Fel sawl pentref arall yng Nghwm Rhondda,
mae Tonpentre wedi'i enwi ar ôl fferm oedd yno cyn
dyddiau diwydiant. ‘Y Ton', sef hen enw Cymraeg am gae,
oedd enw'r fferm a'r clwstwr o fythynnod cyfagos. Dyna
enw'r pentref gwreiddiol, ond cafodd ei ailfedyddio'n Tonpentre
er mwyn gwahaniaethu rhwng Tonypandy. Yn wir, mae ‘Kelly's
Directory of South Wales' 1906 yn enwi'r lle fel ‘Ton'
neu ‘Ton Pentre' neu ‘Ton Ystrad'. Mae map degwm 1847 o'r
ardal yn dangos tir sy'n eiddo i ystad Crawshay Bailey
yn cael ei ffermio gan denantiaid fel Evan Jenkins fferm ‘Ton'
a Mary Bailey, fferm ‘Tir yr Eglwys'
Enwyd ‘Tir yr Eglwys' ar ôl yr unig adeilad arall
o bwys yn y cylch ar y pryd, sef eglwys y plwyf Sant Ioan.
Mae cofnodion yn dangos bod addoldy Cristnogol ar y safle
mor gynnar â'r chweched neu'r seithfed ganrif. Roedd
eglwys fawr arall yn ardal Ton hefyd, sef Dewi Sant, capel
anwes Sant Ioan. Fe'i hadeiladwyd ym 1881 gan Crawshay
Bailey am £6,000, gyda lle i 550 o addolwyr. Adeilad
amlwg arall yn Nhonpentre oedd ‘Ocean Collieries, Maindy
and Eastern Workmen's library' ar Heol yr Eglwys. Gweithwyr
pyllau ‘Maindy' ac ‘Eastern' adeiladodd y llyfrgell hon,
a agorodd ym 1895 ar gost o £4,000.
Golygfa gyffredinol o Donpentre tua 1900
oedd gan Donpentre ei gwrs golff ei hun am gyfnod hefyd,
a chwaraeodd darpar frenin Lloegr rownd o golff yno ym
1924. Mae rhestr o fusnesau Tonpentre yng Nghyfeirlyfr
Kelly 1901 yn dangos cymaint o fwrlwm oedd yn nhrefi bach
Cwm Rhondda ar droad yr ugeinfed ganrif. Ymhlith busnesau
Tonpentre mae 8 cigydd, 2 wniadwraig, 3 siop trin gwallt,
9 groser, 3 gwerthwr llysiau, 10 perchennog siop, 6 teiliwr,
4 crydd, 4 tafarn, perchennog cab, gof, 3 adeiladwr a chontractwr,
certiwr, ffermwr, siop papur newydd, 2 toddwr haearn a
phres, fferyllydd a'r ‘Ton
Industrial Co-Operative Society'.
Glowyr Tonpentre tua 1890
Yn wahanol i heddiw gydag oes y ceir a
thrafnidiaeth gyhoeddus yn hybu twf yr archfarchnadoedd
mawr ar gyrion trefi, ers talwm roedd pob tref fach yn
gorfod cynnig holl hanfodion bywyd bob dydd – gan greu
canol trefi bywiog a ffyniannus.
Arloeswr mawr y diwydiant glo yng Nghwm Rhondda, a datblygiad
Tonpentre ei hun, oedd David Davies, Llandinam. Llwyddodd
ef a'i bartneriaid i brydlesu 8,000 o erwau yng Nghwm-parc
a Maendy yn Nhonpentre ar ddiwedd y 1860au. Darganfuwyd cyflenwad
cyfoethog o lo hyd at 200 llath islaw'r ddaear yng nglofa
Maendy. Yn wahanol i rai perchnogion glo na ymdrechodd fawr
ddim i sicrhau cartrefi i'w gweithwyr, cafodd David Davies
ei ganmol am godi bythynnod i'w weithwyr yn Nhonpentre.
Clwb Golff Tonpentre
Ar ddarn o dir mynydd uwchben Tonpentre, sef ‘Waun
Ton Pentre' lle'r oedd cenedlaethau o blant wedi chwarae
pêl-droed, aeth criw o lowyr lleol ati i sefydlu
maes golff syml iawn ar ddechrau'r 1920au. Ar ôl
cael gafael ar ffyn golff ail-law, neilltuwyd ychydig erwau
o dir mynydd i chwarae'r gamp. Yn y flwyddyn gyntaf, y
cwbl oedd y maes oedd pedwar twll a dorrwyd gyda chyllell
boced ym mhob cornel o'r llain heb laslawr na thïau.
Cafodd ‘Ocean Area Recreation Union' ei sefydlu'r adeg
hon, ac yn sgil trafodaethau llwyddiannus gyda'r Ocean
Coal Company ac Ystad Crawshay Bailey, ehangwyd y cwrs
i un 50 erw a sicrhawyd hawliau prydles uniongyrchol i'r
aelodau. Cynhaliodd y clwb ei gyfarfod blynyddol cyntaf
yn ystafell groeso gweinidog lleol. Rhoddodd glowyr lleol
help llaw, gan gynnwys llosgi'r hen wair garw i wneud lle
i'r maes newydd, estynedig. Gyda chymorth ariannol o gronfeydd
Lles y Glowyr, a thanysgrifiadau'r glowyr eu hunain, cyflogwyd
tirmon i ymgymryd â'r gwaith o wella'r laslawr a'r
tïoedd ar gyfer y cwrs golff naw twll. Cynyddodd yr
aelodau, ffynnodd y clwb, ac addaswyd hen sgubor yn bafiliwn
i'r chwaraewyr.
Cafwyd diwrnod i'r brenin – yn llythrennol! – ym mis Mai 1924,
pan gytunodd Dug Caerefrog (Brenin Siôr VI yn ddiweddarach)
i chwarae gêm o golff mewn criw o bedwar yn erbyn Mr.
Frank Hodges AS. Ar 17 Mai, daeth tyrfa fawr i wylio'r darpar
Frenin yn chwarae golff ar ddarn o dir a fu'n ddim ond mynydd-dir
moel tan yn ddiweddar. Colli fu hanes y Dug yn y diwedd. Bu'r
clwb yn llwyddiannus am nifer o flynyddoedd wedyn, ond yn ôl
yr hanesydd lleol Arthur Hazzard ym 1960, roedd y maes golff
yn segur ers sawl blwyddyn ac wedi'i droi'n ôl yn dir
amaeth.
Dde: Dug Efrog (a ddaeth yn Frenin Siôr VI yn ddiweddarach),
yn chwarae golff yn Nhonpentre, 17 Mai 1924
Hanes Plwyf Dewi Sant, Tonpentre
Diolch i lyfr a ysgrifennwyd gan Muriel Evans ym 1959, mae gennym dipyn o hanes
plwyf ac eglwys Dewi Sant. Mae'n trafod perigloriaeth, neu gyfnod mewn swydd
y Parchedig William Lewis a anogodd adeiladu eglwysi Dewi Sant a Sant Marc.
Cyrhaeddodd y Parchedig Lewis Gwm Rhondda ym 1869 pan roedd yn 33 oed, ac arhosodd
yno tan ei farwolaeth ym 1922. Roedd ganddo dasg anodd iawn o'i flaen pan ddaeth
yn gyfrifol am blwyf Ystradyfodwg. Y pryd hwnnw, roedd y plwyf yn ymestyn o'r
Rhugos yn y gogledd i Ffrwd Amos ym mhentref Dinas yn y de-orllewin ac i'r Porth
yn y de-ddwyrain. Roedd hefyd yn cwmpasu'r holl ardaloedd ar lan ochr dde'r
afon Rhondda Fach yn ogystal â chymoedd bach Cwm-parc a Chlydach cyn belled â'r
Gilfach-goch yn y gorllewin.
Dim ond pedwar offeiriad, dwy ystafell genhadol a dwy
eglwys oedd yn gwasanaethu poblogaeth gynyddol y plwyf.
Y ddwy eglwys oedd hen eglwysi'r plwyf Ioan Fedyddiwr yn
Nhonpentre ac Eglwys y Forwyn Fair yn Nhreherbert, a adeiladwyd
gan deulu'r Bute ym 1868. Roedd yr ystafelloedd cenhadol
yn ysgol Treorci (eglwys Sant Mathew yn ddiweddarach),
ac yn ysgol Pentre .
Felly, aeth y Parchedig Lewis ati i adeiladu eglwysi yn lle
bynnag roedd y boblogaeth yn cynyddu. Yr eglwys gyntaf a
godwyd oedd adeilad haearn yng Nglynrhedynog, a gostiodd £620
ym 1874, yna Ystafell Genhadol San Steffan Ystradyfodwg ym
1876, ac Eglwys Sant Andrew, Llwynypia ym 1878. Yna, canolbwyntiodd
ar Donpentre a'r Gelli, lle'r oedd y boblogaeth yn cynyddu
oherwydd yr holl gyfleoedd gwaith yng nglofeydd Maendy a
Bwllfa. Gan fod hen eglwys y plwyf Tonpentre yn fach ac yn
dechrau dirywio, ac yn dioddef llifogydd o afon gyfagos,
penderfynwyd bod angen eglwys newydd.
Trafododd y Parchedig Lewis ei anghenion
gyda Mr. Crawshay Bailey, prif berchennog tir yr ardal
a oedd yn enwog am helpu i godi eglwysi newydd. Cytunodd
Mr. Bailey i godi eglwys newydd ar gyfer trigolion Tonpentre
a'r cylch, yn ogystal â neilltuo tair erw a hanner
o dir ar gyfer yr eglwys a'r ficerdy. Erbyn mis Ebrill
1879, cytunwyd ar safle uwchben y pentref a phenodwyd y
pensaer Mr. I.B. Fowler o Aberhonddu i wneud y cynlluniau.
Dewiswyd y meistri Shepherd o Gaerdydd i adeiladu'r eglwys
newydd am gontract gwerth £4,000 - er y byddai'r
pris yn debycach i £6,000 neu £7,000 ar ôl
cynnwys cost y tir, ffensio ac ati.
Gosododd Mr Crawshay Bailey y garreg sylfaen ddydd Iau 17
Mehefin 1880, er bod y gwaith adeiladu wedi hen ddechrau
erbyn hynny. Aeth Mr. Bailey ati i logi trên arbennig
i'w gludo ef a'i deulu ai gyfeillion i orsaf Ystradyfodwg
ar gyfer y seremoni, a chroesawyd ef gan bobl y fro. Roedd
y llwybr o'r orsaf drenau i safle'r eglwys yn frith o faneri,
rhubanau a bwâu o flodau a dail bytholwyrdd. Am un
o'r gloch y prynhawn, cychwynnodd gorymdaith i safle'r eglwys
o swyddfeydd Crawshay Bailey yn Nhonpentre. Roedd yn cynnwys
côr o 200, a nifer fawr o offeiriaid gan gynnwys Esgob
Llandaf, Mr a Mrs. Crawshay Bailey a llu o aelodau'r teulu
a gwesteion eraill fel boneddigion Sir Fynwy a Morgannwg.
Daeth tua 3,000 o bobl i weld y seremoni ei hun, ac i weld
Mr Crawshay Bailey yn cyflwyno gweithredoedd eiddo'r tiroedd
a'r adeiladau i'r Archddiacon. Ar ôl hyn, gosododd
Mrs. Bailey y garreg goffa mewn gwagle, ac oddi tani, rhoddwyd
potel fawr yn cynnwys papurau newydd y dydd a nifer o ddarnau
arian cyfredol.
Agorwyd yr eglwys ar 27 Hydref 1881, a sicrhawyd trwydded
i'w defnyddio fel adeilad i addoli, ond ni chafodd ei chysegru
bryd hynny. Cynhaliwyd y Cymun Bendigaid am 8 o'r gloch
y bore, gwasanaeth y bore am hanner dydd gydag Archddiacon
Llandaf yn pregethu, a gwasanaeth yr hwyr am 7 dan ofal
Ficer Llandaf. Ym 1902, cyflwynodd merched Crawshay Bailey
blac pres i gofio am haelioni eu tad i'r eglwys.
Cafodd yr eglwys fwy na'i siâr o broblemau. Ychydig
wythnosau ar ôl ei hagor, cafodd dwy groes eu chwythu
i ffwrdd o'r talcenni, ac erbyn 1900, roedd yr adeilad
wedi dadfeilio'n ddrwg. Dyma adroddiad ar gyflwr yr eglwys
ar y pryd; ‘The building throughout requires repair;
the roof is not watertight and consequently the walls are
in a very bad state indeed, while the windows, the floor
and the aisles of the building are also much worn. In addition
to this the lighting and heating arrangements sadly require
renovating. The tower also requires immediate attention.' Gwariwyd £600
ar drwsio'r adeilad, cyn ailagor yr eglwys ym 1901. O 26
Mawrth 1920 ymlaen, sefydlwyd plwyf ar wahân ar gyfer
Eglwys Dewi Sant, Tonpentre.
Cafodd yr eglwys ei dymchwel yn yr 1980au a chodwyd fflatiau
llety diogel i'r henoed yno o'r enw Ty Ddewi.
Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr, Tonpentre
Agorwyd Sefydliad y Gweithwyr yn Church Road, wrth ochr Swyddfa Ystad Crawshay
Bailey ym mis Medi 1895. Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad swyddogol gan Mr Williams
Jenkins Y.H. a chafwyd nifer o areithiau a chaneuon. Roedd llawer o'r siaradwyr
yn canmol dymuniad y gweithwyr i addysgu eu hunain yn eu hamser sbâr yn
lle mynd i dafarnau'r cylch. Mae adroddiad papur newydd y Rhondda Chronicle
ar achlysur agor y 'Maindy and Eastern Workmen's Institute' (fel yr oedd yn
cael ei alw ar y pryd ar ôl i weithwyr y ddwy lofa dalu amdano), yn rhoi
cipolwg inni o sefydlu'r sefydliad hwn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae'n disgrifio sut yr oedd gweithwyr y cylch yn talu am addysg eu plant trwy
system ‘puntdal' lle tynnwyd ceiniog o bob punt o'u henillion (cyn dyddiau'r
Ddeddf Addysg). Ar ôl cyflwyno addysg am ddim, penderfynodd gweithwyr
glofeydd Maendy ac Eastern barhau gyda'r system puntdal er mwyn helpu i ariannu'r
gwaith o godi sefydliad y gweithwyr. Yn ôl yr adroddiad, prynwyd safle
yn cynnwys dwy siop a nifer o fythynnod am £1,200 a chwalwyd yr adeiladau
er mwyn gwneud lle i'r sefydliad newydd. Abel Richards gynlluniodd yr adeilad
newydd, ac Alban Richards wnaeth y gwaith adeiladu. Roedd y neuadd newydd yn
cynnwys ystafell darllen papurau newydd, ystafell luniaeth ac ystafell y gofalwr
ar y llawr isaf, llyfrgell ac ystafell gyfarfod ar y llawr cyntaf, a dwy ystafell
wely a storfeydd yn yr atig.
Gyda llwyddiant y sefydliad, penderfynwyd codi estyniad
i'r adeilad gwreiddiol, ac agorwyd neuadd y gweithwyr drws
nesaf ym 1904. Perfformiwyd y seremoni agoriadol gan Mrs.
Jenkins o Ystradfechan, a chyflwynwyd allwedd y neuadd
iddi gan ferch y pensaer Jacob Rees. Erbyn 1908, roedd
yr ymddiriedolwyr wedi dechrau rhentu'r neuadd i gwmni
preifat ddangos ‘animated pictures' neu'r ffilmiau mud
cynnar. Buan y sylweddolodd pwyllgor ac ymddiriedolwyr
y neuadd bod modd gwneud elw o'r fenter hon a'i bod hi'n
bwysig bod aelodau'r Sefydliad ar eu hennill yn sgil hynny.
Felly, aethant ati i ddangos eu ffilmiau mud eu hunain
a defnyddio'r holl elw i sefydlu cronfa ariannol i helpu
gweithwyr sâl ac anabl.
Uchod: Yr ystafelloedd darllen
Cafodd y sinema ei haddasu ym 1931 trwy osod peiriant ‘talkie'
i ddangos ffilmiau llafar, a thorrwyd tir newydd yn y Neuadd
trwy ddangos ffilmiau ‘Cinemascope' a ffilmiau â sain
stereoffonig. Dirywiodd y Neuadd a'r Sefydliad yn y 1940au
yn sgil cau'r pyllau lleol a'r gostyngiad yng nghyfraniad
y glowyr. Newidiodd ei henw i ‘Ton Pentre Workmen's Hall
and Institute' a pharhaodd i ddangos ffilmiau tan 1971
pan drodd yn neuadd fingo. Agorodd hon ym 1989, ac roedd
y Neuadd yn wag tan 1991 pan ail-agorodd fel sinema'r ‘Phoenix'.