Fel sy'n wir am gymaint o gymunedau cymoedd y De, datblygodd pentref Cwmaman
er mwyn darparu cartrefi a gwasanaethau i weithwyr y glofeydd lleol. Cyn i'r
glofeydd cyntaf agor, roedd Cwmaman yn ardal wledig ddistaw. Dim ond wyth o
ffermydd oedd yno, a phob un o'r rheiny wedi bod yno ers y cyfnod canoloesol
diweddar. Mor ddiweddar â 1841, pan oedd aneddiadau newydd wedi'u hen
sefydlu yn ardal y gweithfeydd haearn i'r gogledd yng nghyffiniau Aberdâr
a Hirwaun, poblogaeth o 40 yn unig oedd gan Gwmaman, ac roedd wedi cadw ei gymeriad
traddodiadol. Fodd bynnag, wrth i'r glofeydd ddechrau agor tua chanol y bedwaredd
ganrif ar bymtheg, cynyddodd poblogaeth y pentref yn sylweddol a chodwyd llawer
o adeiladau newydd. Adeiladwyd llawer o strydoedd Cwmaman, fel Aman Street,
Aman Place, Railway Row, Fforchaman Road a Kingsbury Place rhwng 1850 a1860.
O ganlyniad i'r twf cyflym ym mhoblogaeth y pentref,
roedd angen cynyddol am amwynderau cyhoeddus. Cafodd nifer
o dafarndai eu hagor, a'r cyntaf o'r rhain oedd y Shepherd's
Arms ym 1850, sy'n dal i wasanaethu'r cyhoedd heddiw. Ymysg
tafarndai eraill yr ardal oedd y Cwmneol Inn, y Globe Inn,
yr Ivy Bush Inn, y Mount Pleasant Inn a'r Railway Inn.
Fel mae Cyfeirlyfr Masnach Kelly 1920 yn ei nodi, agorwyd
llu o siopau newydd yn yr ardal. Mae'r cyfeirlyfr yn rhestru
dros ddeugain o fanwerthwyr yng Nghwmaman, gan gynnwys
siop lysiau, pobydd, haearnwerthwr, siop trin gwallt a
siop ddillad. Yn ogystal â hyn, roedd gan Gwmaman
ei swyddfa bost ei hun, a sefydlwyd cyn 1875, a Neuadd
Gyhoeddus a Sefydliad y Glowyr, a agorwyd ym 1892.
De: Y Globe Inn tua 1900
Mae crefydd wedi cyfrannu at fywyd y gymuned hefyd,
ac mae nifer o addoldai wedi'u hagor i wasanaethau'r gymuned.
Y cyntaf o'r rhain oedd Capel Annibynwyr Cymraeg Aman Moriah,
a agorwyd ym 1855, a dilynwyd hyn gan Gapel Bedyddwyr Cymraeg
Seion (1859), Capel Presbyteraidd Cynnar Cymraeg Soar (1859),
Capel Methodistaidd Cynnar Saesneg Bethel (1872/73), Eglwys
Anglicanaidd Sant Joseff (1880/81) a Chapel Bedyddwyr Saesneg
Trinity (1901).
Yn y llun hwn (dde) mae mam a dau
blentyn yn sefyll wrth ddrws un o dai'r glowyr yn Fforchaman
Row. Mae'r craciau yng ngwaith rendro'r waliau yn dangos
pa mor gyflym yr adeiladwyd y tai hyn – nid oedd yr adeilad
wedi cael amser i setlo cyn i'r gwaith rendro gael ei
wneud.
Diwydiant Glo Cwmaman
Sefydlwyd pentref Cwmaman ar ôl i wythiennau glo cyfoethog gael eu darganfod
yn yr ardal ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae twf y pentref yn
gysylltiedig â datblygiad y diwydiant glo ager a'r tair glofa fawr a sefydlwyd
yn yr ardal, sef:
GLOFA CWMNEOL:
Yn fwy adnabyddus fel Pwll Morris, hon oedd y lofa gyntaf
i gael ei hagor yn ardal Cwmaman. Fe'i hagorwyd ym 1848
gan John a Charles Carr o Northumberland a Martin Morrison
o Gasnewydd. Y bartneriaeth hon oedd perchnogion y lofa
tan 1865 pan gafodd ei gwerthu i'r Aman-Aberdare Coal Co.
Ltd. Ym 1868 gwerthwyd y lofa i'r Powell
Duffryn Steam
Collieries Co. Ltd., a ddaeth yn ei dro yn gwmni glo cyfun
mwya'r byd. Y cwmni hwn oedd perchnogion y lofa nes i'r
diwydiant glo gael ei wladoli ym 1947. Daeth y Bwrdd Glo
Cenedlaethol yn berchnogion y lofa wedyn, gan benderfynu
ei chau ym 1948.
GLOFA CWMAMAN
Hefyd yn adnabyddus fel Glofa Shepherd. Agorwyd y siafftau
cyntaf ym 1849, a darganfuwyd glo ym mis Rhagfyr y flwyddyn
honno. Sefydlwyd y lofa gan Thomas Shepherd mewn partneriaeth â H.
J. Evans, a fu'n rheoli'r lofa ar ei ben ei hun wedi hynny.
Ffurfiwyd y Cwmaman Coal Company er mwyn prynu'r lofa ym
1873. Cafwyd cyfnod o ehangu wedyn, wrth i bwll Fforchwen
agor ym 1900 a phwll Trewen agor rhwng 1910 ac 1912. Ym
1918 gwerthwyd y lofa gan Cwmaman Coal Co. Ltd. i D. R.
Llewellyn, ac fe'i gwerthwyd eto i Bwllfa and Cwmaman Coal
Co. Ltd. ym 1928 ac i Welsh Associated Collieries Ltd.
ym 1934. Pan gaeodd y lofa ym 1935, Powell Duffryn Associated
Collieries oedd y perchnogion.
GLOFA FFORCHAMAN
Hefyd yn adnabyddus fel pwll Brown. Sefydlwyd y lofa
gan James Brown a Thomas Prothero (& Co.) a gafodd
les i weithio'r gwythiennau glo gan y perchnogion perthnasol
ym 1856. Gwerthwyd Pwll Fforchaman gan y bartneriaeth hon
ym 1864 i'r United Merthyr Colliery Co. Ltd., ac fe'i gwerthwyd
gan y cwmni hwnnw i'r Powell
Duffryn Steam Coal Company
ym 1868. Y cwmni hwn oedd perchnogion y lofa nes i'r diwydiant
glo gael ei wladoli ym 1947. Caewyd y lofa gan y Bwrdd
Glo ym 1965.
Yn ogystal â'r ddwy lofa fawr, ceisiwyd
sefydlu dwy lofa lai, sef Glofa Fforchneol (1868 - 1893)
a Glofa Bedwlwyn (1865-1901).
Sefydliad Cwmaman
Agorwyd y Sefydliad fis Mawrth 1868, a hon, o bosibl, oedd y fenter hirhoedlog
gyntaf o'i math yng Nghwm Cynon. Fe'i hagorwyd yn wreiddiol fel ystafell ddarllen
mewn ty a ddarparwyd yn ddi-dâl gan y Cwmaman Coal Company, cyn symud
i 10a Railway Terrace ym 1881. Ym 1884 cytunodd gweithwyr Glofa Cwmaman i sefydlu
cynllun puntdal, lle byddai dimai ym mhob punt o'u cyflogau wythnosol yn cael
ei didynnu er mwyn creu sefydliad mwy yn y Tea Caddy Shop yn rhif 130 a 131,
Glanaman Road.
Cyn hir nid oedd digon o le yn
yr adeilad hwn, a phenodwyd pwyllgor adeiladu gan gyfarfod
cyhoeddus ym 1889. Sicrhawyd les 99 mlynedd ar dir ar Ystâd
Cwmneol, a phenodwyd pensaer, Thomas Roderick o Clifton
Street, Aberdâr ac adeiladwyr, Mri Powell a Mansell
o Gaerdydd. Agorwyd yr adeilad yn ffurfiol gan Arglwydd
Aberdâr ar 25 Ionawr 1892, ac roedd yn cynnwys neuadd
gyhoeddus gyda seddau ar gyfer 700 o bobl, ystafelloedd
darllen, ystafell biliards a bwthyn i'r gofalwr.
Bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r gwaith adeiladu dros dro pan
ddinistriwyd yr adeilad gan dân ar 19 Ebrill 1896.
Fodd bynnag, aed ati i adfer yr adeilad wedyn, ac roedd y
sefydliad wedi'i gwblhau erbyn tua mis Ionawr 1897. Ychwanegwyd
at y sefydliad drwy adeiladu neuadd lai ym 1906 ac adeilad
unllawr ym 1925. Cyn hir, roedd y Sefydliad yn ganolbwynt
diwylliannol i'r gymuned, gan gynnal eisteddfodau, cyfarfodydd
Cyfrinfa'r Lofa, a dod yn gysylltiedig â Band Pres
Cwmaman ym 1912. Aeth y llyfrgell o nerth i nerth hefyd,
ac erbyn 1911 roedd ganddi 4,273 o lyfrau: 3,679 o lyfrau
Saesneg a 594 o lyfrau Cymraeg.
Uchod: Sefydliad Cwmaman tua 1895 cyn y tân
a ddinistriodd y prif adeilad yn gyfan gwbl. Mae Glofa
Fforchaman ym mhellter canol (chwith) y llun a gellir
gweld Glofa Cwmaman rhwng y ddwy simne yn y pellter. Mae'r tai newydd mewn cyflwr
rhagorol yn yr 1890au, ond dirywiodd amodau byw wedyn wrth i'r pyllau dyfu.
Yn ystod blynyddoedd y dirwasgiad, cafwyd
gostyngiad sylweddol mewn incwm o gynllun puntdal y glowyr,
a chollodd y sefydliad bron i 83% o'i incwm o'r ffynhonnell
hon rhwng 1920 ac 1926. Er gwaethaf hyn, a diolch i grantiau
gan Gomisiwn Lles y Glowyr, llwyddodd y sefydliad i wneud
cyfraniad pwysig at leddfu dioddefaint y gymuned. Prif
waith y sefydliad yn ystod y cyfnod hwn oedd codi arian,
darparu bwyd ac ymgymryd â gwaith gwleidyddol. Yn
ystod y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd canolbwyntiwyd
ar adfywio bywyd diwylliannol y gymuned. Roedd hyn yn cynnwys
ail-sefydlu gweithgareddau diwylliannol sefydledig fel
Band Arian y Sefydliad, a chyflwyno datblygiadau newydd
er mwyn ymateb i newidiadau i batrymau a gwerthoedd cymdeithasol
a ddaeth i'r amlwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Ymysg
y rhain oedd adeiladu sinema gyhoeddus ym 1954 ac agor
eiddo trwyddedig ym 1967.
Câi gweithgareddau diwylliannol eu hyrwyddo o hyd, a
dechreuodd cynyrchiadau theatr byw ffynnu eto, gan arwain at
sefydlu Grwp Theatr y Sefydliad ym 1972. Ym 1992/1993 roedd
modd gwneud gwaith atgyweirio helaeth ar ochr allanol yr adeilad
diolch i grant gan y Swyddfa Gymreig o dan ei rhaglen cymorth
trefol. Mae'r sefydliad yn ganolbwynt i'r gymuned hyd heddiw,
ac er bod llawer o'i swyddogaethau wedi newid yn sylweddol,
mae'n dal i lynu wrth egwyddorion gwasanaeth cymunedol.