Mr. William Jenkins sefydlodd y Theatr Fach, ym 1908. Ar y dechrau, byddai'r
aelodau'n cwrdd yn nhafarn y Park View, Trecynon. 'Cymdeithas Ddrama Amatur
Trecynon' oedd eu henw'r adeg honno. Byddai'r elw yn mynd at achosion da gan
mwyaf.
Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, dechreuodd y Gymdeithas lwyddo mewn cystadlaethau
drama, ac erbyn 1930 roedd £400 yn y banc. Penderfynodd y Pwyllgor fod
digon o arian i gael cartref i'r Gymdeithas. Ym 1930 fe sylwodd y Cadeirydd,
Tom Phillips, y byddai hen d y injan Gwaith Glo'r Gadlys yn gwneud theatr fach
wych. Dywedodd Tom wrth y perchennog, Syr D.R. Llewellyn, a dyma hwnnw yn penderfynu'i
roi i'r Gymdeithas. Roedd gofyn am waith caled i addasu'r hen d y injan, ond
erbyn dechrau 1931 roedd y 'Chwareudy' yn barod, gyda 318 o seddi. Miss Elizabeth
Llewellyn agorodd y Theatr, ac A Woman of Compassion, gan Florence Howell, oedd
y ddrama gyntaf a gafodd ei pherfformio ar Chwefror 19 eg 1931. Dyma'r adeg
y dechreuodd y Gymdeithas arddel yr enw 'Chwareudy Bach Aberdâr'. Y nhw
oedd y gymdeithas ddrama amatur gyntaf yng ngwledydd Prydain i fod yn berchen
ar eu theatr eu hunain.
Yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yn y Chwareudy, byddai'r
Cwmni yn chwarae wyth drama bob tymor. Roedd 313 o aelodau
gyda nhw ym 1931, ac erbyn 1935 roedd y nifer wedi codi
i 1,250. Aethon nhw o nerth i nerth yn y cystadlaethau,
a chyrhaeddon nhw rownd derfynol cystadleuaeth drama un
act Cynghrair Drama Prydain 3 o weithiau. 1928 oedd y tro
cyntaf, enillon nhw wobr yr Arglwydd Howard de Walton ym
1948, a chyrhaeddon nhw Lundain y trydydd tro ym 1951.
De: Yr agoriad ffurfiol gan Miss Elizabeth Llewellyn
Ymhlith campau eraill y Cwmni oedd yr ymddangosiad
teledu cyntaf gan gymdeithas ddrama amatur (1948), a pherfformiad
cyntaf gan gwmni o Gymru yng Ng w yl Caeredin (1950). Collodd
y Cwmni ei gartref am y tro yn 1942, pan gymerodd y Weinyddiaeth
Bwyd feddiant o'r adeilad i fod yn storfa fwyd. Cyflwynai'r
Cwmni lawer o gynhyrchiadau yn y Colisëwm dros y blynyddoedd
nesaf, ac ni ddychwelodd yn llwyr i'r Chwareudy tan 1958.
Cyn hir roedden nhw'n brysur wrthi ac yn perfformio. Cafodd
yr adeilad ei adnewyddu, ac yno mae'r Cwmni'n perfformio
o hyd.
Chwith: Y Chwareudy Bach tua 1959
Bu hi'n waith caled ar adegau i gystadlu â'r
sinema a'r teledu. Ond mae cefnogaeth y gymuned i'r Theatr
i'w gweld mor gryf ag erioed. Cafodd yr adeilad ei ddifrodi'n
ddifrifol gan dân ym 1978. Lawnsiodd y Cwmni apêl
am arian i drwsio'r Chwareudy. Fe fu hyn mor llwyddiannus
nes bod y Chwareudy ar agor eto ym 1979. Cafodd yr adeilad
ei wella a'i gynnal a'i gadw yn barhaus oddi ar hynny,
ac mae safonau'r perfformiadau mor uchel ag erioed. Heddiw
mae'r Cwmni'n dal i gynhyrchu sioeau llwyddiannus sy'n
denu cefnogaeth y gymuned leol .