Cafodd Clwb Cyfansoddiadol cyntaf Aberdâr
ei sefydlu ym 1884, mewn adeilad yn Commercial Place
(Victoria Square). Symudodd y Clwb i adeilad mwy helaeth
yn 28, Canon Street yn 1885, ond gymaint oedd twf y
clwb nes bod yr aelodau'n gorfod chwilio am safle mwy
helaeth byth.
Ym 1888, fe brynodd yr Arglwydd Merthyr darn o dir i
godi Clwb Cyfansoddiadol Aberdâr arno. Cafodd y
cynlluniau ar gyfer yr adeilad eu cymeradwyo, ac erbyn
mis Gorffennaf 1893 roedd y gwaith wedi'i gwblhau. Roedd
y Clwb Cyfansoddiadol yn cynnwys 3 o siopau, bar, a'r
Neuadd Gyfansoddiadol ar y llawr gwaelod; ystafell filiards,
ystafell cardiau, ystafell ddarllen, llyfrgell, ac ystafell
bwyllgor ar y llawr cyntaf; ac ar y trydydd llawr roedd
y ceginau, gyda lifft i'r llawr gwaelod.
Daeth J. M. Mclean, ymgeisydd y Ceidwadwyr yng Ngaherdydd, i agor y Clwb
yn swyddogol mewn seremoni ar 15f ed Mawrth 1894.
Roedd pensaernïaeth y Clwb Cyfansoddiadol yn llawer mwy addurnol
adeg ei adeiladu na beth yw hi heddiw. Mae'r llun hwn yn dangos y balwstrad
a redai ar hyd y to, t w r y cloc, a'r porth addurnol mawreddog.
Daeth y Neuadd Gyfansoddiadol yn ganolfan adloniant o bwys i drigolion
Aberdâr. Câi'i defnyddio mewn sawl ffordd wahanol, gan ddibynnu
ar beth oedd yn ffasiynol ar y pryd. Ym 1905, cafodd y Neuadd ei hailenwi'n Palace
Theatre of Varieties , ond Palace Theatre of Varieties oedd
hi o 1909 ymlaen. Pan gaeoedd y Theatr, cafodd y Neuadd ei haddasu'n
ystafell ddawnsio ac ystafell gyngerdd. Pan wawriodd y Chwedeau, dyma'r
Neuadd yn ailagor fel y Go-Go Bar , ac, yn ddiweddarch, Decker's
Nightclub oedd yr hen le.