Ystyr “ceibr” yw ‘trawst' neu ‘ddist', sy'n awgrymu ardal lle mae coed yn tyfu
sy'n addas i'w defnyddio fel trawstiau to. Mae hyn yn adlewyrchu natur y dirwedd
ers talwm, sef llechwedd serth gyda thrwch o goed hyd at ugain mlynedd ola'r
bedwaredd ganrif ar bymtheg. Newidiodd pethau'n aruthrol yn sgil y diwydiant
glo, wrth i'r coed gael eu cwympo ac i lofa a thai teras gymryd eu lle.
Uchod: Mae'r map hwn o 1874-75 yn dangos y prinder tai o amgylch y lofa a'r
llethrau coediog cyfagos. Gwelir Camlas Aberdâr hefyd, sy'n awgrymu ei
bod yn dal i gael ei defnyddio'r adeg honno er gwaetha'r rheilffordd oedd yn
mynd drwy'r cwm.
Mae cofnodion cyfrifiad 1871 ac 1881 yn dangos yr holl
newidiadau mawr a fu yn hanes yr ardal. Does dim sôn
o gwbl am bentref Penrhiw-ceibr ym 1871, (yn ôl y
map uchod) ond mae cyfrifiad 1881 yn rhestru nifer o strydoedd
yn y pentref gan gynnwys Railway Terrace, Quarry Road,
Glanlay Street, Rheola Street a Penrhiwceiber Road. Mae'r
ysgol a godwyd ym 1881 yn rhoi tystiolaeth bellach o dwf
cyflym y pentref, ac ychwanegwyd estyniad pellach ati ym
1893, 1895 a 1901.
Dde: un o'r siopau cyntaf ym mhentref newydd Penrhiw-ceibr.
Aeth y pentref o nerth i nerth i'r ugeinfed ganrif.
Mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1920 yn pwysleisio holl lewyrch
yr ardal, gan restru dros gant o adeiladau masnachol/busnes
ym Mhenrhiw-ceibr, yn ogystal â gorsafoedd trenau
ar reilffyrdd Great Western a Taff Vale, a llu o gapeli'n
cynnwys Capel Carmel (1880), Capel Moreia, Capel Bethesda
(1885) ac Eglwys Santes Gwenffrewi (1883), ynghyd â Neuadd
Gyhoeddus a Sefydliad y Gweithwyr a adeiladwyd ym 1888.
Chwith:un o'r siopau cyntaf ym mhentref
newydd Penrhiw-ceibr.
Glofa Penrhiw-ceibr
Dechreuwyd agor pyllau glo ym 1872 gan ddynion o Abertawe,
John a David Glasbrook a Mr. Yeo. Ymunodd y Brodyr Cory â'r
fenter flwyddyn yn ddiweddarach. Roedd hwn yn waith peryglus
dros ben, a chafwyd anawsterau di-ri oherwydd dwr a thywod.
Bu sawl oedi oherwydd llifoedd sydyn o ddwr, a bron iddynt
roi'r gorau i'r fenter yn llwyr. Daeth pethau'n haws ar ôl
gosod pwmp trawst, a llwyddwyd i gyrraedd y wythïen
naw troedfedd ym 1878. Am flynyddoedd lawer, roedd y glo'n
cael ei gludo i'r brig gan olwyn bwli ffrâm bren,
cyn cael ei disodli gan olwyn ddur oddeutu 1901. Prynodd
cwmni Powell Duffryn y lofa ym 1943, a chafodd ei gwladoli
ym1947. Caewyd y pwll gan Gwmni Glo Prydain ym 1985.
Uchod: Glofa Penrhiw-ceibr
Er mai ym 1872 y dechreuwyd suddo'r siafft, ni ddaeth
y dram cyntaf o lo i'r wyneb tan 7 Gorffennaf 1879. Roedd
y siafft 658 o droedfeddi o ddyfnder, ac roedd rhai o'r
talcenni glo yn estyn tua 2 filltir o'r siafft. Pan dynnwyd
y llun hwn, roedd y lofa'n cyflogi 1,800 o ddynion oedd
yn cynhyrchu tua 8,000 o dunelli o lo'r wythnos.