Cafodd y pwll yma'i sefydlu yn dilyn yr angen i gael
glo a haearnfaen i gadw Gweithfeydd Haearn y Gadlys ar
agor. Roedd i'r pwll, sy'n cael ei alw'n Pwll Fictoria
hefyd, nifer o siafftiau. Roedd rhai ar gyfer cloddio glo
ac eraill ar gyfer cloddio haearnfaen. Roedd y pwll mewn
man delfrydol – ychydig dros
400 o lathenni o'r Gweithfeydd Haearn.
Cafodd y cwmni ganiatâd yn 1845 i gloddio am lo yng
Nglofa'r Graig, glofa gyfagos ar lethrau isa'r Graig i gyfeiriad
y De.
Chwith: Glofa'r Gadlys
1875 oedd y flwyddyn olaf i haearn gael ei gynhyrchu
yng Ngweithfeydd Haearn y Gadlys. Serch hynny, arhosodd
y lofa ar agor tan 1939.
Wedi hynny, defnyddiwyd y lofa'n orsaf bwmpio tan y 1960au.
Roedd rhaid parhau i ddefnyddio'r injan weindio gan fod
y pympiau'n agos i waelod y lofa ac angen eu cynnal a'u
cadw'n rheolaidd. Cafodd offer pen y pwll ei dynnu i lawr
fis Mai 1972.
Dde: Glofa'r Gadlys y pwll glo cyn ei
ddymchwel ym 1972