Roedd fferm sylweddol ‘Y
Pentref' yn bodoli yma ymhell cyn i'r pentref go iawn ddatblygu
yn sgil y diwydiant glo.
Fel oedd yn gyffredin yng Nghwm
Rhondda cyn yr oes ddiwydiannol, roedd nifer o ffermydd
ar hyd a lled y fro fel ‘Pentref'
a'r ‘Maendy' yn cael eu ffermio gan denantiaid gyda landlordiaid
absennol.
Er hynny, daeth mentrwyr busnes i bob rhan o Gwm Rhondda
gyda'r holl alw cynyddol am lo a'r holl elw posibl yn sgil
hynny. Ym 1857, prydlesodd Edward Curteis o Landaf hawliau
mwynol Tir y Pentre gan Griffith Llewellyn o Faglan, ac
agorwyd lefelau'r Pentre a Church yn fuan wedyn. Erbyn
dechrau 1864, roedd y ‘Pentre Coal Company' wedi agor siafftiau
glo â'u cysylltu â'r gwythiennau glo dyfnach,
ac agorwyd ail bwll yn y Pentre. Ar y pryd, Glofa'r Pentre
oedd un o'r mwyaf a'r fwyaf proffidiol yn y cymoedd. Dyma
pryd y datblygodd y pentref go iawn.
Erbyn dechrau'r 1900au, roedd y Pentre'n
lle prysur dros ben ac yn un o'r prif ardaloedd siopa ar
gyfer rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr, gyda chwe siop gadwyn
a dwy siop y Co-op ymhlith eraill. Fe'i disodlwyd gan Dreorci
yn ddiweddarach ar ôl i Lofa'r Pentre gau. Y Pentre oedd canolbwynt
llywodraeth leol Cwm Rhondda ar ôl agor swyddfeydd
y cyngor yn Llewellyn Street ym 1882. Mae'r Pentre hefyd
yn ymfalchïo yn ‘Eglwys Gadeiriol Cwm Rhondda', sef
Eglwys San Pedr a gysegrwyd ym 1890, ac mae ei thwr ysblennydd
yn amlwg ymhob cwr o'r ardal.
Dyma gartref cwmni Pentre Breweries, a sefydlwyd ym
1875, am flynyddoedd lawer hefyd, a gwerthwyd cwrw'r cwmni
yn nhafarndai cymoedd y de.
Ym mis Hydref 1916, cafodd nifer a siopau a llawr sglefrio
eu claddu gan dirlithriad, gan fygwth yr unig ffordd oedd
yn mynd drwy Gwm Rhondda Fawr. Yn sgil hyn, cafodd y cyngor
eu sbarduno i godi ail ffordd rhwng Tonpentre a Chwmparc.
Isod:
Ffowndri Cubitt a Llewellyn – Sefydlwyd gan Griffith Llewellyn
o Faglan a William Cubitt. Bellach mae'r adeilad yn gartref
i'r Fyddin Diriogaethol.
Ar wahân i'r pyllau glo, prif fusnes arall y
Pentre oedd y Rhondda Engine Works dan reolaeth y Meistri
Llewelyn a Cubitt, cwmni o beirianwyr a thoddwyr haearn
a phres. Am hanner canrif, bu'r cwmni hwn yn cyflenwi rhai
o'r offer glofaol gorau a'r mwyaf dibynadwy i fusnesau
glo ledled y de. Sefydlwyd y cwmni ym 1847 gan Griffith
Llewellyn o Faglan, a oedd yn berchen ar lawer o dir yng
Nghwm Rhondda, a William Cubitt o Lundain. Roedd eu gweithdai'n
cynnwys ty injan, ffowndri haearn a phres, siop y boeler
a gefail - oll ar ran o Ystâd Baglan, chwarter milltir
o orsaf drenau'r Taff Vale.
Ar droad y ganrif, roedd dros 100 o grefftwyr medrus yn gweithio
yma. Cyn i'r gweithdai gael eu dymchwel ym 1915, roedd cwmni
Llewelyn a Cubitt wedi cyflenwi fframiau pen pwll dur, caetsys
y pyllau a llawer o offer hanfodol eraill i'r diwydiant glo
am ddeugain mlynedd i'r rhan fwyaf o lofeydd Cwm Rhondda.