Cyn i'r glofeydd agor a phentref Cwmdâr gael ei
sefydlu yn y 1850au, ardal wledig o ffermydd a thyddynnod
gwasgaredig oedd Cwmdâr. Mae nifer o'r ffermydd hyn
yno o hyd, gan gynnwys Bwllfa, Nantmelin a Thir Evan Bach
Traws (Canolfan Farchogaeth Greenmeadow bellach). Fodd
bynnag, diflannodd eraill yn sgil twf y diwydiant glo a
gorchuddiwyd fferm Troedrhiwllech gan wastraff o Bwll Powell
yn ystod y ganrif ddiwethaf.
Chwith: Fferm Bwllfa Dâr, tua
1870
Wrth i'r glofeydd ddechrau agor yn y cwm, adeiladwyd tai ar gyfer y gweithwyr.
Adeiladwyd y tai cyntaf yng Nghwmdâr ar ochrau deheuol a gorllewinol y
pentref yn agos at y glofeydd. Adeiladwyd James Street, David Street a Dare
Road rhwng 1852 ac 1859. Datblygwyd cymuned fechan Pithead yn ystod y cyfnod
hwn hefyd, ar ochr arall y cwm gerllaw Glofa Merthyr Dare. Adeiladwyd gweddill
y pentref ddechrau'r ugeinfed ganrif. Adeiladwyd y tai hyn i'r gogledd-ddwyrain
o'r pentref blaenorol, ac roedd y tir a ddefnyddiwyd yn rhan o Gomin Hirwaun
yn wreiddiol. Ni fyddai'r tir hwn wedi bod ar gael ar gyfer adeiladu pan adeiladwyd
y tai gwreiddiol. Adeiladwyd llawer o'r tai hyn gan Glybiau Adeiladu lleol,
sef cymdeithasau a ffurfiwyd i adeiladu nifer penodol o dai ar gyfer eu haelodau.
Mae amrywiaeth eang o amwynderau wedi gwasanaethu Cwmdâr yn ystod ei hanes.
Y tair prif dafarn oedd: y Collier's Arms (1853 - 1931) wrth y gyffordd rhwng
James Street a Dare Road, y Castle Inn (1866 - 1968) ar Sgwâr Cwmdâr
a'r Tonglwydfawr, a adeiladwyd ym 1853 a'r unig dafarn sydd ar agor yng Nghwmdâr
hyd heddiw. Mae nifer o siopau wedi gwasanaethu trigolion Cwmdâr ar hyd
y blynyddoedd. Yng Nghyfeirlyfr Masnach Kelly 1920, nodir bod 20 o sefydliadau
manwerthu yng Nghwmdâr. Er bod nifer o'r rhain yn siopau bach mewn ystafelloedd
ffrynt cartrefi, sefydlwyd nifer o siopau mawr hefyd, gan gynnwys Groser David
Edwards yn 19 Bwllfa Road, fferyllydd, dwy siop gigydd a dwy siop trin gwallt.
Yn y llun uchod/ar y dde o ddechrau'r ugeinfed ganrif, saif David Edwards gyda
balchder wrth stepen drws ei siop yn 19 Bwllfa Road. Ym 1920 disgrifiwyd y siop
fel siop groser, warws dillad ac esgidiau. Yno hefyd roedd Swyddfa Bost y pentref
lle'r oedd Islwyn Edwards yn Is-Bostfeistr.
Sefydlwyd llawer o addoldai yng Nghwmdâr hefyd.
Agorodd Capel Bedyddwyr Nebo ym 1858, ac adeiladwyd capel
mwy ar yr un safle ym 1868 er mwyn ymdopi â'r nifer
cynyddol o addolwyr yn ôl pob tebyg. Dymchwelwyd y
capel hwn ym 1977. Sefydlwyd Capel Elim gan yr Annibynwyr
ym 1867. Adeiladwyd
Capel Gobaith ym 1875, ac fe'i hail-adeiladwyd ym 1907
. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, aeth yr Eglwys
yng Nghymru ati i adeiladu nifer o eglwysi ar hyd a lled
Cwm Cynon. Agorodd Eglwys Sant Luc yng Nghwmdâr
fis Mehefin 1887, a chynhaliwyd gorymdaith yn cynnwys
yr Esgob, clerigwyr a chôr er mwyn dathlu'r achlysur.
Cenhadaeth Cwmdâr oedd yr addoldy diwethaf i'w
adeiladu yng Nghwmdâr ym 1920.
Capel Gobaith tua
1900 Gobaith Chapel c1900
Diwydiant Glo Cwmdâr
Mae'r cofnod cyntaf o gloddio glo ar
raddfa fawr yng Nghwmdâr yn dyddio'n ôl i 1851,
er ei bod yn debygol iawn bod y gwaith eisoes wedi dechrau
ychydig cyn y dyddiad hwnnw. Agorwyd pedair glofa fawr
yng Nghwmdâr, yn eithaf agos at ei gilydd, sef:
Glofa Cwmdâr:
Yn fwy adnabyddus fel Pwll Powell, agorwyd y lofa
hon gan Thomas Powell, a chloddiwyd y glo cyntaf ym
1856. Roedd Thomas Powell yn un o'r perchnogion glofeydd
cynnar mwyaf llwyddiannus, a phan fu farw ym 1863 roedd
yn berchen ar bron i 20 glofa. Ar ôl ei farwolaeth,
prynwyd Pwll Powell gan y Powell
Duffryn Steam Coal
Co., a'r cwmni hwn oedd perchnogion y lofa nes ei gwerthu
i Bwllfa and Merthyr Dare Steam Collieries Co. Ltd.
ym 1906. Ym 1935 daeth y lofa dan reolaeth Powell Duffryn
unwaith eto, ac erbyn hynny, y cwmni hwn oedd cwmni
glo cyfun mwyaf y byd. Gydol y 1920au a'r 1930au caeodd
ac ail-agorodd y lofa yn gyson wrth iddi ddioddef yn
sgil y dirwasgiad yn y diwydiant glo, fel gweddill
maes glo'r De. Caeodd y lofa am byth fis Mai 1936.
Glofa Merthyr Dare:
Ar ôl cael ei hagor gan David Williams (Alaw Goch)
cyn 1851, o holl Lofeydd Dwfn Cwmdâr, hon oedd yr
un fwyaf byrhoedlog. Gwerthodd David Williams y lofa i
syndicâd dan arweiniad Rees Hopkin Rhys ym 1861,
ac fe'i gwerthwyd eto i John Brogden o Lofa Bwllfa yn yr
1870au. Caeodd y lofa am y tro olaf ym 1884.
Roedd y slip talu ar y chwith, dyddiedig
21 Mai 1910, ar gyfer unigolyn o'r enw David Davies a gyflogwyd
fel cludwr yng Nglofa Rhif 2 Bwllfa (Nantmelin). Mae'r
slip pythefnos yn dangos iddo weithio 8 diwrnod am 4
swllt ac 1 3/4 ceiniog y dydd. Ar ôl derbyn ei ganran (bonws), enillodd gyfanswm
o £2/4/2d.
Glofa Nantmelin:
Hon oedd y lofa olaf i'w hagor yng Nghwmdâr. Dechreuodd
Mordecai Jones o Aberhonddu weithio ar y safle ym 1860,
a chodwyd y glo cyntaf o'r Wyth ï en Bedair Troedfedd
fis Ebrill 1861. Yn dilyn marwolaeth Jones ym 1880, rheolwyd
y gwaith gan y Nantmelin Colliery Company, ac ym 1891 unodd
y cwmni hwn â'r Aberdare Merthyr Collieries Co. Ltd.
Ym 1896 daeth y lofa dan reolaeth y Bwllfa Company, a oedd
yn prysur ehangu, a'r perchnogion preifat olaf oedd y Powell
Duffryn Company a ddaeth yn berchnogion holl weithfeydd
Bwllfa ym 1935. Ym 1949 dechreuodd Bwrdd Glo Prydain weithio
ar gynllun i gysylltu Cwmdâr a'r Rhondda Fach. Arweiniodd
hyn at gau Nantmelin ym 1957, pan gloddiwyd yr holl lo
ym Maerdy.
Symudwch y llygoden dros y llun uchod/ar y dde i weld yr un
olygfa heddiw
Glofa Bwllfa Dare:
Agorwyd Glofa Bwllfa Dare, neu Lofa Bwllfa, ym mhen uchaf
Cwmdâr o dan gysgod y Darren gan Samuel Thomas a
Thomas Joseph ddechrau'r 1850au. Fel llawer o lofeydd eraill,
bu gan Bwllfa Dare nifer o berchnogion yn ystod ei hoes.
Fodd bynnag, mae hanes Glofa Bwllfa yn cael ei gysylltu'n
agos â dau deulu: teulu Brogden ac yn fwy felly teulu
Llewellyn. Mae cysylltiad teulu Brogden â Bwllfa
yn dyddio'n ôl i'r 1870au pan brynodd John Brogden & Sons
y lofa gan y Bwllfa Colliery Co. Ltd. Cadwodd teulu Brogden
ei gysylltiadau â'r lofa tan farwolaeth mab ifancaf
John Brogden, G W H Brogden, ym 1892.
Wedi hynny, Rees Llewellyn a'i fab D R Llewellyn a ddaeth
i'r amlwg. Roedd Rees Llewellyn wedi bod yn rheolwr Bwllfa
ers 1877, ac erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif, ef oedd Cadeirydd
y cwmni a reolai'r lofa. O dan ei arweiniad ef, cafodd
y lofa a'i gweithgareddau cysylltiedig eu cyfnod mwyaf
llewyrchus erioed. Erbyn 1906 roedd y Bwllfa and Merthyr
Dare Steam Coal Collieries (1891) Ltd. yn berchen ar holl
lofeydd Cwmdâr. Ar ôl profi ei allu wrth lwyddo
gyda'r Lefelau Windber, daeth D R Llewellyn yn gadeirydd
y cwmni yn dilyn marwolaeth ei dad ym 1919. Cadwodd ei
afael ar yr awenau nes i'r cwmni gael ei werthu i Powell
Duffryn ym 1935. Roedd Rees a D R Llewellyn yn amlwg iawn
ym mywyd cyhoeddus ardal Aberdâr, gan wasanaethu
ar Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr ymysg cyrff eraill.
Yn dilyn gwladoli'r diwydiant ym 1947 a'r cynllun i gysylltu
glofeydd Bwllfa a Maerdy, roedd angen ailddatblygu safle
Bwllfa, ac adeiladwyd ffrâm pen concrid newydd a thy weindio.
Fodd bynnag, ym 1977 daeth y gwaith yn y Bwllfa i ben am
y tro olaf, ac erbyn 1991 roedd y safle wedi'i glirio'n gyfan
gwbl.
Cliciwch ar y llun i gael mwy o wybodaeth am Draphont
Dâr
Gwasanaethwyd glofeydd Cwmdâr gan ddwy linell
rheilffordd a reolwyd gan gwmn ï au gwahanol. Y llinell
gyntaf i gyrraedd y glofeydd oedd Cangen Dâr ac Aman
o'r Vale of Neath Railway, a ddaeth yn fwy enwog fel y
Great Western Railway ar ôl i'r cwmni hwnnw brynu'r
Vale of Neath ym 1865. Cyrhaeddodd y rheilffordd hon Lofa
Bwllfa ym 1857. Cyrhaeddodd y rheilffordd hon Gwmdâr
o Gyffordd Gelli Tarw ger Llwydcoed ar ôl croesi
Traphont Gamlyn a Thraphont Dâr, dwy enghraifft wych
o draphontydd pren a gynlluniwyd gan Isambard Kingdom Brunel.
Adeiladwyd yr ail linell i Gwmdâr gan Taff Vale Railway,
a dilynodd lwybr ger yr Afon Dâr o gyffordd ger Aberdâr.
Agorwyd y llinell hon ym 1866.
Mae modd olrhain llwybr y ddwy reilffordd hyn hyd heddiw,
gan iddynt gael eu haddasu fel ffordd a llwybr pan ail-ddatblygwyd
Cwmdâr er mwyn creu Parc Gwledig Cwmdâr.
Parc Gwledig Cwmdâr
Agorwyd y Parc yn swyddogol fis Rhagfyr 1973. Ym 1971
dechreuwyd ar y gwaith o adennill y tir a oedd wedi'i greithio'n
ddifrifol gan dros ganrif o fwyngloddio. Roedd y cynllun
yn cynnwys lefelu tomennydd glo, ailgyfeirio'r Afon Dâr
a chreu dau lyn gyda rhaeadr yn llifo i'r llyn isaf. Agorwyd
y ganolfan ymwelwyr ym 1985, sy'n cynnwys 15 ystafell ar
gyfer gwesteion. Mae yna faes pebyll a pharc carafannau
bach ger y ganolfan ymwelwyr hefyd.