Diolch i is-ddeddfau lleol hen Gyngor Dosbarth Trefol Aberdâr roedd modd
cau Parc Aberdâr bum niwrnod y flwyddyn, ac yn y dyddiau cynnar (1950au)
roedd dau o'r rhain wedi eu neilltuo ar gyfer rasys beiciau modur. Cynhelid
y ras gyntaf ym mis Mehefin a'r ail fis Awst. Roedd y cwrs yn dilyn cyrion/ffordd
wasanaeth y parc ac roedd yn anarferol gan fod y ras ym mynd yn groes i gyfeiriad
y cloc. Roedd y cwrs yn un eithaf araf ond erbyn 1955 roedd John Surtees, a
ddaeth yn Bencampwr y Byd maes o law, wedi llwyddo i sefyldu record ar feiciau
250cc, 350cc a 500cc gyda'r record am gylch o'r trac yn 56.95mya ar ei fodur
500cc. Enwau cyfarwydd eraill o'r blynyddoedd cynnar oedd Bob McIntyre, Mike
Hailwood a C.C. “Sandie” Sandford a fu'n rasio yn y parc sawl tro.
Mae'r ffaith mai araf iawn y cynyddodd cyflymder record
cylch y trac yn dangos pa mor anodd oedd y cwrs. Er yr
holl ddatblygiadau yn nhechnoleg peiriannau a theiars,
erbyn 1979 dim ond 59.73mya oedd y record ar gyfer cyflawni
cylch o'r trac ar feic 500cc a hyn eto gan enw cyfarwydd
- John Cooper. Efallai mai'r rheswm am hyn yw bwlch yn
y rasio am 14 mlynedd rhwng 1964 a 1978. Mae'r rasio yn
parhau yn yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'r llun (oddeutu 1961) gyferbyn
yn dangos grwp o feicwyr
rhwng corneli Ramsey a Maypole. Roedd y llyn hwylio i'r
dde o'r beiciwr cyntaf, ac yn adanbyddus fel man i rai
beicwyr llai profiadol ddianc rhag y gwres.