Fel croesfan y gwahanol ffyrdd o deithio y dechreuodd
pentref Abercynon dyfu yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.
Roedd Camlas Morgannwg, Camlas Aberdâr, a Rheilffordd
Dyffryn Taf i gyd yn mynd drwy'r ardal, ac roedd angen
gwestyau a thafarnau i'r teithwyr yn ogystal ag i weithwyr
y camlesi a'r rheilffyrdd. Dyna pam y cafodd y Junction
, y Swan , y Boatman , y New Inn , y Navigation , a'r
Traveller's Rest eu sefydlu .
Chwith: Gwesty'r
Junction ,
Abercynon tua 1900
Cafodd llythyrdy a siop bob peth dan yr un to'u hagor, a bu raid codi tai
i'r holl weithwyr. Roedd nifer o enwau ar lafar i'r pentref 'Navigation',
'Y Basin' ac 'Aberdare Junction', bob un yn sôn am y gwahamol ffyrdd
o deithio. Ym 1889, dechreuodd cwmnïau glo gloddio pyllau, a chafodd
strydoedd newydd eu hadeiladu ar hyd ochrau'r cwm i ddarparu cartrefi
i'r gweithwyr oedd yn heidio i mewn. Ymhlith y strydoedd yma roedd Martin's
Terrace, Station Terrace (Ynysmeurig Road erbyn hyn), a Catherine Street
(Herbert Street bellach). Roedd rhaid cael un enw i'r pentre, a daeth
pobl at ei gilydd mewn cyfarfod cyhoeddus ym 1893 i ddewis yr enw Abercynon.
Yn ogystal â'r siopau a'r gweithfeydd, fe godwyd nifer o adeiladau
pwysig eraill gan gynnwys Ysgol y Navigation ym 1896, a Neuadd y Gweithwyr
ym 1905.
Ymhlith y bobl a ddaeth i Abercynon
i fyw roedd aelodau nifer o enwadau a chyrff crefyddol.
Cododd y bobl yma gapeli ac eglwysi i ddiwallu'u hangenion
crefyddol. Agorodd y Bedyddwyr Eglwys Calfaria ym 1894,
dechreuodd yr Annibynwyr Bethania ddwy flynedd yn ddiweddarach,
a chysegrodd Eglwys Loegr eglwys newydd, Sant Dunwyd,
ym 1908.
De: Glancynon Terrace ac Eglwys
Calfaria (B.)
Diwydiant Glo
Abercynon
Mae gwythiennau glo Abercynon yn gorwedd
yn ddwfn dan yr wyneb. Un enghraifft yw gwythïen
Gelli-deg, sy'n 146 o lathenni dan yr ywneb yn Aberdâr,
a 170 o lathenni dan yr wyneb yn Abercynon. Dyna pam
fod glofeydd Abercynon wedi dechrau tua diwedd y 19eg
ganrif, yn ddiweddarach na'r pyllau ymhellach i fyny
Cwm Cynon. Busnes costus iawn yw cloddio am lo fodd
bynnag, ac fe fyddai cloddio yn Abercynon yn gofyn
am byllau dyfnach a mwy o faint. Er hynny fe lwyddodd
peirianwyr i drechu'r problemau yma, a bu'r glofeydd
llwyddiannus yma yn ffynnu yn Abercynon am gyfnod.
Uchod: Roedd Glofa Abercynon
(Glofa Dowlais Caerdydd) gyda'r dyfnaf ym maes
glo'r De adeg ei gloddio.
Glofa Abercynon:
Glofa Dowlais Caerdydd oedd enw gwreiddiol y lofa
yma, gan taw Cwmni Haearn Dowlais oedd wedi dechrau'r
pwll. Dechreuon nhw gloddio'r pwll ym 1889, ond aethon
nhw i drybini'n fuan iawn gan fod gormod o ddwr ynddo.
Bu raid gosod pympiau i dynnu'r dwr allan, ac erbyn
1906 roedd y lofa gyfan wedi'i chwblhau. Yr adeg
honno, dyma oedd y pyllau dyfnaf ym maes glo'r De
i gyd. Newidiodd Cwmni Haearn Dowlais ei enw i Guest
Keen and Company ym 1901, a daeth hwnnw yn rhan o
Guest Keen and Nettlefolds Ltd. - GKN - ym 1903.
Yn nes ymlaen, fe roes GKN y gorau i gloddio am lo
yma yn y De. Daeth y pwll yn eiddo i Welsh Associated
Collieries Ltd erbyn 1931. Unodd y cwmni yma â Powell
Duffryn ym 1935 i ffurfio Powell
Duffryn Associated
Collieries Ltd. ym 1935. Daeth y lofa dan reolaeth
y Bwrdd Glo Gwladol adeg gwladoli'r diwydiant glo
ym 1947. Ym 1971, cysylltodd y Bwrdd Glo'r pwll yma â Glofa
Lady Windsor, Ynys-y-bwl, dan ddaear. Caeodd y Bwrdd
Glo'r Pwll ym 1988.
Glofa Carne Park:
Glofa gymharol fechan oedd hon, yn cynnwys nifer
o lefelau i'r de-orllewin o Eglwys Dunwyd. Nid
oes neb yn sicr pryd yn gywir y dechreuodd y lofa
yma. Roedd y lofa'n gweithio erbyn 1864, er nad
yw enw'r perchennog ar gael bellach. Roedd y lofa
yn nwylo'r Carne Park Colliery Co. Ltd., ond aeth
yn fethdalwr ym 1911. Er hyn roedd hi'n gweithio
eto ym 1916, dan reolaeth y Brodyr Richardson.
Ni chafodd y lofa'i gwladoli ym 1947, ac erbyn
1957 roedd hi'n eiddo i D. Leonard a'i Bartneriaid.
Nid oes cofnod o ddyddiad cau'r lofa.
De: Cyffordd Abercynon tua
1905
Richard Trevithick
Peiriannydd o Gernyw oedd Richard Trevithick,
y cyntaf i redeg locomotif ager ar reilffordd. Ac yntau'n
gweithio i Samuel Homfray yng ngwaith haearn Pen-y-Darren
ger Merthyr Tudful, fe fentrodd ei gyflogwr 500 gini
y gallai Trevithick dynnu deg tunnell o haearn mewn
trên tu ôl i locomotif ager o Ferthyr i
Fasn Abercynon. Adeiladodd Trevithick injan ager wasgedd
uchel i dynnu trên yn cludo deg tunnell o haearn,
saith deg o ddynion, a phump o wagenni. Yn anffodus,
fe drawodd corn mwg yr injan yn erbyn pont isel yn
fuan ar ôl cychwyn, a chafodd y corn mwg a'r
bont ryw faint o ddifrod. Atgyweiriodd Trevithick y
corn mwg, ac ailgychwyn ar ei daith. Cwblhaodd y daith
9 ½ milltir i Abercynon ar gyflymdra o 5 milltir
yr awr. Diolch i Richard Trevithick, roedd Samuel Homfray
wedi ennill ei 500 gini.