Agorodd Gwaith Haearn y Gadlys ym 1827, trwy bartneriaeth oedd yn cynnwys George
Rowland Morgan, Edward Morgan Williams a Matthew Wayne. Roedd Matthew Wayne
wedi bod yn rheolwr ffwrnais yng Nghwaith Haearn Cyfartha, a chyda cymorth ei
fab, Thomas Wayne, roedd e wedi chwarae rhan flaenllaw o ran datblygu'r farchnad
gwerthu glo yng Nghwm Cynon. Dim ond un ffwrnais oedd Waith Haeaern y Gadlys
pan agorodd a rhoddwyd y ffwrnais i chwythu am y tro cyntaf ym 1828. Pan roddwyd
y Gwaith ar werth yn 1835, roedd yn cynnwys 350 o erwau o hawliau cloddio a
chloddfa haearn a oedd yn cyflogi 150 o ddynion. Roedd yr unig ffwrnais chwyth
yn gallu cynhyrchu rhwng 1,700 a 2,000 tunnell o haearn y flwyddyn. Yn ystod
y blynyddoedd wedyn, cafodd y gwaith wedi ei ymestyn ac erbyn 1850 roedd tair
ffwrnais chwyth ar y safle ac un arall wedi'i hychwanegu erbyn 1854.
Ar ôl cyfnod
o ehangu yn ystod y 1860'au, roedd y Gwaith Haearn ar ei
fwyaf adeg gwneud arolwg ar gyfer y Map Ordnans cyntaf
ym 1868. Mae modd gweld y pedair ffwrnais chwyth ar y map
(1); y Ty Castio (2); Ffwrneisiau Pwdlo a Melinau Rholio
(3); Ffyrnau Golosg ac Odynau Cloddio (4).
Am y rhan fwyaf o'i oes, cynhyrchodd Gwaith Haearn y Gadlys haearn ar gyfer
barrau tunplat, ond ym 1861 dechreuodd gynhyrchu cledrau haearn gyrru. Ym 1872,
roedd pymtheg o ffwrneisiau pwdlo a dwy felin rolio ar waith yno, ac roedd y
gwaith yn gallu cynhyrchu rhwng 500 a 600 o gledrau'r wythnos. Serch hynny,
fel yn achos Gweithiau Haearn Aberdâr ac Aber-nant, methodd Gwaith Haearn
y Gadlys â goroesi'r dirywiad yn y fasnach a daeth y gwaith i ben ym 1876.
Adfeilion Gwaith Haearn y Gadlys yw'r rhai sydd wedi'u cadw orau o holl Weithiau
Haearn Cwm Cynon. Mae ty'r injan, a oedd yn cynnwys yr injan a gyflenwodd y
chwyth wedi'i adfer ac mae'r cytiau castio'n safle i Amgueddfa Cwm Cynon bellach.
Mae adfeilion y ffwrneisi chwyth yn dal mewn cyflwr da ar y cyfan, ac mae modd
eu gweld nhw y tu ôl i adeilad yr Amgueddfa.