Cafodd pentref Hirwaun ei godi am fod angen cartrefi a gwasanaethau ar weithwyr
Gwaith Dur Hirwaun. Ar lan ogleddol Afon Cynon roedd y gwaith dur yn sefyll,
ym mhlwyf Penderyn ym Mrycheiniog. Cafodd ei agor ym 1757, gan ddiwydiannwr
o'r enw John Mayberry. Afon Cynon oedd y ffin rhwng y ddwy sir, ac felly roedd
y pentref, ar y lan ddeheuol, ym mhlwyf Aberdâr yn Sir Forgannwg.
Cael a chael oedd hanes cynnar y Gwaith Dur, a bu'r
pentref yn araf iawn i dyfu. Yn y flwyddyn 1813, roedd
64 o dai gyferbyn â'r Gwaith Dur, 5 ym Mhen-hw, a
38 yng Nghoedcae'rfelin. Daeth y Gwaith Dur i ddwylo teulu
enwog Crawshay ym 1819, a bu cyfnod llewyrchus am rai blynyddoedd.
Ond aeth yr economi i ddirwasgiad ym 1829. Collodd llawer
o bobl eu gwaith, ac aeth cyflogau i lawr hefyd. Yn ystod
Gwrthryfel Merthyr ym 1831, cafodd baner goch ei chodi
yn Hirwaun. Mae rhai'n dweud taw dyna'r tro cyntaf i'r
Faner Goch weld golau dydd yng ngwledydd Prydain.
I'r dde: High Street, Hirwaun
Er gwaetha'r problemau hyn i gyd, dan awdurdod
teulu Crawshay y cafodd y Gwaith Haearn ei gyfnod mwyaf llewyrchus.
Am lawer iawn o'r cyfnod yma, Francis Crawshay (1811-78)
oedd rheolwr y gwaith. Tipyn o gymeriad oedd Francis, a llwyddodd
i ennill parch ei weithwyr. Mae rhai'n dweud ei fod wedi dysgu Cymraeg. Symudodd
o Dy Mawr, y ty sylweddol a godwyd gan Anthony Bacon ym 1784. Cododd Francis
fwthyn bach iddo'i hun yn Nhir Gwyn Bach. Ond codi Twr
Crawshay tua 1848 oedd ei gamp fwyaf adnabyddus. Safai'r Twr ar lechwedd
y mynydd uwchlaw Hirwaun. Roedd yn 30 troedfedd o uchder, a 12 troedfedd o led.
Roedd tair ystafell, un ar bob llawr, gydag un drws a chwech o ffenestri crwn.
Ar ôl i deulu Crawshay ymadael ym 1859, fe syrthiodd y twr yn adfail.
O 1820 ymlaen, cododd y trigolion nifer o gapeli, gan
gynnwys Nebo, Bethel, a Soar. Ac fe ddechreuodd Hirwaun
dyfu o'r newydd ym 1851, pan agorodd Rheilffordd Cwm Nedd
rhwng Abertawe ac Aberdâr. Cafodd yr orsaf ei chodi
ar lan ogleddol yr afon, yn rhan Sir Frycheiniog o'r pentref.
Mae'n bosibl bod rhai o'r tai yno wedi'u codi i weithwyr
y rheilffordd. Cyn hir roedd tai eraill yn codi hefyd,
a gwaith brics ar bwys yr orsaf ym 1852. (Bu cenedlaethau
o'r trigolion yn gweithio yma nes cau'r lle ym 1973.) Ym
mis Gorffennaf 1858, daeth Esgob Llandaf i agor eglwys
newydd, wedi'i chysegru i Sant Lleurwg.
Dechreuodd y Gwaith Haearn fynd â'i ben iddo ar ôl i deulu Crawshay
ei werthu ym 1859. Aeth mwy a mwy o'r trigolion i'r glofeydd i weithio, a bu
angen am weithfeydd eraill, fel y Gloucester Wagon Works, yn gefn i'r pyllau
glo.
Chwith: Dadorchuddio'r Gofeb Ryfel ym mis Ionawr 1924
Tref eithaf llewyrchus oedd Hirwaun am weddill y 19eg ganrif, er iddi fod i
fyny ac i lawr gyda holl droeon y diwydiant glo, fel gweddill Maes Glo'r De.
Pan ddaeth hi'n argyfwng ar y diwydiant yn y blynyddoedd ar ôl y Rhyfel
Byd Cyntaf, roedd y cyni a'r dioddefaint yn Hirwaun yn ofnadwy, fel yn holl
drefi a phentrefi'r Maes Glo.
Roedd rhaid aros tan ddechrau'r Ail Ryfel Byd cyn i'r economi leol wella. Agorodd
y Ffatri Ordnans Frenhinol ar y tir i'r gorllewin o'r pentref, lle mae Ystad
Ddiwydiannol Hirwaun yn sefyll heddiw. Cafodd dau floc o fflatiau'u codi
yn Hirwaun yn ystod y Chwedegau, a buon nhw'n gartref i lawer o bobl dros y blynyddoedd.
Ond yn sgîl dirywiad enbyd yng nghyflwr y fflatiau, penderfynodd y Cyngor
eu dymchwel. Ar 30ain Mai 2004, aeth y Controlled Demolition Group at i ddymchwel
y fflatiau â ffrwydron.
Dymchwel Fflatiau Hirwaun ar 30ain Mai
2004
Animation images courtesy of John White
Delweddau animeiddio trwy garedigrwydd John White www.johnwhitephotography.com
Gwaith Haearn Hirwaun
Mae'n bosibl taw ffwrnais Gwaith Haearn Hirwaun oedd y cyntaf yn y De i gyd
i losgi golosg. John Mayberry, gynt o Aberhonddu, oedd meistr cyntaf y Gwaith
Haearn. Cafodd e'r tir ar brydles o 99 o flynyddoedd gan yr Arglwydd Windsor
ym 1757. Bu llawer o droeon trwstan yn hanes y Gwaith Dur, a methodd pob un
o'r perchnogion gwneud fawr o elw o'u buddsoddiadau.
Erbyn 1775, roedd y problemau'n ddigon difrifol i ildio'r brydles i John Wasse
a William King. Ond methodd y rheiny â chadw at delerau'r brydles, a bu
farw William King mewn dyled fawr ym 1777. Cafodd y brydles yma'i dwyn i ben.
Anthony Bacon, Cyfarthfa, oedd y perchennog nesaf.
Pan fu farw ym 1786, gadawodd e'r Gwaith Haearn i'w feibion
Anthony a Thomas. Gan fod y bechgyn dan 21, penderfynodd
y Llys Siawnsri osod y brydles i Samuel Glover, Abercarn,
nes iddyn nhw ddod i oed. Mae'n debyg i'r Gwaith Haearn
fod yn cynhyrchu tua 500 o dunelli'r flwyddyn yr adeg yma.
Daeth y Gwaith Haearn i ddwylo partneriaeth newydd ym 1803. Yr aelodau oedd Francis
William Bowzer, Simon Oliver, Lionel Oliver a Jeremiah Homfray. Rhoes Homfray'r
gorau iddi yn nes ymlaen, a daeth George Overton i gymryd ei law. Ar ôl
1805, dechreuodd y bartneriaeth yma ymestyn y gwaith, yn bennaf drwy godi ail
ffwrnais chwyth. Ond roedd y diwydiant ar fin llithro i ddirwasgiad arall, a
methodd yr ail ffwrnais â dod ag elw i Hirwaun. Aeth y Gwaith Haearn ar
werth eto ym 1813.
Dechreuodd cyfnod newydd yn hanes y Gwaith Haearn ym 1819 pan ddaeth William
Crawshay, Cyfarthfa, i'w brynu. Mae'n debyg i Waith Haearn Hirwaun ffynnu'n
fwy dan reolaeth teulu Crawshay na chynt neu wedyn (er bod rhai problemau'n
parhau).
Uchod/chwith: Adfeilion
Gwaith Haearn, ddiwedd y 19eg ganrif. Mae'r pedair ffwrnais
chwyth i'w gweld yn glir. I'r dde mae'r adeilad lle roedd
y ffwrneisiau pwdlo a'r melinau rholio.
Cafodd y ddwy ffwrnais eu codi o'r newydd
ym 1820, ac fe adeiladwyd peiriant chwythu trawst yno gan
Gwmni Haearn Abaty Nedd. Cododd y ffigurau cynhyrchu yn
aruthrol yn ystod y cyfnod yma. 4,160 o dunelli o haearn
oedd y cynnyrch ym 1823, ond erbyn 1826 roedd hyn wedi
codi i 7,020. Ym 1830, roedd cynhyrchu wedi codi eto, i
9,370 o dunelli'r flwyddyn.
Francis Crawshay oedd yn rheoli'r gwaith
haearn rhwng 1830 a 1850. Byddai llawer o'r haearn yn
mynd i waith haearn y teulu yn Nhrefforest, oedd yn gwneud
bariau haearn a thunplat. Ond fu gwaith haearn Hirwaun
ddim hanner mor llewyrchus ar ôl 1850, a phenderfynodd
teulu Crawshay gau'r gwaith ym 1859.
Pan roes teulu Crawshay'r gorau i waith haearn Hirwaun,
dyna ddiwedd ar wneud haearn ar raddfa fawr yno. Newidiodd
y safle ddwylo nifer o weithiau, gyda gwahanol gwmnïau'n
mentro yno. Bu'r lle'n gweithio fel ffowndri yn y diwedd,
ac fe gaeodd yn llwyr ym 1905.
Diwydiant Glo Hirwaun
Fe fu pobl yn cloddio am haearn a glo yn Hirwaun a Rhigos mor bell yn ôl
a'r 17eg ganrif. Bydd angen golosg i weithio ffwrneisiau chwyth, ac felly roedd
agor Gwaith Haearn Hirwaun yn gryn hwb i'r diwydiant glo lleol. Yn ystod y 19eg
ganrif, daeth galw cryf am brynu glo gan bob math o gwsmeriaid, a bu hyn yn
sbardun i'r diwydiant dyfu eto. Agorodd nifer o lefelau ar Gomin Hirwaun, ond
mentrau bach oedd y rhain. Ychydig ohonyn nhw'n fu'n para'n hir iawn.
Fe fu dwy lofa fawr yn arbennig yn gweithio gwythiennau
Comin Hirwaun. Roedd Gwaith Glo Ager Aberdâr-Merthyr
Tudful yn gweithio o 1860 tan 1917. Agorodd Glofa Bute
ryw dro cyn 1850, yn eiddo i Gwmni Haearn Hirwaun ar y
dechrau. Bu damwain ofnadwy yno ym 1883, pan ffrwydrodd
bwyler ar yr wyneb a lladd rhywun. Caeodd y lofa yn 1903.
Dyma lun o'r difrod
yn sgîl ffrwydrad
Glofa Bute ym 1883.
Enillodd Hirwaun enwogrwydd a bri eto ym 1994, pan
benderfynodd y glowyr brynu'u glofa. Roedd y Bwrdd Glo
wedi datgan ei fwriad i gau'r pwll, ond addunedodd pob
un o'r glowyr (239 ohonyn nhw) dalu £8,000 tuag at
gost o'i brynu. Ddeuddydd cyn Nadolig 1994, gorymdeithiodd
y glowyr i mewn i'r lofa fel meistri ar y lle. Goetre Tower
Anthracite yw enw'u cwmni, ac mae e wedi mynd o nerth i
nerth. Dyma'r lofa olaf sy'n dal i weithio yng Nghwm Cynon.
Ar y chwith: Tyrone
O'Sullivan o flaen Glofa'r Twr
Tyrone O'Sullivan oedd Ysgrifennydd y Gangen leol o Undeb y Glowyr pan oedd
glowyr y Twr wrthi'n prynu'u glofa. Mae'i gyd-lowyr wedi'i ethol yn gadeirydd
ar eu cwmni. Enillodd anrhydedd OBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
ym 1996.