Mae'r toriad o
bapur sydd cyferbyn yn arwydd o'r gystadleuaeth rhwng y
brodyr Linton a Jimmy Michael
BEICIO PROFFESIYNOL. MICHAEL YN ERBYN Y BRODYR LINTON,
HER AGORED
Rydyn ni wedi derbyn y llythyr canlynol oddi wrth Jimmy Michael mewn perthynas â'r
cwestiwn pwy yw pencampwr beicio pellter canol y byd:-
"O weld fod Tom Linton yn ymffrostio ym mhapurau'r De ei fod ef yn gallu
fy maeddu i, a'i fod e'n fodlon beicio yn fy erbyn i unrhyw amser, a bod ei
frawd Arthur yn 'bencampwr y byd', rydw i'n barod i feicio yn erbyn unrhyw
un ohonyn nhw, a rhoi iddyn nhw flaen o ddwy lap mewn 100 cilomedr, tair mewn
100 milltir, neu bedair lap mewn chwe awr am £100 bob ochr a'r taliadau
mynediad i gyd, mewn ras i'w chynnal ar drac Buffalo neu Winter ym Mharis.
Rydw i wedi rhoi £20 ar gadw gyda Sporting Life, felly'r cyfan sy rhaid
iddyn nhw ei wneud yw rhoi'r un ernes a bydd popeth yn barod ar unwaith, neu
roi'r gorau i gegan.
"Rydw i'n fodlon cystadlu yn erbyn unrhyw un arall yn y byd ar yr un amodau,
gan mai fi yw pencampwr pellter canol y byd nid A Linton. Yr ydwyf, ac ati .....
"Jimmy Michael"
19 Avenue Phillipe le Boucher,
Neuilly,
Paris