Dechreuodd cymuned Trecynon ddatblygu ym mlynyddoedd cynnar y bedwaredd ganrif
ar bymtheg. Heol-y-felin oedd enw'r ardal ar y pryd oherwydd ei lleoliad ar
y ffordd i Felin Llwytgoed, a sbardun datblygiadau'r ardal oedd agor Gwaith
Haearn Aberdâr yn Llwytgoed ym 1800. Mabwysiadwyd yr enw Trecynon yn swyddogol
yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ar ôl ennill cystadleuaeth
enwi'r pentref mewn eisteddfod. Dim ond un ty oedd yn Heol-y-felin cyn 1800,
drws nesaf i gapel yr Hen Dy Cwrdd a godwyd ym 1751.
Cliciwch y map am fwy o wybodaeth
Ehangodd Heol-y-felin wrth i fwy o bobl symud i ardal
Aberdâr i chwilio am waith yn y diwydiant haearn.
Codwyd llawer o'r tai cynnar yn Nhrecynon ar hyd y ffordd
rhwng Aberdâr a Hirwaun - sef y ffordd oedd yn mynd
heibio'r Mount Pleasant Inn, Capel Carmel ac i fyny Heol
Hirwaun at dafarn y White Lion, lle'r oedd tollborth.
Heol-y-felin oedd un o brif ganolfannau poblogaeth plwyf
Aberdâr erbyn y 1850au. Adeiladwyd rhan helaeth o Harriet
Street rhwng 1830 a 1860, Ebenezer Street yn ystod y 1840au,
a thai Alma Street, Mount Pleasant Street a Margaret Street
yn ystod y 1850au.
Ym 1853, anfonwyd Thomas Webster Rammell i archwilio
iechyd y cyhoedd yn Aberdâr ar ran y Bwrdd Iechyd
cyffredinol. Er bod cyflwr y draeniau yn Heol-y-felin yn
well nag ardaloedd eraill ar y cyfan, codwyd pryderon eraill
yn yr adroddiad:
Dyma a ddywed John Griffith, Ficer Aberdâr;
"There is not, to my knowledge, a place in Aberdare
more filthy than the neighbourhood of the Royal Oak in
the same quarter of the town. Mill-Street proper is in
a very bad state from the ash-heaps of rubbish and filth
thrown into and lying on the centre of the road."
Meddai Rees Hopkin Rhys;
"Many of the houses in this quarter are of a very inferior
description, and these have no privy accommodation whatever.
The new houses, here, as a rule, have one privy for two houses."
Royal Oak, Cynon Place (Cau ym 1908)
Caeodd tafarn y Royal Oak, Cynon Place, ym 1908. Er
bod Heol-y-felin yn dioddef llawer o'r problemau iechyd cyhoeddus
oedd yn gyffredin yng ngweddill Aberdâr, roedd yr adroddiadau'n
nodi bod camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â nhw
yno.
Er i weithfeydd Haearn Aberdâr gau ym 1875, dal
i ddatblygu wnaeth Trecynon oherwydd twf y diwydiant glo
a'r cynnydd mewn poblogaeth ar ddiwedd y bedwaredd ganrif
ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Adeiladwyd Edward
Street yn y 1870au a Broniestyn Terrace ym 1905. Cysegrwyd
Eglwys Sain Ffagan ar 31 Gorffennaf 1854 i wasanaethu addolwyr
Anglicanaidd pen uchaf Cwm Cynon. Ym 1848, adeiladwyd Ysgol
Brydeinig Aberdâr (Ysgol y Comin) ar gomin Hirwaun,
ac adeiladwyd Ysgol Sir Bechgyn Aberdâr ar gyrion
deheuol Trecynon ym 1896.
Ym mis Awst 1902, cynhaliwyd
seremoni i osod carreg sylfaen Neuadd Gyhoeddus a Llyfrgell
Trecynon gan yr Arglwydd Windsor a D A Thomas A.S. Cafwyd
nawdd ariannol o sawl ffynhonnell; Cronfa Carnegie - £1,000, Glofa Bwllfa - £105;
Arglwydd Windsor - £50; D A Thomas - £50; a chodwyd £180
gan y cyhoedd. Agorwyd y neuadd yn swyddogol ar 10 Mawrth
1903 gyda chyngerdd mawreddog.
Mill Street a'r Sgwâr
Parc Aberdâr
u galw mawr am barc cyhoeddus yn Aberdâr am flynyddoedd
lawer cyn iddo agor yn swyddogol ym 1869. Y safle dan sylw
oedd darn o dir ar gomin Hirwaun ger Trecynon. Ym 1865, cyflwynwyd
49 erw o dir comin Hirwaun i Wardeiniaid Eglwysi a Goruchwylwyr
Plwyf Aberdâr gan y Comisiynwyr Tir Caeedig, ac ym 1866
daeth y tir dan feddiant Bwrdd Iechyd Aberdâr. Roedd
rhaid i Fwrdd Iechyd Aberdâr wneud cais i'r Ysgrifennydd
Cartref am ganiatâd i fenthyca £5,000 i dalu am
y gwaith, a oedd i'w ad-dalu fesul 60 o ad-daliadau hanner
blwyddyn o £161 15s 4c. Cyflwynwyd ardoll arbennig yn
y dreth i helpu tuag at gostau'r parc, a chafodd trigolion
Hirwaun eu heithrio rhag talu hwn.
Mynedfa Parc Aberdâr (tua 1920)
Agorodd y parc yn swyddogol ar 29 Gorffennaf 1869. Dechreuodd gorymdaith yn
y Boot Hotel, Sgwâr Victoria cyn symud ymlaen tua'r parc. Band Gwirfoddol
Aberdâr oedd yn arwain yr orymdaith; yna masnachwyr y dref; aelodau'r
Bwrdd Iechyd; Richard Fothergill AS a Henry Richard AS; dros 1,000 o blant ysgol
a Band Cyfartha ar eu hôl. Wrth i'r dyrfa fawr fynd drwy'r parc, taniwyd
gynnau mawr oedd yn atsain ar hyd a lled y fro ( "and the surrounding
hills echoed back their thundering reports with grand effect" Aberdare
Times, 31 Gorffennaf 1869). Agorwyd y parc yn swyddogol gan Richard Fothergill,
ac yn ei araith, soniodd am y newidiadau mawr a chyflym a welwyd yn Aberdâr
yn ystod y 30 mlynedd cynt, o fod yn bentref bychan i dref ddiwydiannol fawr.
Roedd llawer o is-ddeddfau'r parc yn adlewyrchu awydd
y Bwrdd Iechyd i greu hafan dawel yn y dref ddiwydiannol
ffyniannus hon. Ni ddylai neb ganu offeryn cerdd yn y parc,
chwarae gêmau na phregethu – heb ganiatâd y
Bwrdd Iechyd. Nid oedd gan neb hawl i werthu nac yfed alcohol
ar dir y parc. Roedd ambell is-ddeddf go anarferol hefyd,
fel cafeat oedd yn dweud na châi unrhyw un guro carpedi
yn y parc a bod gan y Bwrdd Iechyd y grym i wahardd pobl
nad oeddynt yn lân neu wedi gwisgo'n weddus o'r parc.
Cyflwynodd y Bwrdd Iechyd is-ddeddfau newydd ym 1889 yn sgil poblogrwydd beiciau
yn y 1890au. Nid oedd gan neb hawl i reidio beiciau mewn modd a allai beryglu
defnyddwyr eraill y Parc. Ni ddylai neb feicio ar gyflymdra o dros 8 milltir
yr awr, ac roedd rhaid beicio mewn un rhes a heb fod mwy na 6 troedfedd o'r
cwteri.
Ym 1910, codwyd llwyfan perfformio ar ynys y llyn rhwyfo,
ac fe'i defnyddiwyd fel canolbwynt cyfres o ffeiriau wedi'u
goleuo er budd Ysbyty Cyffredinol Aberdâr. Cyflwynodd
Arglwydd Merthyr ffownten i drigolion Aberdâr yn
y parc ym 1911 i goffau coroni Brenin Siôr V. Daeth
y Brenin a'r Frenhines Mary ar ymweliad i Aberdâr
ym 1912, a phlannu coeden yr un yn y parc cyhoeddus.
Chris Palmer o Ynys Manaw
ym Mharc Aberdâr, 17 Gorffennaf 2004. Llun trwy garedigrwydd
John White Photographywww.johnwhitephotography.com
Mae Parc Cyhoeddus Aberdâr yr un mor boblogaidd
heddiw ag yr oedd pan agorodd am y tro cyntaf. Mae'r defnydd
o'r parc a'r cyfleusterau sydd yno wedi newid yn ystod
yr ugeinfed ganrif, yn naturiol, wrth i ofynion poblogaeth
Aberdâr newid.
Er enghraifft, yn ystod yr Ail Ryfel
Byd, daeth Parc Aberdâr yn enwog ledled y DU am Rasys Ffordd Aberdâr,
a chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yma ym 1956. Mae'n
dal i gyflawni gofynion gwreiddiol hen Fwrdd Iechyd Aberdâr,
sef cynnig lle i drigolion Aberdâr hamddena a chadw'n
heini.
Ymwelodd Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary â Chaerdydd
a'r Cymoedd rhwng 25 a 27 Mehefin 1912. Ar y 27ain aethant
i Bontypridd a'r Porth ar y Trên Brenhinol, yna mewn
car modur drwy'r Rhondda Fawr ac ymlaen i Ferthyr Tydfil.
Yn y prynhawn, aethant mewn car modur o Ferthyr i Aberdâr.
Yn Aberdâr, cyflwynodd yr Arglwydd Merthyr anerchiad
iddynt gan drigolion Aberdâr ym Mharc Aberdâr.
Roedd dros 8,000 o blant yno i gyfarch y pâr Brenhinol.
Yr hyn a gofir yn bennaf yw iddynt ymweld â bwthyn
glöwr.
Yn 71 Stryd Bute, Aberdâr oedd y bwthyn a ddewiswyd
sy'n dwyn yr enw Queen Mary's Cottage hyd heddiw. Wedi'r
ymweliad Brenhinol, ymwelodd cannoedd o bobl o bob cwr o'r
De â pherchnogion y ty, Mr a Mrs Jones, er mwyn gweld
y gwpan yr yfodd y Frenhines Mary ohoni. Ar 6 Mehefin 1912
adroddodd yr ‘Aberdare Leader' bod ymwelwyr diolchgar wedi
llenwi'r gwpan yr yfodd y Brenin ohoni gydag arian cochion
ar gyfer baban y teulu.
William Williams - Y Carw Coch 1808 i 1872
Fel y nodwyd uchod, roedd cysylltiad cryf rhwng Capel
Undodaidd yr Hen Dy Cwrdd â'r diwygiad yn hanner
cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd gan y gweinidogion,
sef y Parchedig Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi) a'r Parch.
John Jones safbwyntiau radical iawn, yn ogystal â'u
cynulleidfa. Un aelod amlwg o'r gynulleidfa oedd William
Williams, a oedd fwyaf enwog dan ei enw barddol, y Carw
Coch.
Yn enedigol o Gwm Nedd, symudodd i Aberdâr ym 1832
a phriodi merch leol. Ym 1837, agorodd dafarn y Stag Inn,
Harriet Street. Ym 1841, sefydlodd Gymreigyddion y Carw
Coch, cymdeithas yn canolbwyntio ar lenyddiaeth a thraddodiadau
cerddoriaeth Gymraeg. Cynhaliwyd eisteddfod gynta'r gymdeithas
yn y Stag Inn ym 1841, ac o dan nawdd y gymdeithas, cynhaliwyd
cyfres 'Eisteddfodau'r Carw Coch' yn ystod y 1840au a'r
1850au. Eisteddfod 1853 oedd yr enwocaf ohonynt, pan gyfansoddwyd
y gerdd 'Gardd Aberdâr'.
Roedd 'Eisteddfodau'r Carw Coch' yn ffordd o fynegi safbwyntiau
diwygiadol yr aelodau. Ym mhlwyf Aberdâr, roedd y
diwygwyr yn defnyddio crefydd a diwylliant yn hytrach na
thrais ac anhrefn i gyflwyno dyheadau'r mudiad.
Arweiniodd Eisteddfodau'r Carw Coch at dwf eisteddfodol yn ardal Aberdâr
yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ym 1850, cynhaliwyd yr eisteddfod
gapel gyntaf yn Siloa, a daeth yr eisteddfod yn rhan annatod o'r bywyd anghydffurfiol
o hynny ymlaen. Oherwydd hynny, collwyd llawer o'r min radical oedd yn rhan
annatod o'r mudiad gwreiddiol yn Nhrecynon.
William Williams (Y Carw Coch)
Capel Undodaidd yr Hen Dy Cwrdd
an godwyd Capel Undodaidd gwreiddiol yr Hen Dy Cwrdd ym
1751, dyma unig addoldy'r anghydffurfwyr ym mhlwyf Aberdâr.
Ni fu addoldy arall yn y Plwyf tan 1811, pan sefydlodd y
Bedyddwyr Gapel Carmel. Er na wyddom fawr ddim am hanes cynnar
yr Hen Dy Cwrdd, mae'n debyg iddo gael ei sefydlu gan adran
Aberdâr o Gynulleidfaoedd Cefn Coed yn sgil gwahaniaethau
barn yn athrawiaeth yr eglwys. Roedd dau o weinidogion yr
Hen Dy Cwrdd yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar bymtheg
yn wyr hynod dros ben, gan sicrhau bod y capel yn dipyn mwy
dylanwadol nag yr oedd nifer yr aelodau'n ei awgrymu (tua
50 ym 1830).
Yr Hen Dy Cwrdd a hen dafarn y Mount
Pleasant Inn
Roedd Thomas Evans (Tomos Glyn Cothi),
a fu'n weinidog rhwng 1811 a 1833, yn dipyn o wleidydd
radical wnaeth dorri tir newydd gyda'r diwygwyr. Roedd
ei olynydd, John Jones, gweinidog rhwng 1833 a 1863 hefyd
yn wr radical ac ef oedd un o sylfaenwyr cylchgrawn Yr
Ymofynnydd. Defnyddiodd y cyfrwng hwn i gyhoeddi ei negeseuon
radical.
Cafodd capel newydd ei adeiladu ym 1862, ar gost o £753
15s 4 ½ c. Gwrthododd John Jones gynnal gwasanaeth
cysegru arbennig, gan fod hynny'n awgrym o ‘Babyddiaeth'
yn ei farn ef.
Er bod yr hen adeilad yn dal i sefyll, caewyd drysau'r capel
am y tro olaf yng nghanol y 1990au oherwydd prinder aelodau.
Gobeithio y caiff yr hen gapel ei ddefnyddio at ddibenion
eraill yn y dyfodol.