Tua diwedd yr 1840au, dechreuodd Commercial Street
ddatblygu'n un o brif ganolfannau masnach Aberdâr.
Dyma lun sy'n dangos mor brysur oedd canol y dref pan oedd
Aberdâr ar ei mwyaf ffyniannus. Mae un o fysiau troli
Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr yn ymlwybro i fyny'r
stryd rhwng y cerddwyr. Cynyddodd poblogaeth Aberdâr
drwy'r 19eg ganrif, a chyrraedd 50,830 ym 1911. Cyrhaeddodd
y boblogaeth uchafbwynt o 55,007 erbyn 1921, ond dechreuodd
fynd i lawr eto wrth i'r dirwasgiad yn y diwydiant glo
waethygu. Erbyn diwedd yr Ail Ryfel Byd, roedd y boblogaeth
wedi dirywio i 38,930. Mae'r boblogaeth wedi dal yn weddol
sefydlog ers hynny.
Mae'r llun hwn yn dangos grwp o filwyr yn sefyll
o flaen adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc rywbryd
yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. 23, Commercial Street oedd
adeilad Cymdeithas Gristnogol y Gwyr Ifainc, ar y gornel â Gloucester
Street.
Mae'n debyg bod y milwyr hyn yn aros yn Nhy Windsor, Trecynon.
Cafodd Ty Windsor ei ddefnyddio yn ystod y Rhyfel fel ysbyty
i aelodau o'r lluoedd arfog oedd wedi cael eu clwyfo. Cafodd
yr ysbyty milwrol ei agor gan yr Arglwydd Aberdâr.
Cymdeithas y Groes Goch oedd yn rhedeg yr ysbyty, ac roedd
lle yno i 60 o gleifion.
Ysbyty oedd ar y safle yn wreiddiol, yn ôl ym 1875. Cafodd y lle'i droi'n
ysgol ddiwydiannol wedyn gan Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful. Roedd lle yn
yr ysgol i 120 o blant tlawd ac amddifad. Bydden nhw wedi dysgu crefftau fel
amaethu, neu wneud esgidiau, er mwyn iddyn nhw fedru ennill bywoliaeth ar ôl
ymadael â'r ysgol.
Mae pwn isaf Commercial Street wedi newid yn aruthrol
ers tynnu'r llun hwn tua diwedd y 19 eg ganrif. Mae'r llun
yn dangos y Bont Haearn wreiddiol oedd yn cysylltu ganol
Aberdâr ag Abernant . Mae'n debyg bod y bont wedi'i
chodi cyn 1844, gan i westy'r Iron Bridge Hotel agor y
flwyddyn honno. Y gwesty hwnnw sydd ar ochr chwith y llun,
gyferbyn â'r Commercial Hotel . Caeodd yr Iron Bridge
ym 1982. Ym 1983, cafodd y ddau westy, a nifer o adeiladau
masnachol eraill, eu tynnu i lawr yn ystod gwaith adeiladu
Ffordd Osgoi Aberdâr.