Mae hanes pentref modern Llwydcoed yn cychwyn gydag adeiladu Gwaith Haearn Aberdâr.
Yn yr un modd ag ardaloedd eraill Cwm Cynon lle sefydlwyd y gweithfeydd haearn
cyntaf, yn enwedig Hirwaun ac Abernant, diwydiant oedd yn gyfrifol am fodolaeth
a datblygiad y pentref. Cyn i'r gwaith haearn gael ei ddatblygu, cymuned amaethyddol
o ffermydd gwasgaredig oedd Llwydcoed.
Aed ati i ddatblygu ardal Tregibbon yn y lle cyntaf, ac
adeiladwyd tai i weithwyr yno gan Thomas ap Shencin ap
Gibbon o Fferm Fforchaman. Adeiladwyd tai eraill yn Miner's
Row, Founder's Row a Scales Houses. Mae enwau'r strydoedd
hyn yn adlewyrchu eu hanes cynnar; roedd y teulu Scale
ymhlith sefydlwyr y gweithfeydd ac yn bartneriaid yn y
fenter tan 1846.
Yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg tyfodd
yr ardal eto yn sgil datblygu'r diwydiant glo. Agorwyd
Glofa Dyllas ym 1840 gan Matthew Wayne o Waith Haearn Gadlys
ac agorwyd Glofa Ysguborwen ym 1849 gan Samuel Thomas a
Thomas Joseph. Yn ystod y cyfnod hwn adeiladwyd tai ym
Moriah Place, Horeb Terrace a Grey's Place. Adeiladwyd
Exhibition Row ym 1851, a enwyd ar ôl yr Arddangosfa
Fawr a gynhaliwyd yn y Crystal Palace y flwyddyn honno.
Chwith: Rhan Llwydcoed o Fap y Degwm
Plwyf Aberdâr
(1847). Mae'r map yn dangos lleoliad y tai cyntaf yn y
pentref. Tregibbon i'r gogledd, a Miner's Row a Kingsbury
Place i'r de, ychydig uwchlaw'r ffwrneisiau.
Roedd yna wyth tafarn yn Llwydcoed yn ystod y cyfnod
hwn, sef The Earl Grey, Fox and Hounds, Red Cow, Corner
House, The Mason's, Miner's Arms, y Dynevor Arms a'r Croes
Bychan. Roedd y tafarndai ar agor tan hanner nos bryd hynny,
ac yn ‘A Glance at the History of Llwydcoed', mae ysgrifwr
lleol anhysbys yn disgrifio eu hawyrgylch anystywallt,
gan nodi bod mwy o gwrw yn cael ei wastraffu pan oedd y
ffwrneisiau, y pyllau glo a'r gweithfeydd mwyn haearn yn
gweithio, yn enwedig ar ddechrau'r mis ac ar nos Sadwrn
talu, nag a gâi ei yfed.
Dde: Rees Hopkin Rhys Ynad Heddwch
Roedd Rees Hopkin Rhys yn un o'r dynion
mwyaf dylanwadol yn y gwaith o ddatblygu llywodraeth leol
yn Aberdâr a'r cyffiniau. Fe'i ganwyd yn Llwydcoed
ym 1819, a bu'n byw yno y rhan fwyaf o'i oes, ym Mhlasnewydd.
Fe ddaeth yn asiant mwynau uchel ei barch yn ddyn ifanc
iawn, ond cafodd ei ddallu yn 28 oed wrth gynnal profion
gyda'r deunydd hynod ffrwydrol gun cotton .
Ar ôl cael ei ddallu, trodd ei sylw at fywyd cyhoeddus.
Bu'n aelod o Fwrdd Gwarcheidwaid Merthyr Tudful am 53 mlynedd
a Bwrdd Iechyd Aberdâr o 1854, ac fe'i hetholwyd
yn Gadeirydd cyntaf Cyngor Dosbarth Trefol Aberdâr
adeg ei sefydlu ym 1895.
Cyfrannodd yn sylweddol at y gwaith
pwysig o sefydlu'r Ysgol Ddiwydiannol i blant tlawd yn
Nhrecynon. Fel aelod o Fwrdd Iechyd Aberdâr, gweithiodd
yn galed i wella iechyd y cyhoedd yn yr ardal, gan hyrwyddo'r
angen am gyflenwad dwr glân a system garthffosiaeth
foddhaol.
Ym 1881 derbyniodd benddelw ohono ef ei hun gan Fwrdd
Gwarcheidwaid Merthyr Tudful, sydd bellach i'w gweld yn
Amgueddfa Cwm Cynon.
Yn ystod yr ugeinfed ganrif dechreuodd sylfaen ddiwydiannol
Llwydcoed newid. Roedd y Gwaith Haearn wedi cau cyn hynny,
ym 1875. Caeodd Glofa Ysguborwen ym 1919 a Glofa Dyllas yn
y 1920au. Fodd bynnag, ym 1906 agorodd Gwaith Brics Tanybryn
ar safle Gwaith Haearn Aberdâr, gan barhau ar waith
yn nwylo sawl perchennog gwahanol tan fis Rhagfyr 1981. Aed
ati i fwyngloddio glo eto tua diwedd y 1940au wrth i safle
glo brig Bryn Pica agor.
Gwaith Haearn Llwydcoed
Sefydlwyd Gwaith Haearn Aberdâr yn Llwydcoed ym 1800, wrth i bartneriaeth
yn cynnwys John Thompson, John Hodgett, George Scale a John Scale gymryd les
70 mlynedd am bris o £1,000 y flwyddyn ar 702 erw o dir ar Ystâd
Llwydcoed. Adeiladwyd dwy ffwrnais ar y safle a gâi eu chwythu gan rod
ddwr. Defnyddiwyd ffrwd a gysylltwyd â'r Afon Cynon filltir i fyny'r afon
i weithio'r rhod ddwr, ac agorodd y gwaith ym 1801. Mae'n ymddangos i Gwmni
Haearn Aberdâr ddechrau'n llwyddiannus. Ym 1805 cynhyrchwyd 3,586 tunnell
o haearn ar y safle, ac yn wahanol i Weithfeydd Haearn eraill Cwm Cynon, llwyddodd
y cwmni i oroesi'r dirwasgiad yn y diwydiant haearn ym 1813/14.
Uchod: Gwaith Haearn Aberdâr fel y'i dangoswyd
ar yr argraffiad cyntaf o Fap Arolwg Ordnans 1868. Mae'r
tair ffwrnais chwyth a'r llinell o ffyrnau golosg a oedd
eu hangen i gynhyrchu tanwydd ar gyfer y gweithfeydd
i'w gweld yn glir ar y map.
Adeiladwyd tramffordd ym 1812 er mwyn cysylltu Gwaith Haearn Aberdâr â dechrau
Camlas newydd Aberdâr yng Nghwmbach. Croesodd y dramffordd yr Afon Cynon
ddwywaith ar ei thaith, unwaith yng Ngelli Isaf ger y gwaith haearn ac eto wrth
Bont Dramffordd Robertstown. Ehangodd Cwmni Haearn Aberdâr yn sylweddol
ym 1819 pan brynwyd Gwaith Haearn cyfagos Abernant.
Erbyn 1823 roedd tair ffwrnais ar waith ar y ddau safle,
ac ym 1830 cynhyrchodd y cwmni 12,571 tunnell o haearn.
Ym 1846 roedd rhaid i bartneriaid y cwmni fynd i'r Llys
Siawnsri i setlo anghydfod ymysg ei gilydd. Cafodd yr anghydfod
rhwng Henry a Mary Scale ar y naill law a Rowland Fothergill
ar y llaw arall ei ddatrys pan orchymynnodd y Llys Siawnsri
y dylid gwerthu'r busnes. Yn dilyn yr anghydfod hwn, ymddangosodd
yr Aberdare Iron Company ar ei newydd wedd gyda'r teulu
Fothergill wrth y llyw. Yn ystod y cyfnod hwnnw roedd gwaith
haearn Aberdâr yn cynnwys tair ffwrnais chwyth, gyda
dwy injan a dwy rod ddwr fawr yn eu chwythu, ynghyd ag
odynau pyllau a gweithdai.
Dde: Gwaith Haearn Aberdâr yn y 1880au, yn fuan ar ôl
iddo gau ym 1875. Mae'r adeiladau ar y safle mewn cyflwr
da o hyd, ac mae modd gweld y tair ffwrnais chwyth yng nghanol
y llun.
Nid oedd yr Aberdare Iron Company wedi cynhyrchu haearn
gyr yn eu gwaith haearn ar y dechrau, ond newidiodd hynny
ar ôl i'r teulu Fothergill gymryd yr awenau. Aeth
y teulu hwn ati i adeiladu ffwrneisiau pwdlo yng Ngwaith
Haearn Abernant ac i foderneiddio'r ddau safle. Parhaodd
cynnyrch y cwmni i gynyddu, ac erbyn canol y 1860au roedd
yn un o brif gyflenwyr cledrau haearn gyr. Ym 1872 roedd
y cwmni'n allforio cledrau i bedwar ban byd, gan gynnwys
New Orleans, Efrog Newydd a Montreal. Fodd bynnag, er gwaethaf
y llwyddiant hwn, roedd gan yr Aberdare Iron Company broblemau
difrifol. Aeth y cwmni i'r wal yn sydyn iawn ym 1875 pan
ddaeth y galw am gledrau haearn gyr i ben.
Chwith: Ar ôl agor ym 1801,
gwnaeth Gwaith Haearn Aberdâr
ddefnydd o rod ddwr ar gyfer chwythu. Erbyn 1869 roedd dwy
rod ddwr 40 troedfedd o uchder a 5 troedfedd o led yn cael
eu defnyddio ar y safle.