Wrth edrych ar stadau tai cyngor y 1960au
a chwrs golff Cwm Rhondda sy'n tra-arglwyddiaethu ar fryniau
Pen-rhys heddiw, mae'n anodd credu bod chwedlau a hanes
cyfoethog yn perthyn i'r ardal hon – hanes heb ei debyg
i unrhyw ran arall o Gwm Rhondda. Mae rhai o arwyddion
y dreftadaeth gyfoethog hon i'w gweld o hyd yn yr adeilad
brics bach sy'n gartref i Ffynnon Mair ac yng ngherflun
y Forwyn Fair sy'n sefyll uwchben Cwm Rhondda Fawr. Er
hynny, mae olion yr hen fynachlog a'r adeiladau canoloesol
oedd mor flaenllaw ar ben y bryn ar un adeg bron wedi diflannu'n
llwyr. Roedd rhywfaint o'r hen fynachlog yno o hyd yn y
1840au, er ei bod yn rhan o adeiladau fferm ar y safle.
Defnyddiwyd deunyddiau'r hen fynachlog i godi'r adeiladau
fferm. Wrth gloddio drwy sgubor y fferm ym 1912, darganfuwyd
trawst 30 troedfedd wedi'i gerfio'n gelfydd oedd yn deillio
o adeilad go bwysig ar un adeg.
Chwedlau a thraddodiadau Pen-rhys
Mae chwedlau cynnar yn cyfeirio at fynachlog Ffransisgaidd
ym Mhen-rhys, a adeiladwyd fel cofeb i'r Tywysog Rhys ap
Tewdwr a ddienyddiwyd ar y safle yn ôl y sôn.
Yn ôl y chwedl, bu Rhys yn rhyfela yn erbyn Iestyn
ap Gwrgant a gefnogwyd gan y Normaniaid. Ar ôl cael
ei drechu, fe ddihangodd Rhys cyn cael ei ddal a'i garcharu
a'i ddienyddio maes o law. Yn ddiweddarach, dywedir i'w wyr,
Robert o Gaerloyw, noddwr abatai Margam a Chastell-nedd,
sefydlu mynachlog ym Mhen-rhys er cof am Rhys, yn ystod
teyrnasiad Harri'r Cyntaf rhwng 1130 a 1132. Mae haneswyr
diweddar yn amau hyn, gan honni nad ym Mhen-rhys y bu farw
Rhys mewn gwirionedd. Yn ogystal, pan fu farw'r Cwnsel
Robert nid oedd yr Urdd Ffransisgaidd yn bodoli. Mae'n
debyg mai mynachod Sistersaidd o Abaty Llantarnam, Sir
Fynwy, oedd biau mynachlog Pen-rhys mewn gwirionedd.
Beth bynnag am hanes ei sefydlu, fe
wyddom i'r fynachlog fodoli a ffynnu am y 300 mlynedd nesaf
a bod tafarn ar yr ystâd hyd yn oed, ar gyfer y pererinion mwy na thebyg.
Dywedir i'r fynachlog gael ei diddymu, ac i Harri'r V werthu
holl eiddo'r fynachlog fel cosb am gefnogi ymgyrch Glyndwr
yn y bymthegfed ganrif. Yn ôl yr hanes, bu Owain yn
llywydd eisteddfod ar y safle ar ddechrau'r bedwaredd ganrif
ar bymtheg. Os felly, mae'n rhaid fod y safle wedi'i adfer
fel man addoli a phererindod yn fuan wedyn. Ym 1583, yn ystod
cyfnod diddymu'r mynachlogydd, cyfeiriodd y Canghellor Thomas
Cromwell yn benodol at gerflun y Forwyn Fair ym Mhen-rhys
fel un i'w dinistrio yn ogystal â llawer o gerfluniau
crefyddol pwysig eraill fel cerflun Walshingham.
FFYNON MAIR
O dan grib mynydd Pen-rhys,
saif cwt carreg bach, di-nod, o'r enw Ffynnon Mair. Dyma
gartre'r ffynnon sydd wedi bod yn rhan ganolog o fywyd
crefyddol Pen-rhys, sy'n deillio'n ôl i ddyddiau Cristnogaeth gynnar yng Nghwm Rhondda. Mae
dwr y ffynnon hon wedi bod yn gysylltiedig â grymoedd gwella gwyrthiol,
dwyfol, gydol ei hanes. Mae ymchwil yn dangos bod hanes y ffynnon fel canolbwynt
addoli a gwellhad yn perthyn i'r cyfnod cyn Cristnogaeth, gyda gwreiddiau paganaidd
mewn gwirionedd. Fel llawer o ffynhonnau tebyg, roedd y paganiaid yn credu eu
bod yn lleoedd dwyfol â grymoedd cyfriniol. Ar ôl i'r cenhadon Cristnogol
ddarganfod bod ofergoelion ynghlwm wrth ffynhonnau fel Pen-rhys, aethant ati
i'w tanseilio ar unwaith gan bwysleisio mai rhywbeth Cristnogol oedd y ‘pwerau
cyfriniol' hyn.
Felly, cafodd y ffynnon ei chysegru i'r Forwyn Fair
a phwysleisiwyd mai rhodd gan Dduw i'r rhai cyfiawn oedd
ei nodweddion iachaol. Roedd y ffynnon yn effeithiol iawn
i wella sawl anhwylder yn ôl y sôn, gan gynnwys
y gwynegon, ‘haint y Brenin' a namau ar y llygaid yn arbennig.
Hefyd, defnyddiwyd dwr y ffynnon am flynyddoedd lawer i
fedyddio plant yn eglwys y plwyf. Roedd ffynnon Pen-rhys
yn cael ei hadnabod fel ‘pin well' ar lafar gwlad,
gan y byddai'r sawl oedd yn gobeithio cael iachâd
o'i dwr yn taflu pin i mewn iddi wedyn. Os oedd y pin yn
colli'i liw, yna roedd hynny'n arwydd y byddai eu dymuniad
yn cael ei ateb. Daethpwyd o hyd i lwythi o binnau bach
yn y ffynnon yn ystod yr ugeinfed ganrif hyd yn oed.
Uchod: Ffynnon Mair tua 1900
Cerflun y Forwyn Fair, Pen-rhys
Roedd y cerflun gwreiddiol ym Mhen-rhys yn arbennig
o hardd yn ôl y sôn, ac yn dangos Mair yn cusanu'r
Iesu. Roedd yn dipyn llai o faint na'r cerflun presennol,
a chredir ei bod yn sefyll mewn cilfach yng nghapel y ffynnon
fach. Rhodd o'r nefoedd oedd y cerflun gwreiddiol yn ôl
y chwedl, a ymddangosodd yn wyrthiol ar ganghennau coeden
dderwen ar y safle. Llwyddodd y cerflun i wrthsefyll pob
ymdrech i'w symud - ni allai hyd yn oed wyth ych ei dynnu
o frigau'r coed. Dim ond ar ôl adeiladu allor a chapel
bach y symudodd y cerflun o'r goeden. Parhaodd y cerflun
gwreiddiol ym Mhen-rhys tan y 1500au, yn sgil ymgyrch Harri
VIII i ddiddymu'r mynachlogydd. Ar y pryd, ysgrifennodd
yr Esgob Latimer lythyr at Oliver Cromwell yn awgrymu y
dylai nifer o allorau'r forwyn Fair gael eu dinistrio,
gan gredu eu bod yn gyfrwng eilunaddoliaeth ac felly'n
offeryn y diafol. Mae'n amlwg bod cerflun Pen-rhys yn un
go bwysig ar y pryd, gan fod y llythyr yn cyfeirio ato
a cherfluniau eraill yn Wasingham ac Ipswich er enghraifft.
Felly, symudwyd y cerflun o'r allor gefn liw nos er mwyn
osgoi unrhyw helynt yn lleol. Dywedir i'r cerflun gael
ei symud i gartref Thomas Cromwell yn Llundain, ac ar ôl
i'r Esgor Latimer ei daflu drwy ffenestr orllewinol Eglwys
Gadeiriol Sant Paul, fe'i llosgwyd yn gyhoeddus gyda llawer
o ddelweddau eraill o'r Forwyn Fair.
Chwith: Morwyn Pen-rhys tua1997
Pan adeiladwyd eglwys Glynrhedynog, prynodd
Miss M.M.Davies o Lantrisant gopi o'r cerflun gwreiddiol
yn sefyll mewn boncyff coeden, wedi'i naddu mewn pren derw,
fel rhodd i'r eglwys newydd. Codwyd y cerflun presennol ar
fryniau Pen-rhys ym 1953, a chafodd ei fendithio gan yr Archesgob
McGrath ar 2 Gorffennaf y flwyddyn honno. Naddwyd y cerflun
o garreg Portland, ac fe'i cynlluniwyd mor driw i'r gwreiddiol â phosib
gan ddefnyddio disgrifiad ohono a gafwyd mewn cerddi Cymraeg
canoloesol.
Pererindodau i Ben-rhys
Mae'r traddodiad o bererindota yn gannoedd
o flynyddoedd oed, ac roeddynt yn ddiwydiant pwysig iawn
yn yr oesoedd canol. Daeth Pen-rhys yn gyrchfan pererindod
a defosiwn crefyddol o bwys, yn sgil enwogrwydd y ffynnon
iachaol. Yn ôl rhai, dim ond Tyddewi oedd yn bwysicach
o ran arwyddocâd crefyddol. Oherwydd poblogrwydd
y lle, ehangwyd yr adeiladau gwreiddiol er mwyn gwasanaethu'r
holl bererinion, a chodwyd tafarn ar y safle. Y werin yn
bennaf oedd pererinion Pen-rhys, er bod rhai o bob tras
a chefndir yn ymweld â'r lle. Mae un o feirdd canoloesol
enwocaf Cymru, Gwilym Tew yn disgrifio'r ‘lines of
upturned faces…as the priest administered holy communion' .
Roedd hi'n beth cyffredin i'r pererinion adael rhoddion
gwerthfawr wrth yr allor, ac addurno'r cerflun gyda thlysau
ac eurblat. Y rhoddion defosiynol mwyaf poblogaidd fodd
bynnag oedd taprau neu ganhwyllau tal. Mae llawer o gerddi
canoloesol wedi goroesi hyd heddiw sy'n cyfeirio at y pererindodau
a'r allor ym Mhen-rhys, a'r llu o gleifion o bob cefndir
oedd yn tyrru yno.
Er gwaethaf diddymu'r mynachlogydd, ac er gwaethaf olion
prin yr allor a'r adeilad gwreiddiol, mae cofnodion yn
dangos bod Pen-rhys yn dal i ddenu pererinion ffyddlon
hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg (ar raddfa dipyn llai
na chynt).
Pan ddaeth y Parchedig P. J O'Relliy Gibbons i fod yn offeiriad
plwyf yng Nglynrhedynog ym 1936, aeth ati i adfer traddodiad
y bererindod i Ben-rhys. Ar ôl codi'r cerflun newydd
ym 1953, amcangyfrifir i 20-25,000 o bobl ymuno â'r
bererindod gyntaf yno. Trefnodd Eglwys Loegr ei phererindod
gyntaf i Ben-rhys ym mis Mai 1976. Yna, ym mis Mai 1977,
cymerodd 2,000 o bobl ran yn y bererindod gyntaf o gleifion
i Ben-rhys ers y diwygiad. Felly, mae traddodiad crefyddol
hyd at 800 mlynedd oed yn dal yn fyw yng Nghwm Rhondda heddiw.
Ysbyty'r frech wen, Pen-rhys
Pan drodd Cwm Rhondda yn gwm diwydiannol
fel sy'n gyfarwydd inni heddiw, roedd yr amodau iechyd
a glanweithdra yn warthus a dweud y lleiaf. Roedd pobl
yn marw'n gynnar, llawer o fabanod yn marw, a'r amodau
byw gorlawn ac afiach yn golygu bod heintiau'n ymledu'n
hawdd o un i'r llall. Felly ym 1904, nododd Swyddog Iechyd
Meddygol Cwm Rhondda yn ei adroddiad blynyddol, bod gwir
angen ysbyty ar wahân i drin y frech wen ar fyrder,
er gwaetha'r ffaith fod ysbyty'r dwymyn eisoes yn Ystradyfodwg.
Y frech wen oedd un o'r clefydau ymledol mwyaf ffyrnig
ar y pryd. Cyn yr adroddiad hwn ym 1906, dewisodd y cyngor
lleol safle ym Mhen-rhys ar gyfer yr ysbyty newydd dan
sylw, a phrynodd Pwyllgor Iechyd Cyngor Trefol y Rhondda
dair erw o dir gan fferm Pen-rhys Isaf. Dewiswyd y safle
hwn gan ei fod yr un mor gyfleus i Gwm Rhondda Fach a Chwm
Rhondda Fawr, ar ochr y mynydd rhwng y ddau le. Hefyd,
roedd ei lecyn unig yn ddelfrydol ar gyfer ysbyty arunig/heintiau,
a safai o leiaf 400 llath o'r adeiladau agosaf, sef ffermydd
Pen-rhys Uchaf a Phen-rhys Isaf. Yn ôl adroddiad
blynyddol y Swyddog Meddygol, byddai'r ysbyty yn costio
tua £35,000 i'w adeiladu - gan gynnwys tir, sylfeini,
gwaith draenio, adeiladau, y celfi a'r ffitiadau, cyflenwad
dwr, a'r ffens o'i gwmpas. Erbyn diwedd y flwyddyn ganlynol,
roedd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau.
Bu'r ysbyty'n gwasanaethu cymunedau Cwm Rhondda i ddechrau,
a'r De i gyd wedyn, am dros 60 mlynedd. Pan nad oedd defnydd
pellach i'r adeilad yn y 1970au, cafodd ei losgi'n llwyr
gan Wasanaeth Tân De Cymru ym 1971, er mwyn difa unrhyw
firws oedd yn llechu yno.