Mae'r cwm wedi ei enwi ar ôl yr Afon
Clydach, sy'n llifo i lawr i'r Afon Rhondda yn Nhonypandy,
ac mae cofnodion o'r 17eg ganrif hefyd yn cyfeirio at yr
ardal fel ‘Duffryn Clydach'. Gellir rhannu'r cwm yn ddau
bentref ar wahân, Blaenclydach a Chwm Clydach.
Roedd gwythïen y Bedw'n dod i'r wyneb yn Tarren-Ty-Cneifio
yng Nghlydach, a chwmnïau bach yn cloddio am lo yno
mor bell yn ôl â'r 1840au . Ym 1845, daeth dyffryn
coediog Cwm Clydach i sylw'r ymchwilwyr mwyngloddio a gofynnodd
cyfarwyddwyr Rheilffordd Taff Vale i'w hasiant baratoi adroddiad
ar arolwg a wnaed o geunant Cwm Clydach. Felly, tua chanol
y 19eg ganrif agorwyd sawl lefel ym mhen pella'r cwm gan
William Perch and Company er mwyn cloddio gwythïen y
Rhondda Rhif 2. Cludwyd y glo i Reilffordd Taff Vale ar hyd
yr inclein a redai i lawr y cwm. Yn ystod y cyfnod hwn adeiladwyd
teras o ugain o dai o'r enw Perch Row ar gyfer gweithwyr
y pwll.
Er gwaethaf y gweithgarwch diwydiannol cynnar hwn,
roedd Cwm Clydach yn parhau i fod yn gwm coediog o harddwch
naturiol. Fodd bynnag, rhwng 1863 ac 1880 tyfodd yr ardal
ar raddfa fawr, a daeth Cwm Clydach yn un o'r ardaloedd
mwyaf poblog ac adeiledig nid yn unig yn y Rhondda ond
yng Nghymru gyfan. Dechreuodd y twf hwn pan agorodd Bush
and Company wyth ï en y Rhondda Rhif 2 yn Lefel-y-Bush,
a phan agorwyd Glofa Blaenclydach yng ngwyth ï en
y Rhondda Rhif 3 ym 1863. Yn ogystal â hynny, fis
Ionawr 1864 enillodd Daniel ac Edmund Thomas hawliau mwyngloddio
Ystâd Blaenclydach a Fferm Ffynondwyn, ac aethant
ati i agor Glofa Cwmclydach. Ar ben hynny, agorodd Samuel
Thomas ac Osborne Riches Lofeydd Cwm Clydach Rhif 1, 2
a 3 dros gyfnod o ugain mlynedd yn dechrau ym 1872. Erbyn
1879 roedd dwy Lofa Cwm Clydach yn cynhyrchu dros 100 tunnell
o lo bob dydd.
Uchod: Y Sgw â r, Cwm Clydach
tua 1900
Mae gan Gwm Clydach draddodiad hir o fod yn
gymuned agos a gwleidyddol ei naws. Sefydlwyd y gymdeithas
barhaol gyntaf ar gyfer glowyr y Rhondda yn y cwm, sef y
Cambrian Miners' Association, ac fe ymunodd nifer o'i haelodau â'r
Frigâd
Ryngwladol i ymladd yn Rhyfel Cartref Sbaen. Sefydlwyd y ‘Clydach Vale and Blaenclydach
Recreation Ground Committee' ym 1921, gan newid i'r ‘Cambrian Welfare Association'
yn nes ymlaen. Sefydlwyd y pwyllgor hwn gyda grant o £57,000 a'i blaenoriaethau
gwreiddiol oedd creu maes chwarae i blant, cae pêl-droed, cyrtiau tennis
a lawnt fowlio. Parhaodd y gymdeithas am dros drigain mlynedd, gan ddod yn ganolbwynt
bywyd cymunedol yn ardal Clydach, ac yn adeiladu a rheoli neuaddau, sefydliadau
a meysydd chwarae cyhoeddus. Parhaodd â'i gwaith o reoli cyfleusterau
nes i resymau ariannol ei gorfodi i'w trosglwyddo i Gyngor Bwrdeistref Rhondda
ym 1977. Cafodd y bocsiwr Tommy Farr ei eni yng
Nghwm Clydach.
Dewiswch bwnc Cwm Clydach Diwydiant Glo Cwm Clydach Trychineb Glofa Clydach
1905 Trychineb Glofa Clydach 1965 Trychineb Llif Cwm Clydach
Diwydiant Glo Cwm Clydach
Glofeydd Blaenclydach
Agorwyd y lefelau ym Mlaenclydach am y tro cyntaf ym
1863 gan Frank James er mwyn cloddio gwythïen rhif
3 y Rhondda, ffynhonnell ragorol o lo golosg. Ym 1875 agorodd
Bush and Company Lofa Blaenclydach. Ym 1878 prynwyd y lofa
gan Forest Iron and Steel Company Ltd. er mwyn darparu
golosg ar gyfer eu ffwrneisiau ym Mhontypridd, a oedd yn
angenrheidiol wrth gynhyrchu Haemetite a haearn crai. Ailagorwyd
hen Lofa Cwm Clydach gan Gwmni Glofa Blaenclydach ym 1912.
Erbyn 1913 roedd dros 720 o ddynion yn gweithio yn y lofa
newydd hon, sef glofa'r Gorki yn lleol, tra bod yr hen
lofa, oedd bellach yn cael ei galw'n Brookvale, yn cyflogi
dim ond ugain o ddynion. Prynwyd y cyfan gan y Rhondda
Coal Company ym 1920, cyn i Powell
Duffryn ddod yn berchnogion
ym 1940. Arhosodd yn nwylo'r cwmni hwnnw tan i'r diwydiant
gael ei wladoli ym 1947, pan gaewyd y gwaith a cholli 41
o swyddi.
Chwith: Glofeydd Blaenclydach
Glofeydd Cambrian
Agorwyd pwll Rhif 1 ym 1872 gan gwmni a ffurfiwyd gan Samuel Thomas ac Osborne
Riches. Ar ddyfnder o 400 llath, ym 1874 canfuwyd gwythïen lo Chwe Troedfedd
y Rhondda. Yn dilyn y llwyddiant hwn, agorwyd pwll Rhif 2 ym 1874 a Rhif 3
ym Mehefin 1891. Ar gyfartaledd, cynhyrchwyd 700 tunnell o lo bob dydd rhwng
1890 ac 1894. Erbyn hyn, roedd Rheilffordd Taff Vale yn gwasanaethu'r pwll
yn uniongyrchol, ac roedd lle ar ei seidins i dros 840 o wagenni, gan ei wneud
yn fusnes hynod o fawr. Yn dilyn marwolaeth Samuel Thomas ym 1879, daeth ei
feibion yn bartneriaid rheoli ac ym 1895 fe aethant ati i ffurfio Cambrian
Collieries Limited.
Dde: Glofeydd Cambrian tua 1900
Yn dilyn anghydfod Glofa Cambrian ym 1910, a arweiniodd
at Derfysg Tonypandy, cynyddodd y gweithlu i'w lefel uchaf
erioed ym 1913, sef 4,113. Unodd y cwmni ym 1929 i ffurfio
Welsh Associated Collieries Ltd., ac unodd gyda Powel Duffryn
ym 1935 i ffurfio Powell
Duffryn Associated Collieries
Limited.
Ym 1934 cyflogodd y Lofa 1,900 o ddynion dan ddaear yng Ngwythïen Dwy Droedfedd
Naw Modfedd Pentre, y Bute, iard, Gwythiennau Pum Troedfedd a Phum Troedfedd
Is. Caewyd pwll Rhif 3 ym 1936. Parhaodd y lofa i weithio ar ôl i'r diwydiant
gael ei wladoli, ac roedd 1,711 yn gweithio dan ddaear ym 1954. Caewyd y glofeydd
gan y Bwrdd Glo Cenedlaethol ym 1966.
Chwith: Brigâd Achub Glofeydd
Cambrian 1916
W. Richards - J. Thomas - H. Adams
-
Arolygwr
Thorne
R. Jones - J. Hughes(Capten) - E. Wylie
Y Cambrian Combine
Dyma'r cyntaf o'r casgliadau mawr o byllau
glo a ffurfiwyd yn y De, ac roedd yn drobwynt mawr yn nulliau
gweithredu'r diwydiant glo. Gynt, roedd pyllau'n tueddu
i fod yn fach ac o dan reolaeth cwmn ï au glo unigol.
Arweiniodd y broses o ffurfio ‘Combines' at fentrau mwy
o lawer lle'r oedd nifer fawr o byllau'n cydweithio er
mwyn creu un gorfforaeth fawr.
Hyrwyddwyd ‘combines' gan
David Alfred Thomas, Is-iarll y Rhondda, er mwyn rheoli
a rheoleiddio'r fasnach glo ager yn Ne Cymru. Ar ôl
mynychu Prifysgol Caergrawnt, cafodd ei anfon i Lofa Cambrian
ei dad er mwyn cynnal astudiaeth fanwl o drefniadaeth economaidd
y diwydiant glo yn y Rhondda. Yn ei farn ef, pe bai'n bosibl
cyfuno'r ugain cwmni neu lofa a oedd yn cynhyrchu wyth
deg y cant o gynnyrch y De, byddai'r cyfuniad yn ddigon
i reoli a rheoleiddio'r diwydiant glo ager yn y De a Sir
Fynwy. Fodd bynnag, roedd y gystadleuaeth ffyrnig ymysg
y perchnogion glo yn rhy gryf i ganiat á u
unrhyw gynllun cydweithredol. Teimlodd Thomas yn hynod o
rwystredig yn sgil y gwrthwynebiad i'w argymhellion (a lansiwyd
ym 1896) a gadawodd y diwydiant er mwyn mynd i'r Senedd.
Ddeng
mlynedd yn ddiweddarach, ar ôl methu â chael
swydd yn llywodraeth Ryddfrydol newydd-etholedig Campbell
Bannerman, dychwelodd i'r Cambrian yng Nghwm Rhondda. Er
ei fod yn gwybod y byddai gwrthwynebiad y perchnogion glo
eraill yn dal i rwystro'i freuddwyd o gyfuno'r pyllau,
penderfynodd weithredu ar ei liwt ei hun, heb eu cymorth.
Gwnaeth hyn drwy sicrhau cyfran reolaethol mewn eiddo nifer
o'i gystadleuwyr, sef y Glamorgan Coal Company, y Naval
Company Limited a'r Brittanic Merthyr Coal Company Limited
ymysg eraill. Ffurfiodd y Cambrian Trust Ltd. ym 1907 a
Consolidated Cambrian Limited ym 1916. Yr uniad hwn oedd
y pwysicaf yn y diwydiant glo yn y Rhondda cyn y Rhyfel
Byd Cyntaf. Erbyn 1916, er nad mor fawr â'i argymhellion
ym 1896, roedd y Cambrian Combine yn gawr diwydiannol,
gan gynhyrchu dros saith miliwn o dunelli - dwy ran o dair
o'r holl lo a gloddiwyd yn y Rhondda. Yn ogystal â glofeydd
yn y Rhondda, llwyddodd y ‘Combine' i sicrhau cyfran reolaethol
mewn nifer o lofeydd y tu allan i'r cwm yn ogystal â chyfran
reolaethol mewn cwmnïau eraill a oedd yn gysylltiedig
yn uniongyrchol â'r diwydiant glo e.e. rheilffyrdd,
cwmnïau llongau ac ati.
Adeg Anghydfod y Cambrian Combine
(a ddaeth yn adnabyddus fel Terfysg Tonypandy) ym 1910, roedd
maint a grym y Cambrian Combine yn tra-arglwyddiaethu ym
maes glo'r De.
Dewiswch bwnc Cwm Clydach Diwydiant Glo Cwm Clydach Trychineb Glofa Clydach
1905 Trychineb Glofa Clydach 1965 Trychineb Llif Cwm Clydach
Trychineb Glofa Cambrian 1905
Ar 10 Mawrth 1905 cafwyd tanchwa yng Ngwythïen
6tr. pwll Rhif 1 Glofa Cambrian. Lladdwyd 32 o ddynion
dan ddaear, bu farw un arall yn yr ysbyty, ac anafwyd 14
o rai eraill yn ddifrifol. Roedd papurau newydd Dydd Sadwrn
18 Mawrth yn llawn penawdau fel, ' Terrible explosion at
Clydach Vale... Heavy Death Roll... Men still missing...Pit
a veritable inferno.... Men still missing.'
Ar ôl clywed clec y danchwa ledled y cwm, heidiodd
miloedd o bobl leol i ben y pwll i geisio achub bywydau ac
i gael newyddion am eu hanwyliaid dan ddaear. Ar ôl
clywed am y trychineb, teithiodd yr AS lleol, D.A. Thomas,
ar y trên nos o Lundain i fangre'r trychineb, gan gyrraedd
am 3 o'r gloch fore Sadwrn.
Daeth criw cymorth at ei gilydd
ar unwaith ym mhen y pwll, yn cynnwys Leonard Llewellyn,
asiant y glofeydd, D Davies a Trevor Price (rheolwyr), Morris
Williams (Prif Beiriannydd), ac eraill. Cafodd pob un o'r
dynion hyn eu cydnabod wedyn gan y Royal Humane Society am
eu dewrder wrth geisio achub eraill. Wrth ddisgyn i'r pwll
trwy siafft Rhif 2 a'r Wythïen
Coronation, 120 o lathenni o dan yr wythïen a effeithiwyd,
canfu'r criw 50 o ddynion yn fyw a bron yn ddianaf, ac
roedd modd eu hanfon i'r wyneb. Wrth symud yn araf at yr
wythïen 6tr. canfu'r criw 13 o ddynion yn fyw, ond
roedd pob un wedi'i losgi'n ddifrifol. Fodd bynnag, o hyn
ymlaen, ataliwyd yr ymdrechion i achub bywydau oherwydd
dwyster y tân. Erbyn dau o'r gloch fore drannoeth,
ar ôl i'r ymdrechion cyntaf i ddiffodd y tân
dan ddaear fethu, yn ôl Mr. Leonard Llewellyn, roedd
yn gwbl amhosibl i'r un creadur fod yn fyw y tu hwnt i'r
tân. Nid oedd modd diffodd y tân a chlirio'r
creigiau a oedd yn arwain tuag at ffynhonnell y danchwa
tan y dydd Mercher canlynol. Yn ystod y cyfnod hwn, canfuwyd
30 o gyrff ac roedd dau wedi'u llosgi'n ulw gan ffyrnigrwydd
y tân.
Cynhaliwyd chwe angladd cyntaf y rhai a laddwyd
gan y trychineb ar y dydd Mercher yn dilyn y danchwa, a
chyfarfu'r chwe gorymdaith ar Sgwâr Clydach er mwyn
ffurfio un orymdaith i'r fynwent. Roedd cannoedd o bobl
ar strydoedd Clydach, caeodd y siopau lleol am y prynhawn
a chaewyd llenni pob cartref fel arwydd o barch.
Fis Mai 1905, cyhoeddwyd Adroddiad y Swyddfa Gartref i achos y danchwa gan F.A.Gray,
un o Arolygwyr Pyllau Glo ei Fawrhydi. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod y
danchwa wedi dechrau gan lusern ddiogelwch David Enoch, a fu farw yn y danchwa.
Fodd bynnag, roedd ansicrwydd ynglyn â'r hyn a achosodd y llusern i danio.
Yn ôl un ddamcaniaeth, roedd carreg wedi disgyn ac wedi malu gwydr y llusern,
gan ddinoethi'r fflam a thanio'r nwy o'i hamgylch. Yn ôl
y ddamcaniaeth arall, a gefnogwyd gan yr Arolygwr, roedd nwy wedi ffrwydro yn
y llusern, gan ddinoethi'r rhwyllen a thanio'r nwy o'i hamgylch.
Roedd tanchwa
Cambrian 1905 yn drychineb ofnadwy, ond pe bai wedi digwydd ar amser gwahanol
gallai pethau fod wedi bod yn waeth o lawer. Digwyddodd y danchwa am 6.25 p.m.
pan oedd y shifft dydd eisoes wedi gadael y pwll a'r shifft nos yn dal heb gyrraedd.
Oni bai am yr amseru ffodus hwn, byddai mwy o weithwyr
o lawer wedi'u lladd.
Mae rhestr o'r rhai a laddwyd i'w gweld
yma. Dewiswch bwnc Cwm Clydach Diwydiant
Glo Cwm Clydach Trychineb Glofa Clydach 1905 Trychineb Glofa Clydach 1965 Trychineb
Llif Cwm Clydach
Trychineb Glofa Cambrian 1965
'Another sad scar in the Rhondda's History',
'31 Died in Pit Hell', 'Rhondda Hell'.
Dyna oedd penawdau'r papurau newydd ar 18 Mai 1965 yn
dilyn tanchwa yng Nglofa Cambrian, Cwm Clydach, ar ddydd
Llun 17 Mai. Digwyddodd y danchwa ychydig cyn 1.00 p.m.
yng ngwythïen Pentre rhanbarth p.26 a oedd wedi bod
yn gweithio ar ei hanterth ers dim ond pedwar mis. Hwn
oedd y trychineb mawr olaf i daro maes glo'r De. Aed ati'n
syth i geisio achub bywydau, ac ar adegau roedd dros 150
o ddynion yn helpu. Ddeg awr ar ôl y danchwa, tynnwyd
y corff olaf o'r wythïen ddwy droedfedd a hanner,
300 llath o dan y ddaear a mwy na milltir a hanner o ben
y pwll. Lladdwyd 31 gan y danchwa, ac roedd angen defnyddio
rhifau llusernau neu olion bysedd amryw o'r meirw er mwyn
eu hadnabod. Anafwyd 13 o bobl eraill.
Cynhaliwyd ymchwiliad
i'r trychineb yn y Llysoedd Barn, Caerdydd, dros gyfnod
o bedwar diwrnod ym mis Gorffennaf 1965, gyda 58 o bobl
yn rhoi tystiolaeth. Canfu'r ymchwiliad mai llosgnwy a
achosodd y danchwa, gyda'r fflam yn ymestyn ar hyd tua
325 o lathenni o'r ffâs a'r ffordd ddychwelyd. Roedd
y llosgnwy wedi ffrwydro oherwydd awyru gwael a achoswyd
yn bennaf, yn ôl yr ymchwiliad, gan gysylltiadau awyru
a adeiladwyd yn wael ac a arweiniodd at nwy yn cronni. Taniwyd
y nwy gan arc electronig ar banel switsh agored lle'r oedd
trydanwyr yn gweithio. Daethpwyd i'r casgliad, felly, mai
arferion gwaith gwael oedd achos y danchwa.
Er bod y genedl wedi hen arfer â thrychinebau pyllau
glo, fe'i brawychwyd gan y danchwa hon, a nododd D. Frandis
yng nghylchgrawn 'The Miner' ei fod yn synnu bod y ffasiwn
drychineb yn gallu digwydd ym 1965. Credwyd bod trychinebau
mawr o'r fath yn perthyn i'r gorffennol. Cynhaliwyd angladdau'r
glowyr ar y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn, ac roedden nhw'n ddigwyddiadau
hynod o emosiynol. Roedd dros 20,000 o bobl yn sefyll yn ddistaw
ar hyd llwybr yr orymdaith am dros ddwy filltir. Anfonwyd neges
o gydymdeimlad gan y Frenhines i deuluoedd y rhai a anafwyd
a'r rhai a fu farw, a sefydlwyd cronfa a gododd dros £123,000.
Caewyd y pwll ddwy flynedd ar ôl y trychineb, ac agorodd
Neil Kinnock ardd goffa ar safle'r hen bwll. Mae rhestr o'r
rhai a laddwyd i'w gweld yma.
Trychineb Llif Cwm Clydach
Bron bum mlynedd yn union ar ôl tanchwa Cambrian
1905, dioddefodd pentref Cwm Clydach drychineb arall. Er
na ddigwyddodd y trychineb hwn dan ddaear, yr hen weithfeydd
glo oedd yn uniongyrchol gyfrifol amdano. Yn yr achos hwn,
un o'r lefelau 'Perch' gwreiddiol, oedd wedi bod yn segur
am y bum mlynedd flaenorol, oedd yn gyfrifol. Roedd yn
hysbys ers peth amser bod dwr wedi bod yn cronni yn y lefelau
segur hyn, ac roedd contractwr wedi bod wrthi'n draenio'r
gronfa i nant gyfagos.
Mae'n amhosibl bod yn sicr a oedd
y broses o darfu ar y gronfa wedi tanseilio'r muriau gan
achosi'r union ddigwyddiad roedd yn ceisio'i osgoi. Bid â fo am hynny, tua 4.00 p.m.,
dydd Gwener 11 Mawrth 1910, dymchwelodd ochr y mynydd fel
pe bai ffrwydrad folcanig wedi digwydd, ac ysgubodd llifeiriant
o ddwr ynghyd â phentyrrau o bridd, clogfeini a rwbel
i lawr ochr y mynydd.
Chwith: Golygfa o drychineb y llif
Teras Adams oedd yn gorfod wynebu'r llifeiriant hwn
gyntaf, ac yn ôl adroddiadau papurau newydd o'r cyfnod,
lloriwyd y ty cyntaf a wynebodd y llifeiriant fel pecyn
o gardiau, a lladdwyd ei breswylwyr, Mrs. Elizabeth Ann
Williams a'i merch bedwar mis oed. Yn ôl adroddiad
y papur newydd, dinistriwyd un ar ddeg o dai a siop y crydd,
ac ysgubwyd un ty ymaith yn gyfan gwbl.
Llifodd y dwr i
lawr i gyfeiriad Ysgol Cwm Clydach, lle'r oedd naw cant
o blant.
Gwelodd prifathro'r ysgol, Mr.R.B.Williams, y llif yn dod yn nes at yr ysgol,
ac aeth ati'n syth i ddiogelu'r disgyblion. Symudwyd y bechgyn a'r plant hyn
i le diogel, ac roedd angen codi nifer fawr ohonyn nhw dros wal y buarth i lôn
gyfagos. Fodd bynnag, roedd y llif yn symud mor gyflym, roedd yn amhosibl symud
y merched a'r plant bach o'u hysgolion nhw cyn i'r llif eu boddi. Yn ôl
adroddiad papur newydd o'r cyfnod, roedd plant yn cael eu hyrddio i bob cyfeiriad
ac yn arnofio yn y dwr. Yn ffodus iawn, roedd y llif wedi taro ar yr union adeg
pan oedd y shifft yn y pwll lleol newydd ddod i ben, ac roedd nifer fawr o lowyr
yn cerdded heibio'r ysgol ar y pryd.
Fe aeth y glowyr ati'n syth i achub y plant,
gan osod polion ac ysgolion yn erbyn waliau ysgol y merched
a'u helpu i gyrraedd diogelwch buarth y bechgyn trwy'r ffenestri.
Yn yr un modd, cafodd y rhai a oedd yn gaeth yn Ysgol y Babanod
eu symud i le diogel trwy'r ffenestri ac ysgol y merched.
Cafodd nifer fawr o blant a oedd yn gaeth ym muarth y plant
eu codi dros wal yr ysgol a'u hachub. Er gwaethaf ymdrechion dewr yr achubwyr, boddodd
tri o'r plant ysgol, Blodwen Davies, naw oed, Enid Howells
chwech oed a Gertrude Rees, pump oed. Bu farw Elizabeth a
Francis Williams a Haydn Brimble o Stryd Adams hefyd, gan
fynd â chyfanswm y rhai a laddwyd gan y llif i chwech.
Cafodd y wal ei dymchwel gan nerth y dwr yn y buarth, a llifodd y dwr yn ddiogel
i lawr y llethr i'r afon Rhondda. Brawychwyd trigolion Cwm Clydach gan y difrod
a achoswyd gan y llif, a daeth miloedd o bobl i weld y golygfeydd hunllefus.
Fodd bynnag, oni bai am ddewrder athrawon yr ysgol a'r bobl eraill a helpodd
i achub bywydau, byddai llawer mwy o blant wedi marw oherwydd y llif.