Ac yntau wedi'i eni yn Swydd Essex ym 1851,
cododd William Haggar ei bac yn 18 oed, gadael ei gartref
ac ymuno â charfan o ddiddanwyr teithiol. Cefnodd
William ar y band wedi ond cyfnod byr yn eu cwmni ond fe
barhaodd i deithio gan symud o un garfan o actorion teithiol
i un arall. Dyma'r adeg pan gyfarfu â Sarah Walton,
ei ddarpar wraig a merch perchennog y cwmni teithiol. Priododd
William a Sarah ym 1870 ac, yn ddiweddarach, fe sefydlon
nhw gwmni eu hunain. Treuliodd y ddau lawer o'u hamser
yn teithio Deheubarth a Gorllewin Cymru ac yn ystod y cyfnod
yma fe ymwelon nhw ag Aberdâr am y tro cyntaf – tref
a oedd i dyfu'n un o'u ffefrynnau.
Aeth Haggar i Lundain ym 1897 i ymweld ag un o'r sinemâu
cyntaf. Cafodd ei syfrdanu gan y sioe ac fe brynodd daflunydd
(projector) yng Nghaer-wysg ym mis Medi'r flwyddyn honno.
Bu perfformiad cyntaf ei sioe ' Bioscope ' ar
Ebrill 5ed 1898 yn ffair Aberafan. Cynhyrchodd ei ffilm
gyntaf ym 1901 – ffilm o drên yng Ngorsaf Porth Tywyn – pan
fu'i sioe deithiol yn ymweld â'r dref. Ond llwyddiant
ei felodrama 15-munud 'Maid of Cefn Ydfa' – o bosib, ffilm
ffuglen gyntaf Prydain – cychwynnodd ei yrfa yn gynhyrchydd
ffilmiau. Parhaodd ei yrfa tan 1909, cyfnod pan gynhyrchodd
e rhwng pedwardeg
a chwedeg o ffimliau naratif , nifer ohonyn nhw'n cynnwys
aelodau o'i deulu, gan gynnwys ei fab, William Haggar Junior.
Chwith: William Haggar
Bu ei wraig Sara farw ym 1909. Dyma ergyd oedd yn ddigon
iddo benderfynu i ddod â'i yrfa yn gynhyrchydd i
ben a bodloni ar fod yn berchennog sinema. Roedd y sinema
honno'n Aberdâr ac ym 1910, agorodd Colisëwm
William Haggar ( Haggar's Electric Palace oedd
yr enw erbyn 1912) ar safle parhaol ar Sgwâr y Farchnad.
Ym 1912, priododd Haggar Mary Davies, merch Jenkin Davies,
gwestywr tafarn 'Bird in Hand Inn' yn Monk Street, Aberdâr.
Adeiladodd e a Mary dy yn Abernant - a'i enw - 'Kinema
House'
I'r dde: Un o sinemâu teithiol
cynnar Haggar tua 1908
Roedd y blynyddoedd canlynol yn rhai prysur dros ben
i William Haggar. Ym 1913, fe brynodd e ryddfraint y neuadd
ymarfer cyferbyn ei safle yn sgwâr y farchnad er
mwyn adeiladu sinema. Yn ogystal â hynny, cafodd
ei ethol yn aelod o Bwrdd Llywodraethwyr Aberdâr
yn yr un flwydddyn, ac ym 1914, cafodd ei ethol yn gynghorydd
ar Gyngor Dosbarth Dinesig Aberdâr.
Chwith: Llun o William Haggar y tu
allan i "Kinema House" yn
Abernant gyda'i ferch a'i ail wraig.
Agorodd y sinema, o'r enw 'Kosy Kinema', ar 23 Awst
1915. Dyma oedd adeilad hardd gyda seddau a oedd yn plygu
ar gyfer 700 o bobl – rhywbeth oedd yn cael ei ystyried
yn foethus dros ben yn y cyfnod yma! Cafodd y sinema ei
hailwampio a'i hailenwi 'The Cosy Cinema' ym 1927 a gwerthwyd
hi i Gapten Willis o Bentre Rhondda. Yn anffodus, bu tân
mawr yn y sinema ym 1946 a gorfu cau'i drysau. Un o nifer
o sinemâu Haggar oedd ‘The Kosy' - roedd e'n berchen
ar nifer o rai eraill ledled Deheubarth Cymru a Deheubarth
Lloegr. Fe brynodd Haggar y 'Palace' yn Aberpennar ym
1910, ac chafodd hi'i agor yn sinema ym 1912.
Wedi gyrfa ym myd y diwydiant ffilmiau a barodd dros 25
o flynyddoedd, bu William Haggar farw ar 4 ydd Chwefror
1925 yn nhy ei fab Walter, 'Maer-yr-haf', Elm Grove, Aberdâr.
Ac yntau'n cael ei gofio gan drigolion Aberdâr am
ei waith yn berchennog sinema a chynghorydd lleol, mae
William Haggar wedi ennill y parch mae e'n ei haeddu yn
ddiweddar yn un o arloeswyr mwyaf y byd ffilmiau yng Nghymru.
Fe oedd y pwnc dan sylw mewn sioe gan Radio Wales ym mis
Mehefin 1984, 'Haggar's Travelling Picture Show'.
I'r dde: “ The Kosy Cinema” ,
Market Street, Aberdâr