roedd nod y pwyllgor
yn dal heb ei chyrraedd. Cafodd haelioni'r cyhoedd ei dynnu
tuag at Senghennydd ar ôl y drychineb gwaith glo ofnadwy
ym mis Hydref 1913. Yr ergyd olaf fodd bynnag oedd dechrau'r
Rhyfel Byd Cyntaf a dyna roi'r gorau i'r ymgyrch.
Ar ôl y rhyfel roedd
hi'n anodd iawn ail sefydlu'r ymgyrch. Nid tan 1928 aeth
Syr W Goscombe John i gyfarfod o'r pwyllgor codi arian â model
bach o'r gofeb roedd e'n meddwl fasai'n addas. Er cytuno â'i
awgrym, roedd angen £500 o hyd cyn gallu cau'r ymgyrch.
Ar ôl nifer o fisoedd ac ond ychydig lwyddiant, penderfynodd
Mr Rhys Morgan drafod y mater gyda Syr William Davies, golygydd
y ‘Western Mail'. Ymddangosodd apêl yn y cyhoeddiad
ar Fehefin 29ain 1929 a oedd yn haeddu ‘ymateb cyflym' gan
bob ‘Cymro a Chymraes'. Cafodd yr arian ei gasglu mewn amser
byr iawn.
Erbyn mis Mai 1930 roedd Syr W Goscombe John bron wedi gorffen
ei waith. Mae llythyr a llun a anfonodd e at ysgrifenion
cofeb Hen Wlad Fy Nhadau, yn dangos y basai'r gofeb ddau
ffigwr efydd, un yn cynrychioli cerddoriaeth ac un yn cynrychioli
barddoniaeth. Roedd y gofadail orffenedig i'w gosod ar bedestal
o garreg glas o Chwarel Graig yr Hesg gerllaw.
Ar Orffennaf 23ain 1930 cafwyd
dadorchuddio cofeb Evan James a James James ym Mharc Ynysangharad. “Roedd
hi'n ddiwrnod nodedig yn hanes Pontypridd” meddai'r ‘Observer'.
Fel mae'r cardiau gwahoddiad isod yn dangos casglodd gorymdaith
y tu allan Adeiladau'r Dref ac ymdeithio i Barc Ynysangharad
lle roedd 10,000 o bobl wedi casglu. Dadorchuddiodd Arglwydd
Treowen y gofeb yng ngwydd yr Archdderwydd ‘Pedrog' ac aelodau
eraill o'r Orsedd.
Flwyddyn ar ôl dadorchuddio'r gofeb ym Mharc Ynyshangharad,
cafodd carreg farmor ei chodi yn Mill Street, Pontypridd
i nodi'r fan lle safai ffatri wlân Evan James ar
un adeg.
Yn anffodus, cafodd y garreg ei difrodi yn ystod gwaith
adeiladu a llechfaen arall llawer llai trawiadol sy ar
ochr yr adeilad heddiw.
Yn ôl cofnodion Cyngor Pontypridd, roedd dadorchuddio'r
llechfaen ym 1931 yn uchafbwynt i'r prosiect a oedd wedi
dechrau dros 20 mlynedd cynt gan Mr Rhys Morgan a Chymdeithas
Cymrodorion Pontypridd.
Blwyddyn bwysig arall ynglyn â choffau'r Anthem
Genedlaethol gan dref Pontypridd oedd 1956. Roedd wythnos
lawn o wasanaethau coffa a dathliadau yn ystod canmlwyddiant
yr anthem gan gynnwys gwasanaethau crefyddol, cymanfaoedd
canu, cyngherddau ysgol, diwrnodau mabolgampau yn ogystal â ras
10 milltir rhwng Aberpennar a Phontypridd. Yr uchafbwynt
oedd cyngerdd mawreddog gan gynnwys perfformiad gan y canwr
opera byd enwog Geraint Evans o Gilfynydd. Y tu hwnt i
Bontypridd noddodd y ‘Western Mail' gystadleuaeth Traethawd
i Ysgolion. Heb unrhyw syndod i neb, pwnc y traethawd oedd ‘The
Welsh National Anthem' neu ‘Yr Anthem Genedlaethol Cymru'
(sic).
Ychydig ddiwrnodau cyn dechrau
dathliadau canmlwyddiant yr anthem adroddodd y ‘Western Mail'
bod ymwelwyr a ddaeth i weld bedd Evan James yng Nghapel Carmel
y Bedyddwyr yn Mhontypridd wedi cael sioc i weld cyflwr ofnadwy'r
fynwent. Dechreuodd Mr William Gilmore, un o ddiaconiaid capel
Carmel brosiect i drawsffurfio mynwent yr eglwys yn ardd goffa
gyda chymorth Clwb Rotari Pontypridd. Cafodd achlysuron eu
cynnal i godi arian, gan gynnwys cyngherddau a gêm rygbi
ym mharc y dref. Roedd hi'n anodd iawn casglu digon o arian
er cael rhoddion hael gan y Clwb Rotari a Chyngor Sir Morgannwg.
Yn yr Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 1962 apêlodd
y Parchedig Haydn Lewis o Don Pentre ond cododd e dim ond £10.
Yn anffodus doedd prosiect yr ardd goffa ddim
yn llwyddiannus fel yn achos y gofeb ym Mharc Ynysangharad.
Cafodd Capel Carmel ei dynnu i lawr ym 1969 a'r ardd goffa
ei gadael mewn cyflwr enbyd. Mae'r adroddiadau'n dangos y
dadlau ynglyn â datgladdu ac ailgladdu gweddillion
Evan James (cliciwch
yma). Ar fore Sul tawel ar Orffennaf
1af 1973, cafodd gweddillion Evan James a'i wraig Elizabeth
eu hailgladdu ym Mharc Ynysangharad ym mhresenoldeb Mr Gilmore,
y Parchedig Haydn Lewis ac eraill.
Ymhlith coffadwriaethau eraill yn ddiweddar mae enwi'r
ysgol Gymraeg newydd a agorodd ym Mhontypridd ym 1983 yn ‘Ysgol
Evan James' a llun mosaig mewn tanffordd yng nghanol y
dref sy'n darlunio'r ddau.
Mae'r wybodaeth hon wedi'i darparu gan Wasanaeth y Llyfrgelloedd
Rhondda Cynon Taf. Cliciwch yma i weld Llwybr Treftadaeth
Rhondda Cynon Taf