Cartref y teulu Mathew o fonheddigion
oedd Aberaman cyn ennill enwogrwydd am ei weithfeydd glo a
haearn hynod. Teulu o dirfeddiannwyr oedd y rhain, gyda pherthnasau
iddyn nhw yn berchen ar ystadau ar hyd y sir. Dechreuon nhw
ddod yn amlwg yn y 17eg ganrif, pryd y bu tri ohonyn nhw’n
Uchel Siryfion Morgannwg ar wahanol adegau. Roedden nhw’n
byw yn Aberaman Isaf, sy’n dal i sefyll heddiw ond ar
wedd diweddarach a’i enw wedi’i newid i Dy Aberaman.
Bu farw Edward Mathew, yr etifedd gwrywaidd olaf, ym 1788,
a chafodd yr ystad ei rhannu rhwng ei dair merch a’u
gwyr. Dyna ddiwedd felly ar ddylanwad cymdeithasol oedd wedi
parhau am 200 o flynyddoedd. Prynodd Anthony
Bacon, meistr
haearn o Ferthyr Tudful, Dy Aberaman ym 1806, ac yn dilyn ei
farwolaeth daeth y ty i ddwylo Crawshay Bailey, perchennog
gwaith haearn Nant-y-Glo a Beaufort.
Dyma lun o Aberaman gyda’r dyddiad Awst 16eg 1827 wrtho, gan
Emma neu Lucy Bacon, wyresau Anthony Bacon. Tynodd y ddwy sawl llun
o Gwm Cynon rhwng 1820 a 1830. Mae’r llun yma’n dal i bortreadu
Aberaman yn fro wledig, heddychlon.
Dymuniad Crawshay Bailey oedd manteisio ar adnoddau
mwynau’r ystad, ac o ganlyniad bu Aberaman yn datblygu’n
gyflym yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Roedd Crawshay Bailey
wedi prynu’r ystad i gyd erbyn 1845, ac aeth ymlaen i
adeiladu Rheilffordd Aberdâr ar y cyd â J. J. Guest.
Bu hyn yn fodd iddo agor Gwaith Haearn Aberaman a’r glofeydd
oedd yn ei fwydo. Roedd diwydiannwr arall, David
Davies, wedi
agor Glofa Blaengwawr ym 1843, a rhwng hyn i gyd roedd Aberaman
yn fwrlwm o ddiwydiant. Dyna a sbardunodd datblygu’r
dref, i ddarparu tai a gwasanaethau i’r holl weithwyr
newydd oedd yn llifo i mewn.
Lewis Street c 1890
Ar y dechrau, dechreuodd y dref ymestyn yn ddatblygiad
hirgul oddeutu Ffordd Caerdydd i’r de o Aberdâr
yn ystod y 1840au. Codwyd Curre Street, Holford Street, Gwawr
Street a Lewis Street, a strydoedd eraill hefyd, oddeutu Ffordd
Caerdydd yn y 1850au. Codwyd tai, siopau ayyb ar bwys glofeydd
hefyd: Incline Row a Bell Place ger Glofa Aberaman er enghraifft,
a Blaengwawr Row a Blaengwawr Cottages ger Glofa Blaengwawr
i’r gogledd. Mae dau a fu yno ar y pryd wedi gadael disgrifiadau
byw inni o sut roedd yr ardal a’i thrigolion yn ymdopi â thwf
sydyn y boblogaeth.
Pan oedd yr arolygwyr wrthi’n paratoi adroddiad Seneddol 1847 ar gyflwr
addysg yng Nghymru ( y ‘Llyfrau Gleision’ enwog), ysgrifennodd y
Parchedig John Griffith, Ficer Aberdâr atynt i ddweud mai dim ond ers tua
18 mis roedd Aberaman yn bod.
Er hynny roedd y boblogaeth eisoes wedi cyrraedd
1,200 ac roedd disgwyl iddi dyfu i 4,800 cyn pen blwyddyn.
Roedd 80 o seiri maen a 50 o seiri coed wrthi ar y pryd yn
codi tai. Yn ei adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Cyffredinol
ym 1853, rhoes Thomas Rammell ddisgrifiad o gyflwr gwael y
tai a godwyd yn y blynyddoedd yma. Roedd ef o’r farn
fod Aberaman Road a Treaman wedi’u hadeiladu ar safleoedd
arbennig o anaddas. Nid oedd modd draenio dwr i ffwrdd yn rhwydd,
roedd y tai’n llaith, a byddai llifogydd yn aml. O ganlyniad
roedd y trigolion yn llawer mwy tueddol o fagu heintiau. Ar
yr un pryd, nid oedd ffynhonell dwr lleol yn Aberaman, ac roedd
gofyn i’r trigolion fynd chwarter milltir o leiaf, i
Flaengwawr, i nôl dwr. O ganlyniad:
Neuadd ac Institiwt Aberdâr
‘Bydd rhaid aros amser maith wrth y pistyllau, ac nid yw tair awr
yn anghyffredin. Weithiau, mae pobl wedi mynd i nôl dwr yn syth ar ôl
cinio am hanner dydd, a dychwelyd heb yr un diferyn gan eu bod heb gael
tro i dynnu dwr byth. Ar adegau bydd cant o biseri i’w gweld yn aros
wrth y ffynnon. A chan fod pobl yn aros yno am hydoedd heb ddim i’w
wneud, bydd llawer o anfoesoldeb yn digwydd.”
Daliai Aberaman i ymestyn tua’r de wrth i’r 19eg ganrif ddirwyn i
ben. Erbyn datblygu Godreaman ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, roedd Aberaman
a Chwmaman wedi ymledu digon i uno â’i gilydd, ac ym 1900 roedd Lewis
Street yn ganolfan bwysig i fasnach yr ardal. Roedd adeilad urddasol Neuadd ac
Institiwt Aberdâr, a agorwyd ym 1910, yn dystiolaeth i falchder cadarn
trigolion Aberdâr yn eu tref.
Beicwyr
Aberaman
Daeth beiciau modern, gyda’r pedalau’n gyrru’r olwynion â chadwyn
yn boblogaidd yn ystod y 1880au a’r 1890au, a chyn hir roedd y tlawd
a’r cyfoethog wrthi’n beicio. Cymerodd pobl Cwm Cynon at yr
hobi newydd â’r un awydd â gweddill y byd. Cafodd Clwb
Beicio Aberdâr ei sefydlu ym 1884, ac erbyn 1890 roedd wedi datblygu’n
glwb rasio.
Oes aur beicio oedd y cyfnod yma i dref fechan
Aberaman. Llwyddodd hi i fagu pedwar o bencampwyr a gurodd
oreuon y byd: Arthur Linton a’i frodyr Tom a Samuel,
a Jimmy Michael. Aeth Arthur Linton a Jimmy Michael ymlaen
i ennill pencampwriaeth y byd. Dechreuodd Arthur Linton rasio
yn y fro yma, ac erbyn 1892 roedd yn enwog ar draws y De i
gyd. Dechreuodd ennill ei blwyf yng ngweddill Prydain yn ystod
tymor beicio 1893, a gwnaeth gontract gyda’r hyfforddwr
dadleuol ‘Choppy’ Warburton i rasio’n broffesiynol
ar y beiciau Gladiator newydd. Fe lwyddodd Arthur i guro Jean
Dubois, pencampwr Ffrainc, ym Mharis ym 1894, a bu ond y dim
iddo drechu Bonnic, pencampwr yr Eidal. Gwrthododd hwnnw rasio
yn ei erbyn wedyn. Rhoddwyd teitl ‘Pencampwr Beicio’r
Byd’ iddo a chafodd groeso tywysogaidd pan ddychwelodd
i Aberaman ym Mis Rhagfyr. Cynhaliwyd gwledd gyhoeddus yn nhafarn
y Lamb and Flag, a chyflwynwyd anerchiad ar ffurf llawysgrif
oliwiedig iddo.
Uchod: Arthur Linton gyda rhai o’r
gwobrwyon a enillodd yn ystod ei yrfa fer ond llwyddiannus
fel beiciwr proffesiynol.
Uchod: Jimmy Michael
gyda’i hyfforddwr, 'Choppy’ Warburton'
Blwyddyn llai llwyddiannus oedd1895 yn hanes
Arthur. Dioddefoedd anaf i’w benglin, ac ymwahanodd â’i
hyfforddwr, ‘Choppy’ Warburton. Ond yn ystod tymor
beicio 1896 fe enillodd Râs Bordeaux i Baris, ei râs
fwyaf erioed, gan lwyddo i drechu Gastone Rivière. Ond
dilynodd trasiedi’n fuan: efallai fod y ras yn ormod
o straen ar ei gorff, a bu farw Arthur o’r teiffod chwe
wythnos yn ddiweddarach, ym mis Mehefin 1896. Roedd e’n
24 oed.
Un o’r beicwyr iau a gafodd gymorth gan Arthur Linton oedd Jimmy Michael,
a ddaeth i sylw’r bobl pan enillodd râs Herne Hill yn gyflymach na
neb o’r blaen. Cafodd ef gontract gyda chwmni beiciau Gladiator hefyd,
a derbyn hyfforddiant gan ‘Choppy’ Warburton. Aeth o nerth i nerth
ym 1895, gan guro’r pencampwr Ffrengig Lucien Lesna, a gwneud 50 km ar
yr un cyflymdra campus ag Arthur Linton. Ddiwedd y flwyddyn honno fe enillodd
Bencampwriaeth Rasys y Byd Pellter Canol yn ninas Köln yn yr Almaen. Rhwng
llwyddiant ysgubol Jimmy, a’r flwyddyn wael a gafodd Arthur Linton, dechreuoedd
y berthynas suro rhwng Jimmy a’r ddau Linton, yn enwedig Tom.
Yn fuan ar ôl marw Arthur, torrodd Jimmy
bob cysylltiad â ‘Choppy’ Warburton a phenderfynu
rhoi cynnig arni yn America. Cafodd yrfa lwyddiannus dros ben
yno, torri sawl record, ac ennill ffortiwn sylweddol. Ymddeolodd
Jimmy o fyd beicio, gweithio fel joci ac yna ddod yn berchen
ar stabl rasio. Ond methodd y fenter honno, ac ym 1902 fe ddychwelodd
Jimmy i fyd beicio. Ond roedd ei ddawn beicio wedi pylu, gwaetha’r
modd, ac ni fu byth yn bencampwr fel cynt. Bu farw’n
29 oed ym mis Tachwedd 1904 ar fwrdd y llong Savoie ar ei ffordd
yn ôl i Efrog Newydd. Pwl o’r delerium tremens
oedd y rheswm a roddwyd am ei farwolaeth, yn sgîl yfed
trwm.
Parhaodd Tom Linton i fwynhau gyrfa rasio lwyddiannus, ond nid enillodd yr
un clod a bri ag Arthur neu Jimmy. Bu farw ym 194 o’r teiffoid, yr un
salwch a hwnnw a laddodd ei frawd 18 mlynedd ynghynt.
Dychwelodd Samuel Linton i weithio yn y glofeydd lleol,a bu farw ym 1935.
Gwaith
haearn Aberaman
O’r pedwar gwaith haearn yng Nghwm Cynon,
Aberaman gafodd ei godi’n olaf, ym 1845. Dechreuodd ei
sylfaenydd, Crawshay Bailey, bwdlo haearn yng Nglofa Aberaman
ym mis Mai 1847, ac roedd ffwrnais chwyth yn gweithio erbyn
1848. Hefyd roedd gefail wrthi yn ogystal â melinau rholio
a thyllu, tair injan, gwaith brics, ac odynau calch.
Ond, dros y tymor hir, ni fu’r weithfa yma’n
llwyddiannus. Roedd y ffwrneisiau chwyth wedi peidio â gweithio
erbyn 1854, er eu hailgychwyn flwyddyn yn ddiweddarach.
Bu ymgais i werthu’r lle ym 1862, am bris o £250,000,
ond mae’n debyg fod neb wedi rhoi cynnig i mewn gan
fod y gwaith haearn ar werth eto ym 1864, ar ôl i
Crawshay Bailey ymddeol. Prynodd Cwmni Haearn Aberaman
y gwaith, ond daeth y cwmni yma i ben ym 1867 a daeth y
cyfan i ddwylo Cwmni Powell
Duffryn. Roedd y ffwrneisiau
wedi peidio â chwythu ym 1866, a dyna’r tro
olaf iddynt weithio erioed.
Diwydiant
Glo Aberaman
Datblygodd ardal Aberaman yn un o ganolfannau pwysicaf diwydiant
glo Cwm Cynon yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Bu menter
Crawshay Bailey yn sefydlu Gwaith Haearn Aberaman yn sbardun i’r
diwydiant yn y cyffiniau, ac erbyn 1859 roedd pedair glofa bwysig wedi
datblygu yno.
Agorodd Crawshay Lofa Aberaman ym 1845, a
daeth i ddwylo Powell
Duffryn ym 1866 pan brynon nhw Ystad
Aberaman. Yn y lofa yma y cafodd gorsaf achub pyllau gyntaf
y De’i hagor, ym 1909. Roedd mil o ddynion yn gweithio
yno ar y pryd. Arhosodd rheolaeth y pwll gyda chwmni Powell
Duffryn nes i’r Bwrdd Glo Cenedlaethol gymryd drosodd
ym 1947. Caewyd y lofa ym 1965.
Chwith: Tîm
Achub Pyllau Aberaman tua 1914.
Cafodd Glofa Blaengwawr ei hagor gan David
Davies ym 1843. Pan fu ef farw ym 1866 fe gymerodd ei feibion
drosodd nes cau’r pwll ym 1885. Arhosodd y pwll ynghau
nes i gwmni Powell Duffryn ei brynu ym 1914. Caewyd y pwll
am y tro olaf ym 1926.
Glofa Abergwawr (Pwll Powell a Plough Pit) gafodd yr yrfa
fyrraf o’r
glofeydd cynnar i gyd. Fe’i hagorwyd gan Powell a Prothero ym 1849, a
daeth i feddiant Cwmni Glo Ager Powell Duffryn ym 1864. Cafodd y lofa’i
chau ym 1875 yn dilyn anghydfod cyfreithiol.
De: Lefel Blaengwawr tua 1910
David Williams ddechreuodd Lofa Treaman (‘Nici-Naci’)
ym 1850. Roedd y lofa wedi dod i ddwylo Crawshay Bailey erbyn
1866, a phan fu ef farw’r flwyddyn honno fe ddaeth i
feddiant cwmni Powell Duffryn. Caewyd y pwll ym 1912. Daeth
yr enw ‘Nici-Naci’ o swn y rhaffau’n rhedeg
drwy’r offer pen y pwll, oedd i’w chlywed o bob
cwr o’r pentref.
Dyma enwau rai o’r pyllau a’r lefelau eraill fu’n gweithio
yn yr ardal: Meadow Pit (1864 – tua 1910), Lefel Fach (1869 - tua 1914)
a Lefelau Blaengwawr (1903 – 1935).
‘Streic y Blociau’
1910
Cwmni Glo Ager Powell Duffryn oedd y cwmni mwyaf pwerus yn
niwydiant glo Aberaman erbyn 1910. Roedd syniadau’r
glowyr yn dod yn fwyfwy radicalaidd yr adeg honno, a’r
meistri’n uno mewn grwpiau pwerus o gwmnïau pwerus
neu combines i ‘resymoli’r’ gwaith drwy
ddileu arferion a hawliau gweithio traddodiadol y glowyr.
Canlyniad hyn oll oedd bod sawl pwnc llosg yn asgwrn cynnen
rhwng y ddwy ochr, ac aeth hi’n ffrwgwd agored tua diwedd
1910, a thorrodd dwy streic fawr allan.
Anghydfod y Cambrian oedd y frwydr fawr yng Nghwm Rhondda,
yn arwain at Derfysgoedd Tonypandy. Yng Nghwm Cynon, ar y
llaw arall, ‘Streic y Blociau’ oedd yr anghydfod
sy’n dal yng nghof pobl. Ers rhyw 40 mlynedd roedd y
rheolwyr wedi caniatáu i’r glowyr fynd â
darnau o goed sgrap adref i’w llosgi ar y tân.
Penderfynodd rheolwyr Glofa Dyffryn Isaf ddileu’r arfer
yma ar 20fed Hydref 1910. Pan glywodd shifft y nos am hyn
dyma nhw’n gorymdeithio i Lofa Llety Siencyn a galw’r
glowyr yno allan. Cyn hir roedd yr anghydfod wedi ymledu i
bump arall o lofeydd cwmni Powell Duffryn.
Uchod: Pwyllgor Cymorth Cwm-bach yn ystod Streic 1910
Cynhaliodd y Glowyr gyfarfod torfol yn Aberdâr
ar 21ain Hydref i lunio rhestr o 18 o gwynion. Coed tân,
a defnyddio peiriannau, oedd y pynciau mwyaf llosg. Pwnc pwysig
arall oedd y tâl am leoedd gweithio arbennig o anodd,
lle gallai gweithio fod yn galed iawn i’r glowyr.
Aeth y berthynas rhwng Charles Stanton, Asiant y Glowyr, a
rheolwyr cwmni Powell Duffryn yn fwyfwy anodd ac erbyn 30fed
Hydref roedd y trafodaethau wedi torri i lawr yn llwyr. Dim
ond pedair glofa oedd yn dal i weithio yng Nghwm Aberdâr
y diwrnod wedyn, a gwaethygu wnaeth y tyndra wrth i fywyd
y glowyr a’u teuluoedd fynd yn galetach.
Buodd achosion o drais am y tro cyntaf ar 2il Tachwedd. Roedd
nifer o lafurwyr yn dal i weithio, a daeth y trên oedd
yn eu cludo i Groesfan Tonllwyd. Bu ymosodiad ar y trên,
a bu rhai’n taflu cerrig at dai swyddogion glofeydd.
Berwodd y cyfan
drosodd ar 8fed Tachwedd. Daeth
2,000 o bobl i Neuadd Gyhoeddus ac Institiwt Cwm-bach, ac
aeth 500 o’r rhain i lawr i ymosod ar Lofa Aberaman.
Llwyddodd yr amddiffynwyr i’w gyrru’n ôl
â dwr o bibellau tân, ond yn y cyfamser roedd
y 1,500 o bobl eraill wedi dechrau’r prif ymosodiad,
ar y pwerdy. Dim ond 29 o blismyn oedd yn amddiffyn, ond defnyddion
nhw dactegau syfrdanol newydd. Ar ôl cysylltu’r
ffens allanol â’r trydan, fe ddechreuon nhw daenu
dwr poeth o’r bwyleri dros y dorf. Pan oedd y dorf wedi’u
drysu a’u dychryn yn llwyr, fe ruthrodd y dorf arnyn
nhw a’u gyrru i lawr lein y rheilffordd i lan y gamlas.
Rhwng y gwasgu a’r gwthio a’r brwydro i gyd, disgynnodd
rhai o’r gwrthdystwyr i’r gamlas. Cafodd 60 o’r
gwrthdystwyr eu hanafu, gan gynnwys un dyn a losgwyd yn ddifrifol
gan y ffens drydan.
Uchod: Golchfa a Phwerdy Dyffryn Canol tua 1920. Dyma
lle bu’r prif ymosodiad yn ystod terfysg 8fed Tachwedd
1910.
Codai trais ei ben yn aml
yn Aberaman drwy gydol mis Tachwedd. Câi ffenestri
siopau’u torri, a bu swyddogion glofa yn dargedau
cyson. Amgylchynnodd torf o 1,500 un dyn ar orsaf Aberaman,
ac ymosododd rhai ohonyn nhw arno. Torrodd cynnulleidfa
capel ar draws y gwasanaeth a mynnu troi swyddog glofa allan
o’r addoldy. Dro arall, ymgynullodd torf y tu allan
i Neuadd Aberaman, gwragedd a phlant yn bennaf, ac ymosododd
plismyn ar gefn geffylau arnyn nhw. Digiodd pobl yr ardal
yn fawr am hyn, a galw am ymchwiliad. Chwith: Plant a gwragedd glowyr Aberdâr yn mynd â
glo adref o’r tipiau yn ystod Streic y Blociau, 1910.
Yn y diwedd, dechreuodd y caledi fynd yn drech na’r
glowyr, a bu rhaid iddyn nhw ddychwelyd i’r gwaith ar
2ail Ionawr 1911. Dim ond hanner y dynion fu’n gweithio
i gwmni Powell Duffryn gafodd swyddi ar y dechrau, ond cafodd
rhagor o lowyr eu cyflogi ar ôl i’r gwaith trwsio
gael ei gwblhau. Ond hyd yn oed erbyn diwedd 1911, roedd tua
1,000 o lowyr yn dal i gael eu cau allan o’r gwaith
ac yn dibynnu ar arian o’r undeb. Achubodd rheolwyr
cwmni Duffryn Powell ar y cyfle i gau glofa gyfan yn ogystal
â sawl hedin lle’r aethai’r glo’n
denau.