Ganed William Edwards yn fferm Ty Canol, y Groes-wen,
ym mhlwyf Eglwysilan, ym 1719, ond ar fferm arall yn yr
un plwyf, Bryn-tail, y treuliodd e'r rhan fwyaf o'i fywyd.
Fe fuodd ei dad, Edward Dafydd, farw a William ond yn blentyn.
Yn ôl yr hanes, boddi wnaeth e, wrth geisio croesi
rhyd Afon Taf.
Ychydig o addysg ffurfiol gafodd Edward ond roedd e'n darllen
llawer o lenyddiaeth Gymraeg ac yna, yn ei ugeiniau, dysgodd
ddarllen ac ysgrifennu Saesneg yn ychwanegol. Yn ôl un
o'i gyfoeswyr, bachgen styfnig a phenderfynol oedd e – nodweddion
y buodd yn dda iddo pan aeth e ati i godi'r bont ym Mhontypridd.
Roedd e hefyd yn ddyn crefyddol iawn a daeth yn weinidog ar
gapel Methodist lleol y Groes-wen ac yntau ond yn ei ugeiniau – swydd
a gynhaliodd weddill ei fywyd.
Fe ddysgodd e grefft saer maen o'i ben a'i bastwn a'i
brofiad ei hun. Roedd e'n barod i ddysgu gan eraill serch
hynny; a phan ddaeth seiri maen i'r ardal i godi efail
i'r gof dysgodd gop ï o' u hoffer a' u technegau adeiladu
nhw. Yn sgîl ei ddawn gyda thrin cerrig, cyn pen
fawr o dro roedd pobl yn ei gydnabod yn adeiladwr mwyaf
medrus yr ardal. Am fod y fath enw da iddo fe, cafodd gynnig
y gwaith yn sgîl penderfyniad i godi pont gerrig
ar draws Afon Taf. Roedd y cytundeb a lofnododd e gyda
chynrychiolwyr Cantrefi Meisgyn a Chaerffili yn gofyn am
godi pont ar draws Afon Taf, ynghyd â gwaith cynnal
a chadw'r bont honno dros gyfnod o saith mlynedd.
Y Bont Heddiw
Teithwyr ar droed yn unig sy'n cael defnyddio
pont William Edwards erbyn heddiw. Mae'r adeiladwaith yma
o hyd yn gofadail i ddyfeisgarwch a dyfalbarhad William
Edwards.
Adeiladu'r Bont
Roedd y bont bren a gododd William Edwards gyntaf yn llawer mwy confensiynol
na'r un a'i gwnaeth e'n enwog – ac roedd iddi dri bwa. Rhyw ddwy flynedd yn
ddiweddarach, daeth storom arw a chododd llif yr afon, gan olchi swp mawr o
gerrig a choed a sbwriel i lawr yn erbyn ei cholofnau cynnal. Yn y diwedd roedd
y pwysau yma'n ddigon i'w bwrw hi drosodd ac fe aeth hi gyda'r afon. Yn wyneb
y profiad yma o geisio codi pont dros Afon Taf a'i llifogydd gwyllt – a'r diwedd
a ddaeth iddi hi – penderfynodd e ar ateb llawer mwy chwyldroadol – byddai i'r
bont newydd un bwa yn unig , er mwyn osgoi dal unrhyw sbwriel fyddai'n dod i
lawr gyda'r afon.
Yn ffodus iawn, mae nifer o lawysgrifau o'r cyfnod ar gael yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru sy'n cofnodi'r amgylchiadau ynghylch ymdrechion William Edwards i godi
pont un bwa dros Afon Taf. Llawysgrif Plas-y-brain ydy un – ac mae un arall
gan un o'i gyfoeswyr, o'r enw Thomas Morgan. Dyma ddywed Thomas Morgan am y
cais cyntaf i godi pont un bwa: ‘.. pan roedd e bron â gorffen y bwa,
methodd y gwaith coed yn y canol â chynnal, a chwympodd y cyfan i waelod
yr afon'. (Cyfieithiad) Y cofnod yn llawysgrif Pen-y-brain, serch hynny, yw, ‘ Toc
wedi cwblhau'r bwa gyntaf, a chyn cael y canol ynghyd, daeth llifogydd a golchi'r
cyfan i ffwrdd'. (Cyfieithiad) P'un bynnag o'r rhain sy'n gywir, mae hi'n glir
bod ail gais William Edward i bontio Afon Taf wedi methu hefyd. Fe fyddai'r
rhan fwyaf o ddynion wedi rhoi'r ffidil yn y to ar ôl dau fethiant - ond
rhoi cynnig arall ar godi pont un bwa ar draws Afon Taf oedd ymateb William
Edwards.
Yr awgrym yn adroddiadau'r cyfnod ydy bod
y bont wedi'i chwblhau'r tro yma a'i bod hi wedi sefyll
am tua chwe wythnos cyn cwympo unwaith yn rhagor. Roedd
diffyg profiad William Edwards o godi'r math yma o adeiladwaith
wedi dod i'r amlwg – doedd dim cydbwysedd yn y bont orffenedig
a hynny'n gwthio'r cerrig allweddol allan unwaith yn rhagor – gan
achosi'r bont i ollwng. Roedd adroddiad yn ‘Gentleman's
Magazine' y cyfnod i'r perwyl ‘..the floods have carried
away an arch built over the Taff 144 feet wide.' . Yn yr
erthygl ‘The Theory of Arches and Pontypridd' y dyfarniad
ydy ‘the weight of the bridge was either too great on the
haunches or too little on the crown.'
Pedwaredd pont William Edwards – a'r olaf ohonyn nhw – ddaeth
yn fyd-enwog. Yn y bont yma fe drefnodd e'r tyllau crwn enwog
- naw troedfedd, chwe throedfedd a phedair troedfedd – yn y
spandreli a felly gostwng y pwysau - a'r pwysedd – ar frig
y bont. Dyma bont unigryw; a fuodd hi fawr o dro cyn dod yn
enwog. Er gwaethaf ei henwogrwydd, dyfarniad erthygl The Theory
of Arches and Pontypridd' oedd mai methiant alaethus oedd hi
o ran lle i groesi afon. Y feirniadaeth oedd mai dim ond 11
troedfedd o led oedd rhwng y canllawiau a'i bod hi mor serth
fel bod rhaid cael cadwyni a phwysau treigl wrth y wagenni
ar y ffordd i lawr ar ôl cyrraedd y brig.
Yn ôl yr hanes, canlyniad cynigion William Edwards
i gael pont ar draws Afon Taf oedd ei adael â dyledion
sylweddol. Sylw Malkin ar y pryd oedd nad oedd arno unrhyw
ddyled o ran gwaith adeiladu ac eithrio i'w ‘ddiwydrwydd
a'i gyflog ef ei hun.' Ond, yn ôl ei gyfoeswr Thomas
Morgan, erbyn y daeth hi'n godi'r pedwaredd pont ‘…roedd
gyda'r saer maen ddyledion sylweddol ac roedd e wedi digalonni.
Ond roedd gyda'r Arglwyddi Talbot a Windsor, sy'n berchnogion
ar ystadau sylweddol yn y gymdogaeth, gydymdeimlad â'i
achos, ac, a hwythau'n barod i roi anogaeth i'r fath athrylith
blaengar, aethon nhw ati i drefnu cronfa dysteb ymhlith
bonedd y parthau hynny.' (Cyfieithiad)
Ar ôl iddo lwyddo ym Mhontypridd, daliodd William Edwards
a'i feibion i godi pontydd hwnt ac yma, nifer ohonyn nhw ac
iddyn nhw fwâu hir a cheudodau crwn, fel ym Mhontypridd.
Serch hynny, yng ngoleuni'r profiad ym Mhontypridd, roedd i'r
ymdrechion diweddarach esgynfannau yn arwain at y pontydd a'r
rheiny'n codi'n raddol. Mae'r ysgrif coffa, yn Gentleman's
Magazine 1789; yn arwydd o'r enwogrwydd a'r bri a ddaeth i
ran William Edwards, a hynny i raddau helaeth yn sgîl
yr hyn a gyflawnodd e ym Mhontypridd:
‘Yn ei gartref ger Caerffili, William Edwards,
pensaer ac adeiladydd pontydd, neu'r Parchedig William
Edwards – roedd e'n arfer cynnal y naill gymeriad a'r llall â'r
un dyfalwch a galluoedd… Y gwr anghyffredin yma a gododd
y bont enwog dros Afon Taf – Pont y ty pridd -, gerllaw'r
New Bridge Saesneg. Lledaenodd ei enwogrwydd ar draws y
deyrnas a byddai pobl yn troi ato am gymorth pryd bynnag
byddai anhawster ynglyn â chodi pont. Cadwodd ei
frwdfrydedd dros weithgareddau crefyddol a chynnal cynulleidfa
fawr, gymysg – Methodistiaid yn bennaf – a dal i godi pontydd
tan oedd yn 72 mlwydd oed pan fuodd e farw ar ôl
brwydro yn erbyn afiechyd hir ag amynedd oedd yn esiampl
i bawb.' Mae llechfaen efydd yng Nghapel Groes-wen yr Annibynwyr,
lle buodd William Edwards yn weinidog am ddeugain mlynedd,
sy'n nodi, ‘Adeiladydd i'r Ddeufyd'. (Cyfieithiad)