Heddiw mae'r enw Dinas yn cyfeirio at le
mawr, poblog, ond roedd ei ystyr gwreiddiol yn cyfeirio
at gaer. Ar Graig Y Ddinas, y llechwedd uwchben Dinas,
canfuwyd gweddillion hynafol a allai fod wedi perthyn i
gaer o ryw fath.
Yn ogystal, wrth i'r diwydiant glo ehangu ar ddechrau'r bedwaredd
ganrif ar bymtheg, rhoddwyd yr enw ‘Dinas Y Glo' ar yr ardal.
Mae gan bentref Dinas le pwysig iawn yn hanes Cwm Rhondda
oherwydd gellir dweud mai dyma'r union bentref y ganed
y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda, ac yn sgil hynny dyma
fan geni Cwm Rhondda diwydiannol ei hun. Dechreuwyd ar
y gwaith datblygu gan Walter Coffin, gwr busnes o Ben-y-bont
ar Ogwr, a brynodd fferm Dinas ar ddechrau'r 1800au a hawliau
mwyngloddio Ffermydd Gwaun Ddu a Gwaun Adda, gyda'r bwriad
o chwilio am lo yn yr ardal. Roedd problemau mawr yn gysylltiedig â chloddio
glo yn Ninas yn y dyddiau cynnar, gan fod gwyddoniaeth
daeareg heb ei datblygu'n llawn eto, ac nid oedd sicrwydd
faint o lo oedd yn yr ardal. Yn ogystal â hynny,
nid oedd gan weithwyr Cwm Rhondda brofiad o'r diwydiant
glo, felly roedd angen dod o hyd i weithwyr o'r tu allan
a'u cartrefu yn yr ardal.
Ar ddechrau'r fenter newydd roedd tramffordd Dr.Griffith
yn dod i ben dair milltir o Ddinas, gan ei gwneud yn anodd
iawn cludo unrhyw lo a gynhyrchwyd. Fodd bynnag, llwyddodd
Coffin i oresgyn y problemau hyn, ac erbyn 1841 cyflogwyd
301 o ddynion a 113 o fechgyn ym mhyllau Coffin yn Ninas,
gan sicrhau mai hon oedd y lofa fwyaf yng Ngogledd Morgannwg
nad oedd yn gysylltiedig â gwaith haearn.
Fferm Dinas Ishaf
Enghraifft o dy hir, h.y. adeilad oblong, isel, hir, sengl
a oedd yn gartref i'r teulu ac i'r gwartheg. Fe'i hadnewyddwyd
yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae gan yr enghraifft hon
drawst lle tân dyddiedig 1638, ond mae'n bosibl bod y
ty ei hun yn hyn na hynny.
Gellir gweld datblygiad cynnar Dinas ar fap degwm 1847
o'r ardal. Mae'r map yn dangos bod yr ardal hon yn wahanol
iawn i weddill Cwm Rhondda yn y cyfnod hwnnw, a oedd yn
tueddu i gynnwys ffermydd gwasgaredig ac ambell i fwthyn,
capel neu eglwys yn unig. Dinas oedd cartref cymuned lofaol
gyntaf Cwm Rhondda, wrth i Coffin a David Griffiths adeiladu'r
rhesi cyntaf o fythynnod ar gyfer gweithwyr Coffin. Mae'r
map hefyd yn dangos capel gyda mynwent a thy ynghlwm. Adeiladwyd
capel ‘Ebeneser' cyntaf Dinas ym 1830.
Chwith: Cymmer Road Dinas
Ychydig iawn o weithwyr o'r tu
allan a symudodd i'r ardal ar y dechrau, ac roedd y mwyafrif
ohonynt yn swyddogion glofaol a ddaeth gyda Coffin o Ben-y-bont,
arbenigwyr mewn agor pyllau o Lansamlet a'r glowyr cyntaf o ardaloedd fel Penderyn,
Llantrisant a Llanharan. Erbyn yr 1930au dechreuodd nifer o labrwyr amaethyddol
o Fro Morgannwg gyrraedd hefyd. Er nad oedd gweithfeydd glo Coffin yn fawr
o'u cymharu â'r hyn a ddaeth wedyn, ei weledigaeth arloesol ef oedd yn
gyfrifol am symbylu datblygiad enfawr y diwydiant glo yn yr ardal – datblygiad
a newidiodd Gwm Rhondda am byth. Yn ôl y cofnodion, cafwyd y danchwa
gyntaf mewn glofa yng Nghwm Rhondda yn Ninas ar Ddydd Calan 1844, a lladdwyd
deuddeg o ddynion a bechgyn. Agorwyd gorsaf achub glofeydd yn Ninas ar 22 Mehefin
1912 gan y Brenin Siôr V.
Uchod: Glofa Dinas
GORSAF ACHUB GLOFEYDD DINAS
Bu gwaith glowyr yn hynod o beryglus erioed. Yn ogystal â thrychinebau
mawr a laddodd nifer fawr o ddynion a bechgyn, lladdwyd
llawer o lowyr gan gerrig yn disgyn, damweiniau mewn siafftau,
damweiniau tramiau ac ati. Rhwng 1889 ac 1910 lladdwyd
dros 1,000 o lowyr ar gyfartaledd bob blwyddyn yn y diwydiant
glo ym Mhrydain, a chododd y ffigur hwn i dros 1,800 ym
1910. O ganlyniad, pasiodd Llywodraeth Prydain Ddeddf Pyllau
Glo 1911. Nododd y Ddeddf hon fod angen i berchnogion pyllau
glo sefydlu Gorsafoedd Achub Canolog, gan sicrhau nad oedd
unrhyw bwll perthnasol fwy na deng milltir i ffwrdd o orsaf
o'r fath.
Ffurfiwyd y Rhondda Collieries Rescue Association yng Nghwm
Rhondda. Roedd y gymdeithas hon yn cynrychioli mwy nag ugain
o gwmnïau glo yng Nghwm Rhondda a'r cyffiniau, a oedd
yn eu tro yn berchen ar fwy na saith deg o lofeydd. Dewiswyd
man ar gyfer yr orsaf achub yn Ninas a oedd lai na 200 llath
o safle'r siafft gyntaf a agorwyd yng Nghwm Rhondda gan Walter
Coffin. Roedd modd cyrraedd cymoedd y Rhondda Fach a'r Rhondda
Fawr yn hwylus o'r safle hwn. Adeiladwyd yr orsaf gan Messrs.
Niblett a Davies o Gaerdydd ar gost o bron i dair mil a hanner
o bunnoedd. Cynhaliwyd y seremoni agoriadol ar 27 Mehefin
1912, ac roedd y Brenin Siôr V a'r Frenhines Mari'n
bresennol.
Y trên brenhinol ym Mhorth yn cludo Siôr
V wrth iddo agor Gorsaf Achub Glofeydd Dinas ym 1912
Chwith: Yr Orsaf Achub - Dinas
Er gwaethaf dirywiad y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda
yn ystod yr ugeinfed ganrif, parhaodd Gorsaf Achub Dinas
i ffynnu. Gwasanaethodd fel gorsaf ganolog ar gyfer gorsafoedd
achub eraill y de, ac estynnodd ei dalgylch wrth i orsafoedd
eraill ddechrau cau. Yn ystod ei saith deg pum mlynedd
cyntaf, hyfforddwyd tua 2,000 o ddynion gan Orsaf Achub
Glofeydd Dinas, ac ymatebodd i dros 200 o alwadau brys,
gan achub bywydau dirifedi yn y broses.
Mae Gorsaf Achub
Glofeydd Dinas yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i'r gymuned
hyd heddiw. Yn dilyn preifateiddio'r diwydiant glo yn yr
1980au, mae gorsaf Dinas wedi'i rheoli gan gwmni preifat,
Mines Rescue Service Ltd. Yn ogystal â pharhau â'i
gwaith achub arbenigol, mae'r orsaf yn Ninas hefyd yn cynnig
hyfforddiant i gwmn ï au preifat, sefydliadau ac unigolion,
mewn meysydd fel cymorth cyntaf, offer anadlu ac iechyd a
diogelwch.