Agorodd Thomas Powell y pwll glo dwfn cyntaf yng Nghwm-bach,
Aberdâr ym 1840, a rhwng hynny a 1863 aeth ati i
agor rhagor o byllau glo dwfn yn Aberdâr (Cwmdâr,
Aber-nant, Abergwawr, Middle Duffryn a Chwmpennar) ac yng
Nghwm Rhymni. Roedd y glofeydd hyn yn cynhyrchu 400,000
o dunelli o lo y flwyddyn ar eu hanterth.
Ym 1863, gofynnodd Thomas Powell i T. E. Forster, William
Armstrong a George Elliott (Syr George yn ddiweddarach)
brisio ei holl lofeydd; ac yn sgil hynny, sefydlodd Mr.
George Elliott ‘Powell Duffryn Steam Coal Company Limited'
ym 1864 er mwyn rheoli holl lofeydd Thomas Powell. Ar y
pryd, megis dechrau elwa ar gyfoeth meysydd glo De Cymru
oedd pobl.
Ym 1867, aeth cwmni Powell Duffryn ati i brynu Ystad Aberaman
gan y meistr haearn Crawshay Bailey oedd yn cynnwys Glofa,
Gwaith Haearn a Gwaith Brics Aberaman, y plasty a'r holl
diroedd cyfagos. Roedd hwn yn gam pwysig dros ben, gan
fod yr ystâd yn cynnwys rhai o'r haenau glo ager
gorau yn y byd, a'r cyfan yn hawdd ei gludo i'r porthladdoedd.
Sefydlwyd pencadlys y cwmni yn Aberaman. Roedd glo Powell
Duffryn yn cyrraedd pedwar ban byd, gan gynnwys rheilffyrdd
India, yr Ariannin, Uruguay a Brasil. Roedd y farchnad
Ffrengig mor llwyddiannus fel y cofrestrodd y cwmni fel ‘Compagnie
Francaise des Mines Powell Duffryn' ym 1914, gyda'r brif
swyddfa yn Rouen.
Dechreuodd dyn abl iawn o'r enw E.M Hann ei yrfa gyda'r
cwmni ym 1879 cyn dod yn gyfarwyddwr ym 1916 gan sicrhau
mai cwmni Powell Duffryn oedd y cwmni cynhyrchu glo mwyaf/gorau
yn y byd. Prynwyd yr holl lofeydd cyfagos gan Hann (Aberaman,
Lletysiencyn, Abernant, y Gadlys a Blaengwawr); a llwyddodd
i suddo pob un o lofeydd y cwmni yng nghwm Aberdâr
i'r wythïen isaf. Hann hefyd a oruchwyliodd y gwaith
o adeiladu golchfa lo a gorsaf cynhyrchu trydan yng nglofa
Middle Duffryn, Aberdâr, gan greu trydan ar gyfer
goleuadau, cludo, weindio, pwmpio, peiriannau torri glo
ac ati. Roedd Hann hefyd yn cael dylanwad ar les cymdeithasol
a byd llywodraeth leol yn Aberdâr. Cafodd ei ethol
yn Llywydd cyntaf Ysbyty Cyffredinol Aberdâr ym 1918,
ac mae ward yno wedi'i henwi ar ei ôl a llechen er
cof amdano hyd heddiw. Bu farw Cann ym 1931, a pharhaodd
ei feibion â'r gwaith.
Ym 1935, fe unodd y cwmni gyda'r Welsh Associated Collieries
Ltd i greu ‘Powell Duffryn Associated Collieries'. Ar ôl
uno eto gyda chwmni ‘Messrs. Cory Brothers and Co. Ltd'
tua diwedd 1942, newidiwyd yr enw i ‘Powell Duffryn Ltd.'
Er i ‘Powell Duffryn Ltd' gael ei lyncu gan y Bwrdd Glo
ym 1947, roedd gan y cwmni ddylanwad mawr o hyd ar reoli'r
diwydiant glo gyda llawer o reolwyr Powell Duffryn yn dal
swyddi uchel gyda'r Bwrdd Glo, yn enwedig yn ardal y De.
Ar ôl i'w buddiannau glo ddechrau edwino wedi 1947,
arallgyfeiriodd ac ehangodd ‘Powell Duffryn Co' i feysydd
eraill, ac erbyn dechrau'r 1980au, roeddynt yn fyd-enwog
ym maes peirianneg, llongau (teithio), swmp storio hylifau,
dosbarthu tanwydd, adeiladu, cynhyrchu wagenni i enwi rhai.
Ym 1980/81, roedd trosiant y cwmni yn £456m.
Mae eu busnesau ledled y De yn cynnwys:-
Powell Duffryn Engineering (Llantrisant)
Powell Duffryn Travel (Caerdydd)
Cory Brothers (Caerdydd)
Powell Duffryn Timber (Y Barri)
Powell Duffryn Quarries (Merthyr Tudful,
Machen, Caerffili, Pen-hw a Chasnewydd)