Uchod: Yr Ysgol Genedlaethol, Cardiff
Street, Aberdâr
Cafodd yr Ysgolion Cenedlaethol i Fechgyn ac i Ferched
eu hadeiladu ym 1829. Ardalydd Bute oedd wedi rhoi'r tir.
Cynyddu'n gyflym oedd poblogaeth plwyf Aberdâr yr adeg
honno, a doedd dim llawer o gyfle i blant gael addysg. Fuodd
fawr o welliant tan ar ôl tua 1850. Ym 1847, cyhoeddodd
comisiwn Seneddol eu hadroddiadau ar yr Ymchwiliad i Gyflwr
Addysg yng Nghymru. Roedd yr adroddiadau'n nodedig am eu
gelyniaeth tuag at y Gymraeg ac at Anghydffurfiaeth. Hyd
heddiw mae'r Ymchwiliad yn cael ei alw'n ‘Brad y Llyfrau
Gleision, a bu gwrthwynebiad chwyrn iddo yn Aberdâr.
Ond fe nododd yr Ymchwiliad fod dim ond dwy Ysgol Genedlaethol,
dwy o ysgolion gweithle, a chwech o ysgolion preifat – i
boblogaeth o 15,000. Roedd 110 o fechgyn a 60 o ferched ar
lyfrau'r Ysgolion Cenedlaethol. 111 o'r plant oedd wedi bod
yn mynychu'r ysgol. Bu'r adroddiad yn sbardun mawr i achos
addysg yn yr ardal. Agorodd Ysgol Brydeinig newydd ym Mharc
y Comin, Trecynon ,
ym 1848, a chafodd Ysgolion Prydeinig Hirwaun eu hagor y
flwyddyn ganlynol.
Caeodd Morris Jacob & Sons tua 1985, ar ôl
dros ganrif o wasanaethu defnyddwyr Aberdâr. Agorodd
y busnes ym 1874 yn siop ddillad, gemau, a gwystlo. Byddai'r
busnes gwystlo'n gweithredu o ystafell gefn, gyda'r cwsmeriaid
yn cael eu tywys yno drwy'r brif siop.
Tua: Morris Jacob & Sons, tua
1934
Bu tân yn siop ddillad a hetiau Cymdeithas Gydweithredol
Aberdâr ar 11 eg Mai 1919. Sylwodd pobl ar y tân,
ar gornel Cardiff Street a Station Street, tua 11.00. Bu
Brigâd Dân Aberdâr wrthi tan 2.30 yn
y prynhawn yn ymladd i gael rheolaeth ar y tân, a
chafodd nifer ohonyn nhw'u hanafu. Ymhlith
y rhain roedd W G Pink. Bu diffoddwr dewr yma farw wrth
ymladd y tân yn Ysbyty Cyffredinol Aberdâr
ddeng mlynedd yn ddiweddarach . Doedd ond cragen wag
yr adeilad ar ôl, a bu difrod difrifol yn y busnesau
cyfagos, Halls & Son a siop gig Miles. Cafodd y siop
newydd ei hagor ym mis Gorffennaf 1923, gan Mr. Hale (Cadeirydd
Cymdeithas Gydweithredol Aberdâr). Roedd G. H. Hall,
Aelod Seneddol Aberdâr, yn bresennol yn y seremoni.