Mae cymoedd y Rhondda Fawr a'r Rhondda Fach yn cwrdd â'i gilydd yn nhre'r
Porth a dyna sy'n cyfrif am darddiad yr enw, sef ‘y fynedfa i Gwm Rhondda'.
Felly hefyd y Cymer - hen air Cymraeg am ddwy afon yn cwrdd â'i gilydd,
a'r enw a roddwyd ar yr ardal gyfagos. Mae'r Cymer bellach yn faestref o'r Porth
ond mae ffynonellau cynnar yn dangos mai y Cymer oedd yr enw a ddefnyddiwyd
yn y dyddiau cynnar. Datblygiad y cloddio am lo ar Ystâd y Porth, a dyfodiad
Rheilffordd y Taff Vale i'r Porth a barodd i enw'r Porth ddod i amlygrwydd.
Fel y rhan fwyaf o'r Rhondda roedd y Porth, cyn dyfodiad
y pyllau glo, yn wledig iawn, poblogaeth y cylch yn denau
a'i harddwch naturiol yn nodedig. Y Porth oedd un o ardaloedd
cyntaf y Rhondda i weld diwydiannu ar raddfa fawr, a newidiodd
ei natur o fod yn fugeiliol a thangnefeddus i arddangos
yr agweddau diflas hynny oedd yn nodweddiadol
o ardaloedd glofaol yn gyffredinol. Cyn i gloddio am lo
ar raddfa fawr ddigwydd yn y Porth, dim ond yn Dinas yr
oedd wedi digwydd o gwbl yn y Rhondda. Fodd bynnag, gyda
dyfodiad Rheilffordd y Taff Vale i'r ardal ynghyd â'r
cynnydd yn y galw am lo a arweiniodd at brinder ohono,
y dechreuodd y datblygu o ddifri.
Uchod: Golygfa gyffredinol o'r Porth tua 1900
Golygai hyn, ynghyd â'r gwelliant mewn technegau
mwyngloddio fod amgylchiadau yn aeddfed ar gyfer datblygu'r
diwydiant yng nghymoedd y Rhondda. Denodd hyn hapfuddsoddwyr
mwyngloddio i'r ardal, ac un o'r rhai pwysicaf yn natblygiad
y Porth oedd George Insole.
Perchennog cwmni llongau yng Nghaerdydd oedd wedi arbenigo
mewn glo oedd Insole. O weld cynnydd yn y galw am lo bitwmen
penderfynodd fod yn gynhyrchydd yn hytrach na dim ond yn
gyflenwr. Felly agorodd Lofa Maesmawr, ond nid oedd yn
cynhyrchu cymaint â'r disgwyl. Hefyd, roedd y glo
a gynhyrchai o safon is na chynnyrch glofa Dinas, a elwid
yn ‘Coffin Coal'.
Uchod: Pont y Cymer
Felly ym 1844 cymerodd hawliau mwyngloddio 375 erw o dir yn y Cymer ar brydles
gan Evan Morgan Fferm Ty'n-y-Cymer, ac agor Lefel Dde'r Cymer ym mis Rhagfyr
y flwyddyn honno. Araf iawn oedd y datblygiad ar y dechrau, a siomedig oedd
y cynnyrch o wythïen Rhondda Rhif 2. Felly ym 1847 penderfynodd Insole
suddo pwll, Pwll Rhif 1 neu Hen Bwll y Cymer, i wythïen Rhondda Rhif 3.
Suddwyd hwn ryw 80 llath yn is na gwythïen Rhif 2 ac yn fuan enillodd enw
da am ei lo golosg, ac ym 1848 adeiladwyd 36 o ffyrnau golosg yn y Cymer. I
gwrdd â'r galw cynyddol ehangwyd y gwaith yn y Cymer ac ym 1851 suddwyd
Glofa Uchaf y Cymer. Hefyd ym 1855 agorwyd Glofa Newydd y Cymer yn ymyl Hen
Bwll y Cymer.
TANCHWA GLOFA'R CYMER 1856
Fore Mawrth, 15 Gorffennaf 1856 yn Hen
Lofa'r Cymer, digwyddodd yr hyn a gofnodir gan yr Arolygwr
Glofeydd fel 'The most fearful and destructive explosion,
resulting in a sacrifice of human life unparalleled in
the history of Britain at that time' . Am 6 y bore
aeth 165 o ddynion a bechgyn i lawr y siafft i ddechrau
ar eu shifft ac roeddynt ar eu ffordd i'w mannau gwaith
pan ddigwyddodd tanchwa. Mor ofnadwy oedd y danchwa fel
y credai'r achubwyr fod pob bywyd wedi'i golli. Ond nid
oedd rhai gweithwyr wedi mynd ond ychydig bellter i mewn
i'r pwll a gallodd y rheini wneud eu ffordd yn ôl
i'r siafft ac i ddiogelwch. Aeth yr achubwyr ati i glirio
gweddill y llosgnwy o'r lofa, a thair awr wedi i'r danchwa
ddigwydd aethant i lawr i'r pwll. Erbyn yr hwyr roedd rhyw
112 o gyrff wedi eu codi i ben y pwll; cafwyd hyd i löwr
arall ar y dydd Mercher a bu farw un o losgiadau difrifol
ar y dydd Iau.
Ar ben y pwll roedd perthnasau a ffrindiau yn chwilio
i gael enwi'r meirw, llawer ohonynt, nid wedi llosgi i
farwolaeth ond wedi eu mygu gan weddillion y llosgnwy.
Defnyddiwyd gweithdai saer y Lofa a Chapel yr Annibynwyr
y Cymer i gadw'r cyrff dros dro.
Chwalwyd cymunedau bach y Cymer a'r ardaloedd amgylchynol
gan raddfa'r drychineb; ni adawyd un cartref heb ei gyffwrdd
a bu farw bron pob dyn a bachgen o oedran gweithio. Mewn
un cartref yn unig collwyd tad a'i dri mab 10, 13 ac 16
oed. Agorwyd 30 o feddau ym mynwent Capel yr Annibynwyr
y Cymer, a chynhaliwyd angladd i gladdu'r meirw dydd Iau,
17 Gorffennaf.
Cynhaliwyd y cwest cyntaf i'r drychineb yn y Ty Newydd Hotel,
y Porth ar 16 Gorffennaf ond cafodd ei ohirio tan y Llun
27 Gorffennaf i'w gynnal yn y Butcher's Arms Pontypridd.
Parhaodd y cwest am 13 diwrnod a galwyd 29 o dystion. Daeth
yn amlwg yn y cwest fod y rhagofalon diogelwch yn y lofa
yn gwbl annigonol, a bod rheoliadau diogelwch yn cael eu
hanwybyddu. Gwelwyd nad oedd y lofa yn cael eu hawyru'n iawn,
mai peth cyffredin oedd darganfod pocedi o nwy o dan ddaear,
a'i bod yn arfer i gario fflam agored yn y pwll. Dygodd y
rheithgor reithfarn o ddynladdiad ar reolwr y pwll, Jabez
Thomas, a phedwar o swyddogion y lofa. Cafodd eu dyfarniad
ei wrthdroi gan frawdlys Morgannwg yn Abertawe'r mis Mawrth
canlynol, a pharodd hyn lawer o ddrwgdeimlad ymhlith gweithwyr
y glofeydd.
TRYCHINEB YNG NGLOFA TYNEWYDD Y PORTH 1877
Tua 4 y prynhawn ar 11 Ebrill 1877 llanwyd pwll Tynewydd, glofa Troedyrhiw gan
lifeiriant o ddwr. Ar adeg y drychineb roedd y pwll yn cyflogi rhyw 100 o ddynion,
ond pan ddigwyddodd y ddamwain dim ond 14 ohonynt oedd dan ddaear. Digwyddodd
y ddamwain am fod y gwaith presennol wedi torri trwodd i waith Hen Bwll y Cymer
nad oedd bellach yn cael ei weithio ac a oedd wedi llenwi â dwr. Ar unwaith
dechreuwyd ceisio achub yr 14 dyn oedd ar goll. Pan glywyd swn cnocio, torrodd
yr achubwyr drwy biler o lo 12 llath o drwch, a bore drannoeth daethant o hyd
i 5 dyn. Yn anffodus, pan dorrwyd y twll bach cyntaf i fynd i mewn i'r boced
lle'r oedd y dynion wedi'u dal, gwasgwyd un ohonynt (William Morgan) i farwolaeth
gan nerth yr aer cywasgedig. Tybiwyd bod y naw gweithiwr arall wedi marw yn
y llifddwr. Ond clywyd rhagor o gnocio yn dod o stâl Thomas Morgan, a
oedd yn is na lefel y llifddwr, a thybiodd yr achubwyr fod rhagor o ddynion
wedi'u dal mewn poced o aer. Mewn ymgais anarferol i'w hachub galwyd ar ddau
blymiwr o Lundain, ond roedd cymaint o falurion yn y pwll fel nad oedd hynny'n
bosibl. Yr unig ffordd o gyrraedd y dynion fyddai torri drwy dros 38 llath o
lo. Er gweithio nos a dydd cymerodd ddeng niwrnod i gyrraedd y pum dyn, ac erbyn
hyn roedd eu cyflwr wedi tynnu sylw'r wasg drwy'r byd, a derbyniwyd brysnegesau
yn gofyn am y newyddion diweddaraf gan y Frenhines Victoria hyd yn oed. O'r
diwedd, am 2.30 p.m. ar ddydd Gwener 20 Ebrill cyrhaeddodd y tîm achub
y pum dyn oedd wedi bod heb fwyd am ddeng niwrnod a heb ddim ond llifddwr brwnt
i'w yfed. Bu'n rhaid i'r pump dreulio deunaw niwrnod yn yr ysbyty oherwydd eu
bod yn dioddef o'r ‘bends' o ganlyniad i'r datgywasgu cyflym. Wedi hynny gwella
fu hanes pob un ohonynt. Collodd y pedwar dyn arall oedd ar goll eu bywyd yn
y llifddwr. Wedi hynny cyflwynodd y Frenhines Victoria bedair ar hugain o fedalau
Albert dosbarth cyntaf ac ail i'r achubwyr.
Dechreuadau addysg yn y Porth
Yn draddodiadol, mae addysg, law yn llaw â chrefydd, wedi chwarae rhan
bwysig ym mywydau pobl y Rhondda. I'r dosbarth gweithiol roedd yn ffordd o ddianc
o'r pwll ac yn gyfle i roi gwell bywyd i'w plant nag a gawson nhw. Fodd bynnag,
roedd cadw'r plant yn yr ysgol yn aberth; mewn cyfnod pan oedd arian a gwaith
yn brin yn aml roedd yn rhaid cael cyflog arall, a phan fyddai digonedd o waith
ar gael roedd cyflog arall yn ddeniadol iawn i deulu mawr dosbarth gweithiol.
Er hynny, daeth y Rhondda'n enwog am ei hagwedd tuag at addysg a hunan-ymroddiad.
Fodd bynnag, i fyny at 1859 yr Ysgolion Sul oedd yr
unig gyfleusterau addysgol yn ardal y Porth. Yna, ym 1859,
agorodd y Gymdeithas Genedlaethol Ysgol Genedlaethol y
Cymer gyda'r bwriad o 'inculcating Church of England
doctrines in addition to the usual secular subjects' .
Yn fuan wedyn agorwyd Ysgol Brydeinig yn y Porth i'r rheini
roedd eu rhieni yn gwrthwynebu athrawiaethau Eglwys Loegr.
Am lawer blwyddyn, roedd hon yn cael ei chynnal yng Nghapel
Bethlehem a hi a ddaeth ymhen amser yn Ysgol y Bechgyn,
y Porth. Yn dilyn newid yn y gyfraith daeth mynychu'r ysgol
yn orfodol a ffurfiwyd Byrddau Ysgol er mwyn codi arian
drwy drethi lleol a darparu adeiladau cymwys.
Felly ar ddiwedd yr 1870au, cafodd Ysgol Genedlaethol
y Cymer ei throsglwyddo i Fwrdd Ysgol Llantrisant, ac Ysgol
Brydeinig y Porth i fwrdd Llanwynno. Fodd bynnag, roedd
twf cyflym yr ardal yn golygu bod angen rhagor o ysgolion,
felly adeiladwyd ysgol newydd yn y Cymer a'i hagor ym 1881.
Yn ystod yr 1890au daeth holl ysgolion y Porth o dan Fwrdd
Ysgol newydd Ystradyfodwg. Ym 1893 daeth hen Ysgol Genedlaethol
y Cymer yn ganolfan rhan-amser ar gyfer hyfforddi Disgybl
Athrawon, ac fe'i hymgorfforwyd yn adeiladau'r ysgol uwchradd
newydd. Yn dilyn Deddf Ysgolion Canol 1889, adeiladwyd
Ysgol Ganol y Rhondda yn y Porth i roi i fechgyn a merched
addysg fyddai'n eu paratoi ar gyfer cyrsiau prifysgol.
Adeiladwyd yr ysgol ar dair erw o dir uwch Mount Pleasant
wedi'i roi am ddim gan y Cyrnol Picton Turberville, ac
fe'i hagorwyd ar 22 Medi 1896, a hi wedyn a ddaeth yn Ysgol
Sir y Porth. Ym 1913 agorwyd Ysgol Sir y Merched.
Yn ddiweddarach sefydlodd Y Bwrdd Ysgolion
Ysgol Elfennol Uwch yn Mount Pleasant, a chafodd statws honno
ei ddyrchafu i Ysgol Uwchradd yn yr 1920au hwyr. Roedd swyddogaeth
yr ysgolion Gradd Uwch yn gyfyngedig, a'r addysg a roddent
yn cael ei hystyried yn ddim ond hyfforddiant galwedigaethol
i feibion glowyr. Roedd disgwyl i'r Ysgol Ganol, fodd bynnag,
ddarparu ar gyfer lleiafrif dosbarth canol a fedrai fforddio
talu am addysg yn ogystal â'r rheini oedd yn ddigon
dawnus i haeddu ysgoloriaeth, ac roedd ei maes llafur clasurol
ei naws yn fwy amrywiol. Roedd yn y Porth hefyd ddwy ysgol
breifat a fu'n llewyrchus am nifer o flynyddoedd ar ddechrau'r
ugeinfed ganrif, y Cambrian Mining School a'r Commercial
School y ddwy yn Heol y Fynwent. Yn olaf, adeiladwyd Neuadd
Tynycymer, Athrofa Feiblaidd De Cymru lle'r oedd dynion a
merched yn cael eu hyfforddi 'in Bible knowledge...for
all kinds of Christian work at home and abroad'.
Hanes crefyddol cynnar y Porth
Ni ellir meddwl am y Rhondda heb feddwl
am grefydd yn gyffredinol ac anghydffurfiaeth yn enwedig,
ac nid yw'n bosibl gorbwysleisio pwysigrwydd crefyddol
a chymdeithasol ‘y capel'. Wedi i lofa gael ei hagor yn
lleol ac i weithwyr ddylifo i mewn i ardal, yr un patrwm
a ddilynai pentrefi'r Rhondda wrth ddatblygu. Yn ddieithriad
yr anghenion crefyddol fyddai'r cyntaf i gael eu diwallu.
Felly ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg roedd gan
drigolion y Porth nifer o ddewisiadau o ran sectau a lleoedd
i addoli, a dyma fanylion am rai ohonynt:
Y Methodistiaid Cynnar
Mae cofnodion yn dangos i gylchdaith Methodistiaid cynnar
Aberdâr genhadu yn y Porth ym 1867 ac i Ysgol Sul
gael ei sefydlu ym 1868 gyda'r egin eglwys bryd hynny yn
cwrdd yn 9 Mary Street. Erbyn 1870 roedd Eglwys y Porth
yn rhan o gylchdaith Pontypridd ac iddi 15 o aelodau. Erbyn
1877 roedd y Porth wedi dod yn ‘orsaf' ar wahân gyda'r
Parch C. T. Harries yn arolygydd cyntaf arni, ac ym 1879
codwyd capel.
Yr Annibynwyr Saesneg
Mae hanes Annibynwyr Saesneg y Porth yn dyddio'n ôl
i 1881, pan gafodd gwasanaethau eu cynnal yn ‘Hen Gapel'
y Cymer. Ym 1882 corfforwyd yr Eglwys ac ym 1883 adeiladwyd
Festri yn Ffordd Pontypridd lle y bu'r gynulleidfa'n addoli
am rai blynyddoedd. Ym 1885 adeiladwyd capel newydd ac
yn ddiweddarach ychwanegwyd neuadd fawr ac ystafelloedd
dosbarth. Ehangwyd y capel ym 1912 a gosodwyd organ ynddo
Y Wesleaid Cymraeg
O ganlyniad i'r dirwasgiad yn niwydiant llechi'r gogledd
a diwydiant mwyngloddio plwm Sir Aberteifi heidiodd llawer
o weithwyr o'r ardaloedd hynny i ardaloedd gloafol De Cymru.
Gan nad oedd Eglwys Wesleaidd iddynt addoli ynddi yn y
Porth, gofynnwyd am ganiatâd i godi festri yno. Codwyd
hi ym 1882, ond gyda rhagor o bobl yn dylifo i mewn roedd
angen adeilad mwy, ac felly codwyd Ebenezer ym 1903 ar
gost o £2,000.
Y Bedyddwyr Cymraeg
Gellir olrhain dechreuadau'r achos yn Salem yn ôl i
1852, pan bregethodd y Parch W. Lewis, Zoar Ffrwdamos i drigolion
y Porth. Roedd yr ychydig Fedyddwyr bryd hynny yn aelodau
yn Zoar ac yn ddiweddarach yng Ngharmel (ailenwyd yn Tabernacl)
Pontypridd. Fodd bynnag, ym 1853 cafodd 22 o aelodau Carmel
eu rhyddhau i ffurfio chwaer-eglwys yn y Porth gyda'r aelodau
yn cwrdd mewn ty o'r enw America Fach. Ym 1855 agorwyd a
chorfforwyd y capel cyntaf a disodlwyd hwnnw gan adeilad
mwy a agorwyd ym 1879. Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif
ar bymtheg roedd achos y Bedyddwyr yn ffynnu yn y Porth ac
arweiniodd hyn at godi capeli newydd yn Ainon, Ynyshir, Pisgah,
y Cymer a Seion, Birchgrove, y Porth.
Tabernacle, Y Porth - Y Bedyddwyr Saesneg
Ym 1872 roedd ychydig Fedyddwyr Saesneg y Porth yn mynychu
gwasanaethau'r Wesleaid; roedd rhwystr yr iaith yn ei gwneud
yn amhosibl iddynt ymuno yng ngwasanaethau'r Bedyddwyr Cymraeg.
Erbyn 1874 oherwydd y cynnydd yn eu nifer daeth yn bosibl
iddynt ffurfio eglwys, Eglwys y Bedyddwyr Saesneg oedd yn
cwrdd yn ysgoldy Bwrdd Llanwynno. Yn ddiweddarach codwyd
festri yn Hannah Street a'i hagor yn ffurfiol ym mis Gorffennaf
1875. Ddwy flynedd wedyn ym 1877 agorwyd capel newydd. Yn
yr 1890au sefydlwyd eglwysi newydd Bethany, Ynyshir a Phenuel,
Trehafod. Ehangwyd ac ychwanegwyd adain newydd i'r Tabernacle
yn 1903 ar gost o £1,800.
Yr Annibynwyr Cymraeg
Oherwydd ei sefydlu mor gynnar â 1738 gall Eglwys
Annibynnol Y Cymer hawlio mai hi yw mam eglwys Anghydffurfiaeth
yn y Rhondda. Ym 1740 roedd rhestr aelodaeth o 63, ac ym
1743 codwyd hen Gapel y Cymer. Ailadeiladwyd hwn ar ei safle
presennol ym 1834, ac ychwanegwyd chwaer eglwysi yn Ynyshir
a'r Porth ym 1879. Ym 1855 ehangwyd Capel y Cymer i eistedd
mil o addolwyr. Ffurfiwyd naw chwaer eglwys i'r Cymer - yn
Castellau, Dinas, Gilfach, y Porth, Pontypridd (Sardis),
Tonyrefail, Williamstown (Saron), Hafod (Bethel), ac Ynyshir
(Saron).
Eglwys Goffa Pugh
Roedd Eglwys Goffa Pugh yn perthyn i'r Symudiad Ymosodol,
adran o'r Eglwys Bresbyteraidd a sefydlwyd ym 1891 gan y
Parchedigion John Pugh a Seth Joshua. Cafodd nifer o aelodau
o fam eglwys Bethlehem Pontypridd eu rhyddhau i sefydlu'r
achos, a Neuadd Wilke ar gornel Ffordd y Cymer oedd eu man
cyfarfod. Anfonodd Dr. Pugh y gweinidog cyntaf i'r eglwys
ym 1893. Sicrhawyd lleoliad parhaol i'r eglwys ac aed ati
i adeiladu neuadd i eistedd 700 o bobl ger ‘Yr Hen Bwll'
yn Ffordd Pontypridd. Tra roedd honno'n cael ei chodi roedd
yr eglwys yn addoli yn Hen Neuadd y Dref, ond yn 1908 fe'i
hagorwyd a'i henwi'n Eglwys Goffa Pugh'
Yr Eglwys Wesleaidd Saesneg
Mae'n ymddangos i'r adeilad gwreiddiol gael ei agor ym 1867
gan mai dyna'r dyddiad ar y dystysgrif sy'n cofrestru'r adeilad
fel lle o addoliad. Ehangwyd ymhellach ym 1880 ar dir a gafwyd
gan Mr Idris Williams ac eraill.
Yr Eglwys Yng Nghymru
Yn wreiddiol roedd y Cymer ym Mhlwyf Llantrisant a'r Porth
ym Mhlwyf Llanwynno. Pan gafodd yr Ysgolion Cenedlaethol eu
hadeiladu yn y Cymer ym 1857 dechreuodd y Parchedig Morgan,
Ficer Llantrisant gynnal gwasanaethau yn yr ysgoldy. Daeth
hwn yn lle o addoliad i bobl ardaloedd Ynyshir, Dinas a Threhafod
yn ogystal â'r Cymer a'r Porth. Ym 1874 sefydlwyd pwyllgor
i edrych i mewn i'r posibilrwydd o godi eglwys yn y Cymer,
ond oherwydd gorfod rhoi'r gorau i sawl lleoliad bu tipyn o
oedi cyn dechrau adeiladu. Fodd bynnag ym 1886 llwyddodd y
Parch. Moses Lewis, ficer Llanwynno ar y pryd, i gael Eglwys
Sant Paul wedi'i chodi a'i chysegru yn y Porth. Yn ddiweddarach,
ym 1887, cafodd yr anawsterau ynglyn â lleoliad posibl
eglwys y Cymer eu datrys ac ar ddarn o dir rhoddedig ar Ystâd
y Fedw codwyd Eglwys Sant Ioan a'i chysegru yn 1889. Ym 1894
cafodd plwyf y Cymer a'r Porth ei sefydlu gyda'r Parch William
Thomas yn beriglor cyntaf arni.
Thomas and Evans
Mae'n amhosibl meddwl am y Porth heb feddwl
ar yr un pryd am Thomas and Evans a'r Welsh
Hill Works , pop Corona wedi hynny. William Evans,
dyngarwr o wr busnes oedd yn bennaf y tu ôl i sefydlu'r
fenter. Ganwyd ef yn Abergwaun ym 1864, yn un o 14 o blant.
Wedi llwyddo i gwblhau ei brentisiaeth fel groser yn Hwlffordd,
gweithiodd fel siopwr iau ym musnes groser yr Henadur William
Thomas. Yn 19 oed, ym 1883, daeth yn rheolwr siop Peglar
yn y Porth, ac ymhen dwy flynedd, gyda chymorth yr Henadur
Thomas, agorodd ei siop nwyddau ei hun yn Hannah Steet
y Porth.
Erbyn 1888, ac yntau'n ddim ond 24 oed, roedd William
Evans wed talu buddsoddiad yr Henadur Thomas yn ôl,
gydag elw, ac roedd am y tro cyntaf mewn busnes o'i eiddo'i
hun. Erbyn 1895 roedd wedi ehangu, yn berchen ar bedair
siop groser, ac wedi cymryd ei frawd Frank ato i'r busnes.
Ond nid cyn iddo ddechrau cynhyrchu hop bitters , ginger
beer a lemonêd yn y ffatri a alwodd yn Welsh
Hill Mineral Waters yn Y Porth y tyfodd ei ffortiwn
a'i enwogrwydd. Roedd y diodydd hyn mor boblogaidd fel
y gorfodwyd William Evans i agor ffatrïoedd ar draws
De Cymru i gwrdd â'r galw amdanynt. Yn gynnar yn
yr 1920au newidiwyd enw'r brand i Corona, a thyfodd y busnes
gymaint fel bod pop Corona'n cael ei anfon dros Brydain
benbaladr. Drwy Gymru a Lloegr agorwyd 87 o ffatrïoedd
a storfeydd i gyd, un ohonynt yn Willesden, Llundain ym
1934.
Uchod: Sgwâr y Porth gyda ffatri
Corona yn y cefndir
Wedi i William farw ym 1934, parhaodd ei frawd Frank i ehangu ac agor nifer
o farchnadoedd tramor. Wedi cyfnod ym mherchnogaeth Beechams a Britvic caeodd
y cwmni ddrysau'r ffatri yn y Porth am y tro olaf ym Medi 1987. Mae cymynroddion
William Evans i bobl Y Porth i'w gweld hyd heddiw, yn arbennig felly ym Mharc
Bronwydd ac yn y Llyfrgell Gyhoeddus.