Yn ei waith ‘The Rhondda Valleys', mae E. D. Lewis
yn crynhoi hanes pandy neu felin bannu a roddodd ei enw
i dref Tonypandy. Dyma'r disgrifiad ohono, ‘The woollen
manufactri and the pandy or fulling mill were situated
on Nant Clydach, near the confluence of the Clydach brook
and the River Rhondda Fawr at Tonypandy' . Mae'n mynd
ymlaen i adrodd hanes sefydlu'r pandy gan Harri David ym
1738, cyn i David Martin gymryd yr awenau yn ail hanner
y ddeunawfed ganrif.
Prif orchwyl y pandy yn hanner cynta'r bedwaredd ganrif ar
bymtheg oedd cannu cynnyrch ffermydd yn ardal Tonypandy.
Dirywiodd gwaith y pandy ar ôl i gwmni Taff Vale Railway
gyrraedd Tonypandy gan ei gwneud hi'n haws i gludo tecstilau
rhatach o ogledd Lloegr yno. Caeodd y pandy maes o law, ac
ym 1914 bu ymgais aflwyddiannus i symud yr olwyn a'r ffrâm
wehyddu i'r Amgueddfa Genedlaethol.
Mae map degwm 1847 yn dangos nifer o fythynnod a siop
yn ogystal â'r ffermydd gwasgaredig arferol, sy'n
profi pwysigrwydd y pandy fel canolfan i'r ffermwyr lleol.
Agorwyd pyllau glo yr ardal, fel Nantgwyn ar y bryniau
uwchben Tonypandy ym 1892, a Gellifaelog a agorwyd gan
Walter Coffin ym 1845. Er hynny, datblygodd Tonypandy'n
lle pwysig fel canolfan fasnachol a diwylliannol ar gyfer
y pentrefi cyfagos.
Agorwyd llyfrgell gyhoeddus gyntaf Cwm Rhondda yn Nhonypandy,
uwchben siop ddodrefn yn Dunraven Street, ac roedd theatrau
fel yr Empire Theatre of Varieties a'r Theatre Royal yn ffynnu
yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed
ganrif. Hefyd, roedd neuadd enfawr y Methodist Central Hall
yn y dref yn adeilad sylweddol a thrawiadol am flynyddoedd.
Neuadd y Wesleaid oedd hi'n wreiddiol pan y'i hadeiladwyd
ym 1923 ar gost o £27,000, ac roedd yn cynnwys y brif
neuadd â lle i 1,000, ynghyd ag ystafelloedd a neuadd
lai â 500 o seddi.
Codwyd ysgol uwchradd y dref ym 1915 a
ddaeth yn ysgol ramadeg wedyn, ynghyd ag Eglwys Babyddol
ac ysgol elfennol, a phencadlys yr heddlu oedd yn cynnwys
tri sarjant a deg o gwnstabliaid ym 1926.
Roedd ffownten a chafn dwr ‘The Lady with the Lamp', fel
yr oedd yn cael ei hadnabod ar lafar gwlad, yn harddu sgwâr
Tonypandy am flynyddoedd. Codwyd y ffownten a'r cerflun ym
1909 gydag arian dros ben o gronfa cerflun coffa Archibald
Hood, peiriannydd enwog o'r Alban a pherchennog gwaith glo
lleol. Mae Tonypandy fwyaf enwog am Derfysgoedd 1910, pan
ddaeth heddlu Metropolitan Llundain a milwyr i Gwm Rhondda
oherwydd y gwrthdaro yn sgil anghydfod Glofa'r Cambrian.
Ar ddechrau'r ugeinfed ganrif, y Cambrian
Combine oedd un o rymoedd mawr y diwydiant glo yng Nghwm
Rhondda. Arweiniodd y gwrthdaro rhwng grym y perchnogion
glo (y cwmnïau glo cyfunol, neu'r Combine) a'r gweithwyr
(sef aelodau Cyfrinfa Cambrian, Ffederasiwn Glowyr De Cymru)
at yr anghydfod mwyaf chwerw yn hanes diwydiannol y De.
Penllanw hyn oedd digwyddiad a ddaeth yn enwog ymhlith
haneswyr fel ‘Terfysgoedd Tonypandy'.
Dechreuodd yr anghydfod ym mhwll glo Ely ym Mhenygraig, oedd
yn eiddo i'r Naval Colliery Company, ac roedd yn ymwneud â phenderfyniad
y rheolwyr i agor gwythïen newydd, y wythïen bum
troedfedd neu wythïen Bute. Cyn agor gwythïen newydd,
byddai rhan o'r wythïen yn cael ei chloddio am gyfnod
prawf i weld faint o gynnyrch oedd yno, a phris yn cael ei
bennu am bob tunnell i'r glowyr fyddai'n cloddio'r wythïen.
Yn ystod cyfnod prawf yn y wythïen hon ym 1909, roedd
y rheolwyr yn cyhuddo'r glowyr o weithio'n arafach na'r arfer
er mwyn codi pris fesul tunnell y wythïen pan fyddai'n
cael ei gweithio go iawn. Ymatebodd y glowyr drwy fynnu ei
bod hi'n anodd iawn cloddio drwy'r wythïen arbennig,
annormal, hon. Yn y diwedd, cynigiodd y rheolwyr 1s.9.d y
dunnell i lowyr y wythïen. Ond nid oedd hyn wrth fodd
y glowyr, gan ddweud na fyddent yn gallu cloddio digon o
lo i sicrhau digon o gyflog. Roedd y glowyr eisiau 2s 9d
y dunnell.
Nid oedd y naill ochr na'r llall am ildio, ac ar 1 Awst 1910, anfonodd perchnogion
y lofa hysbysiadau ‘cloi allan' - nid yn unig at yr 80 o ddynion oedd wedi'u
heffeithio gan helynt y wythïen, ond at bob un o'r 800 o weithwyr yn y
lofa. Dechreuodd hyn ar 1 Medi 1910. Ar 5 Medi, trodd gweithwyr eraill pyllau'r
Naval allan i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr pwll glo Ely, ac ar 7 Medi, pleidleisiodd
gweithwyr glofa'r Cambrian a'r Glamorgan i'w cefnogi wythnos yn ddiweddarach.
Ar yr un pryd, ceisiodd William Abraham AS (Mabon) eu hannog i beidio â gwneud
hyn, gan addo trefnu cynhadledd y meysydd glo i fynd i'r afael â'r anghydfod.
Dyma oedd argymhelliad Cyngor Gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru ar 16
Medi; ' to agree that the whole of the workmen employed at the Cambrian
Combine be given permission to tender their notices upon the 1st of October
next, to terminate their contracts and that a weekly levy be made upon all members
of the Federation to provide necessary financial support' . Cynhaliwyd
y gynhadledd yn Neuadd Cory y diwrnod canlynol, gyda thros 248 o swyddogion
yn cynrychioli 147,000 o ddynion, a phenderfynwyd cynnal pleidlais ar y mater – a
ddylid derbyn yr argymhellion hyn neu a ddylai holl aelodau'r Ffederasiwn fynd
ar streic i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr y
‘Democratic Club Distress Committee' 1910
Cambrian. Cyflwynodd holl lowyr y Cambrian
Combine eu bwriad i adael eu swyddi tra'r oedd ymdrechion
funud olaf i geisio atal streic. Sicrhaodd Mabon gynnig
uwch o 2s1.3c y dunnell, ond gwrthodwyd hyn gan Gyfrinfa'r
Cambrian. Ar yr un pryd, bu D.A Thomas, pennaeth y Combine,
mewn cyfarfod â Chymdeithas y Perchnogion Glo grymus yng
Nghaerdydd, lle addawodd y perchnogion ddigolledu perchnogion
y glofeydd oedd wedi'u heffeithio a pheidio byth â chyflogi
glowyr ar streic yn unrhyw ran arall o'r meysydd glo.
Felly, gyda'r frwydr ar fin dechrau a'r naill ochr a'r llall
yn styfnigo, dechreuodd y streic yn swyddogol ar 1 Tachwedd
1910. Aeth y perchnogion glo ati ar unwaith i drefnu gweithwyr
newydd o'r tu allan i'r meysydd glo, a gofyn i Brif Gwnstabl
Morgannwg, y Capten Lionel Arthur Lindsay, am fwy o heddlu
i'w hamddiffyn. Derbyniwyd y cais, a daeth heddlu o Abertawe,
Caerdydd a Bryste i gadw'r heddwch. O safbwynt y glowyr,
roedd Deddf Anghydfod Llafur 1906 yn rhoi hawl iddynt bicedu'n
heddychlon, ac mewn cyfarfod ar 7 Tachwedd, dywedodd y glowyr
eu bod am atal unrhyw swyddog o Mr Llewellyn i lawr rhag
mynd i mewn i iard y lofa. O ystyried y gymysgedd beryglus
o filoedd o streicwyr, y bygythiad o gludo glowyr o'r tu
allan, mwy o heddlu yn y gymuned, a'r chwerwedd oedd yno
eisoes yn sgil cau allan a'r streic, roedd helynt yn anorfod.
Yn wir, hydref 1910 oedd un o'r cyfnodau mwyaf tanllyd a
welodd y diwydiant glo hyd yn hyn - gyda streiciau eisoes
ar waith yn rhannau eraill o'r meysydd glo, fel Aberdâr,
ac erbyn mis Tachwedd roedd bron un o bob chwech o lowyr
y De ar streic.
Penderfynodd y glowyr y dylai pawb oedd ar streic wrthdystio
ger eu pyllau eu hunain am 5 o'r gloch y bore, 7 Tachwedd.
Yn fuan ar ôl 5 y bore, roedd Noah Rees, ysgrifennydd
Cyfrinfa'r Cambrian, W.H.Mainwaring a thrwmpedwr yn cerdded
hyd y strydoedd yn galw'r glowyr i weithredu. Dechreuodd
y streicwyr ymgynnull ger mynedfeydd y pyllau ac ym mhob
stryd a ffordd oedd yn arwain i'r pyllau, er mwyn atal
rhai rhag mynd i weithio y diwrnod hwnnw.
Chwith: Heddlu Bangor yng Nghwm Clydach 1910/11
Ymunodd gwragedd a phlant â'u gwyr
a'u tadau ar y llinell biced. Roedd ymgyrch y glowyr yn
llwyddiant, a llwyddwyd i atal y gwaith ym mhob un o byllau'r
Cambrian Combine heblaw am Lofa Glamorgan, Llwynypia. Roedd
y perchennog Leonard Llewellyn, wedi llwyddo i amddiffyn
y lofa honno i'r carn rhag y streicwyr. Yn ogystal â phicedu
i atal unrhyw un rhag mynd i'r glofeydd, ymwthiodd y glowyr
i lofa'r Cambrian er mwyn diffodd tanau'r boeleri a'r gwyntyllau
awyru, fel na allai neb weithio yno. Erbyn 10.30 y noson
honno roedd y streicwyr wedi amgylchynu'r unig lofa oedd
yn dal ar waith yn Llwynypia. Y tu mewn i'r lofa, roedd
Leonard Llewellyn a thua 60 o swyddogion a drafftsmyn yn
dal i gynnal peiriannau'r pwll ac atal dwr rhag cyrraedd
y pwll. Y si oedd bod Llewellyn wedi dod â thanwyr
i mewn o Gaerdydd i weithio yn lle'r streicwyr.
Yn ogystal â'r gweithwyr hyn, roedd Capten Lindsay
a thros gant o blismyn ar safle'r lofa - sy'n brawf o bwysigrwydd
Glofa Glamorgan i'r gweithwyr yn ogystal â'r perchnogion
glo, gyda generadur trydan a gorsaf bwmpio oedd yn cadw dwr
draw o'r pyllau. Dyma lle daeth y streicwyr benben â'r
heddlu am y tro cyntaf, a'r hyn a sbardunodd Derfysgoedd
Tonypandy maes o law. Parhaodd y dorf o fil i wrando'n astud
ar eu harweinydd Will John ar y cyfan. Ond dechreuodd canran
fechan o'r dorf a oedd yn sefyll ar lethr uwchben yr orsaf
bwer daflu cerrig at yr adeilad islaw a thynnu rhan o ffens
bren y lofa i lawr. Dechreuodd helynt difrifol wedyn, gyda'r
heddlu a'r streicwyr yn ymladd a'i gilydd cyn i'r heddlu â phastynau
hel y dorf o'r lofa ac yn ôl i gyfeiriad Tonypandy
toc ar ôl hanner nos. Rhwng 1 a 2 y bore ar Sgwâr
Tonypandy, defnyddiodd 50 o blismyn Caerdydd eu pastynau
i wasgaru'r dorf oedd wedi ymgynnull yno.
Dde: Sgwâr Tonypandy ar ôl terfysgoedd
1910
Erbyn un o'r gloch y bore, 8 Tachwedd, roedd Capten Lindsay
yn ofni'r gwaethaf ac yn rhagweld y gallai golli rheolaeth
ar y sefyllfa, ac anfonodd neges delegraff yn gofyn am
gymorth y fyddin. Atebodd barics Tidworth trwy ddweud y
byddai lluoedd o wyr meirch a throedfilwyr yn cyrraedd
Tonypandy am 9 o'r gloch y bore hwnnw. Pan fethodd y milwyr â chyrraedd
yno, anfonodd delegraff at Winston Churchill, yr Ysgrifennydd
Cartref ar y pryd:
'All the Cambrian collieries menaced last
night. The Llwynypia Colliery savagely attacked by large
crowds of strikers causing many casualties on both sides.
Am expecting two companies of infantry and 200 cavalry today.'
Unbeknownst to him however, Churchill on finding out about
the unapproved troop movements had already stopped the reinforcements
at Swindon, fearing some said a repeat of the incidents of
'Bloody Sunday, when in 1887 at Trafalgar Square troops with
fixed bayonets faced rioters. He sent a telegram to Lindsay
stating, 'infantry should not be used until all other methods
have failed'. Instead of the military he sent 70 mounted
and 200 other constables of the Metropolitan Police Force
as reinforcements to the authorities already in the area.
Cavalry were also offered, to be sent into the district as
a precautionary measure under the control of General MacReady.
Lindsay on hearing of the contingent of Metropolitan Police
being sent to his aid refused the use of the cavalry saying
the police reinforcements should be sufficient, as such the
cavalry were halted at Cardiff.
Yn ddiarwybod iddo ef, fodd bynnag,
roedd Churchill eisoes wedi rhwystro'r milwyr rhag mynd
gam ymhellach na Swindon, gan ofni sefyllfa debyg i honno
ar ‘Bloody Sunday' 1887 pan aeth milwyr â bidogau
benben â therfysgwyr yn Trafalagar Square. Anfonodd
delegram yn ôl at Lindsay gan ddweud , 'infantry
should not be used until all other methods have failed'. Yn
lle'r milwyr, felly, anfonodd 70 o blismyn ar geffylau
a 200 o gwnstabliaid heddlu Metropolitan Llundain i fod
yn gefn i'r heddluoedd eraill oedd yno eisoes. Cynigiwyd
anfon gwyr meirch dan arweiniad y Cadfridog MacReady i'r
ardal hefyd, rhag ofn. Ond gwrthododd Lindsay y cynnig
hwn ar ôl clywed bod heddlu Metropolitan Llundain
ar eu ffordd yno, gan ddweud y dylai hynny fod yn ddigon
i gadw'r heddwch, ac felly stopiwyd y gwyr meirch yng Nghaerdydd.
Ddydd Mawrth 8 Tachwedd, cafodd y gweithwyr ar streic
eu talu a'u diswyddo gan gwmnïau'r Cambrian Combine
cyn mynd ymlaen i gyfarfod mawr yng Nghae Athletaidd Tonypandy.
Siaradodd yr ynad cyflogedig lleol Lleufer Thomas â'r
dynion a darllen neges gan yr Ysgrifennydd Cartref oedd
yn nodi ei fwriad i ddal y milwyr yn ôl ac anfon
yr heddlu'n unig i gadw heddwch. Cafodd y neges gymodol
hon groeso gan y glowyr, gan ei fod yn addo trefnu cyfarfodydd
gyda'r Bwrdd Masnach i ddatrys yr anghydfod. Trefnodd y
glowyr orymdaith drefnus i Lofa Glamorgan unwaith eto,
a chyrraedd yno tua 4pm. Cyn pen awr, fodd bynnag, dechreuodd
yr hyn a ddisgrifiwyd fel ‘terfysgoedd difrifol'. Ceisiodd
plismyn ar gefn ceffylau wasgaru'r streicwyr a bu gwrthdaro
rhwng y streicwyr a'r heddlu am dros ddwy awr. O'r diwedd,
llwyddodd yr heddlu i rannu'r streicwyr yn grwpiau ar wahân,
ac anfonwyd rhai i gyfeiriad Llwynypia i fyny'r cwm a'r
lleill i lawr y cwm am Donypandy. Anafwyd cannoedd o heddlu
a therfysgwyr yn y sgarmes. A dyma ddechrau Terfysgoedd
Tonypandy. Dechreuodd y streicwyr a gafodd eu hel i gyfeiriad
Tonypandy dorri ffenestri siopau'r dref, a nifer o dai
hefyd. Yn ôl adroddiadau, dim ond ffenestri dwy siop
oedd heb eu torri - un siop gemwaith oedd â chaeadau
rholer a siop fferyllydd o eiddo cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol.
Roedd pum cwnstabl ar ddyletswydd yn Nhonypandy ar y pryd,
a rhyngddyn nhw a dwsin o heddlu wrth gefn o'r Lofa, llwyddwyd
i glirio'r strydoedd yn y diwedd. Oherwydd difrifoldeb y
sefyllfa, anfonodd y Cadfridog MacReady delegram at Churchill
gyda'r geiriau canlynol:
'As the situation appears to have become more serious
you should if the Chief Constable or Local Authority desire
it move all the cavalry into the district without delay'.
Ar ôl trafod gyda Lindsay a MacReady, cytunodd Churchill
i anfon 200 o heddlu ychwanegol y Metropolitan a fyddai'n
gadael Llundain am 3 o'r gloch y bore, 9 Tachwedd. Ond
roedd yr helynt ar ben erbyn iddyn nhw gyrraedd, gan fod
150 o heddlu eisoes wedi cyrraedd Sgwâr Tonypandy
am 11 o'r gloch nos Iau, 8 Tachwedd. Er nad oes cofnodion
dilys o'r rhai a anafwyd (gwrthododd llawer o lowyr gael
triniaeth am eu bod yn ofni cael eu harestio) cafodd bron
i 80 o blismyn a thros 500 o bobl eraill niwed. Bu farw
un ohonynt, Samuel Rhys, o'i anafiadau'n ddiweddarach.
Mae hanes Terfysgoedd Tonypandy wedi bod yn un dadleuol
dros ben, gyda llawer o gefnogwyr y glowyr yn beio'r wasg
(a oedd yn cael eu hystyried o blaid y perchnogion) am
orliwio'r sefyllfa a nifer y protestwyr. Yn wir, mewn dadl
seneddol ar ôl y terfysgoedd, fe honnodd Keir Hardy
mai prin gant o ddynion oedd yn gyfrifol am dorri ffenestri
o blith y miloedd o streicwyr.
Dywedodd hefyd y byddai'r holl helynt wedi'i ddatrys ynghynt
pe na bai'r holl heddlu'n amddiffyn eiddo'r perchnogion glo.
Yn sgil y terfysgoedd, dechreuodd pobl busnes gau eu siopau'n
gynt na'r arfer rhag ofn y byddai rhagor o helynt fin nos,
a chyrhaeddodd lluoedd yr 18th Hussars i warchod
Glofa Llwynypia. Er gwaetha'r holl niferoedd oedd yn gysylltiedig â'r
terfysgoedd, dim ond 13 o lowyr o'r Gilfach-goch a gafodd
eu herlyn am ddigwyddiadau'r 7fed ac 8fed o Dachwedd 1910.
Fe'u cyhuddwyd o fygwth swyddog y lofa, a chynhaliwyd yr
achos llys ym Mhontypridd ar 14 Rhagfyr. Gan ofni rhagor
o helynt, amgylchynwyd y dref gan 400 o blismyn, dau farchoglu
a sgwadron yr 18th Hussars. Yn ystod yr achos a barodd chwe
diwrnod, gorymdeithiodd 10,000 o ddynion, gan gynnwys bandiau
drymiau a phibau, o'r cymoedd i Bontypridd i ddangos eu cefnogaeth
i'w cydweithwyr yn y doc. Gan eu bod wedi'u gwahardd o Bontypridd,
cynhaliwyd cyfarfod cyffredinol ger y Garreg Siglo ar y Comin.
Dim ond 600 o ddynion orymdeithiodd i'r dref i glywed y ddedfryd
ar y diwrnod olaf, gan fod llawer yn ofni cael eu dal yng
nghanol terfysg neu gythrwfl gyda'r awdurdodau. Draw yn y
llys, cafodd rhai o'r dynion eu cludo ar drên arbennig
i dreulio rhwng pythefnos a chwe wythnos yng ngharchar Caerdydd,
a chafodd eraill ddirwy neu eu rhyddhau.
Er mai dyma ddiwedd
Terfysgoedd Tonypandy, bu rhywfaint o helynt yma ac acw yn
ystod gweddill y streic. Cafwyd adroddiad am 'Blaenclydach
Terror' yn y Rhondda Leader ym mis Ebrill 1911, lle'r oedd
nifer o streicwyr yn bygwth y ‘bradwyr',
yn taflu cerrig at yr heddlu, yn dwyn o siopau a llosgi lladd-dy lleol. Daeth
y streic i ben ym mis Awst 1911, gyda'r gweithwyr yn gorfod derbyn telerau o
2s 3c a drafodwyd gan William Abraham AS cyn dechrau'r streic. Dychwelodd y
streicwyr i'w gwaith y dydd Llun cyntaf ym mis Medi. Dim ond crynodeb o'r helyntion
a geir uchod – i gael yr hanes manwl, dylech ddarllen 'The Tonypandy riots'
gan G.Evans a D.Maddox; a hefyd 'South Wales Miners, a history of the South
Wales Miners Federation 1898-1914' gan R.Page Arnot.
NEUADD GANOLOG Y METHODISTIAID, TONYPANDY
Neuadd Ganolog y Methodistiaid oedd y prif
adeilad mwyaf amlwg yn rhan Tonypandy am dros 60 mlynedd,
o'i hagoriad ym 1923 tan iddi gael ei dymchwel ym 1985.
Nod y neuaddau hyn oedd bod yn ganolfannau cymdeithasol
ac addysgol i'w cymunedau yn ogystal â diwallu anghenion
ysbrydol y boblogaeth.
Hon oedd neuadd brydferthaf Cymru yn ôl y Glamorgan
Free Press a'r Rhondda Leader pan agorwyd y neuadd newydd
ddydd Gwener 29 Mehefin 1923. Mae'r erthyglau papur newydd
yn rhoi ychydig o hanes y neuadd inni. Fe'i cynlluniwyd
gan y pensaer Mr. Arthur Brocklehurst, a'i hadeiladu gan
y Laing a'i Feibion, ar gost o £30,000, a chafodd
ei hagor yn swyddogol gan y Fonesig Nicholas o'r Garth,
Trealaw, yng nghwmni ei g w r, Syr Walter Nicholas. Daeth
cymaint o bobl i'r agoriad swyddogol fel y bu rhaid stopio'r
traffig ar y ffyrdd am y tro.
Ar ôl i'r Parchedig J.E. Wakerley, Llywydd y Wesleaid
arwain y gwasanaeth cysegru, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus
ym mhrif neuadd yr adeilad dan law Mr. Joseph Rank o Hull,
a gyfrannodd £10,000 i gronfa'r adeilad.
Roedd yr achos Methodistiaid wedi hen ennill ei blwyf
yn yr ardal cyn agor y Neuadd Ganolog. Dechreuodd yr achos
yn y ‘Siop Fawr' ym mhentref Dinas cyn symud i Ben-y-graig,
lle cynhaliwyd gwasanaethau a'r Ysgol Sul yn un o ystafelloedd
gwesty'r White Hart. Yna, prynwyd darn o dir fferm Gellifaelog,
Tonypandy ym 1866 er mwyn adeiladu'r capel cyntaf. Ond
gyda dim ond lle i 80 o addolwyr, roedd y capel yn rhy
fach o lawer i anghenion y Methodistiaid lleol. Felly,
codwyd capel mwy o faint ar y safle ym 1873, ychwanegwyd
estyniad ym 1899 a chodwyd oriel newydd ym 1910. Cafodd
y capel hwn ei ddymchwel ym 1922 i wneud lle i'r Neuadd
Ganolog newydd, a gymrodd flwyddyn i'w hadeiladu. Wrth
i'r gwaith adeiladu fynd rhagddo, cynhaliodd yr addolwyr
wasanaethau yn Judges Hall a festrïoedd Capel Seion
a Chapel Ebenezer, a chynhaliwyd cyfarfodydd gweddi yn
ystafell ffrynt ty'r gofalwr hefyd.
Neuadd Ganolog y Wesleaid oedd enw gwreiddiol yr adeilad
newydd sbon, gyda neuadd fawr â lle i 1,000 o bobl,
llwyfan y côr a allai ddal 100 o gantorion, a neuadd
arall, lai, â lle i 400 o bobl. Roedd yno ‘adran
gynradd' hefyd â lle i 150 o blant, a phump neu chwe
ystafell ddosbarth, ynghyd ag ystafell gemau gyda dau fwrdd
biliards, llyfrgell, a lle i ddarllen ac ysgrifennu.
Fel y nodwyd mewn llyfryn i ddathlu pen-blwydd y Neuadd
yn 25 oed, roedd y Neuadd, dan arweiniad y Parchedig R.J.Barker
a'r Parchedig C.E.Gwyther wedyn, megis goleuni yn y tywyllwch
yn ystod blynyddoedd llwm y dirwasgiad yn y cymoedd. Bu'n
achubiaeth i'r di-waith, gyda gweithdai gwaith coed a chynhyrchu
esgidiau, ystafelloedd darllen, gwasg argraffu a thafarn
laeth. Cynhyrchwyd miloedd o deganau i'w dosbarthu i blant
lleol, dosbarthwyd dillad a gwerthwyd ‘prydau dwy geiniog'
yn y ffreutur. Roedd y Neuadd hefyd yn lle pwysig fel canolfan
seibiant i faciwîs yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Fel llawer o gapeli'r cymoedd, dirywio fu hanes y Neuadd
yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a chyda'r gynulleidfa'n
prinhau, fe'i gorfodwyd i gau ym 1980. Yn ôl y Rhondda
Leader, ddydd Gwener 6 Mehefin 1980, canwyd yr emyn olaf
yn y Neuadd Ganolog a chaeodd un arall o gapeli Cwm Rhondda . Yn ôl
llefarydd y Neuadd, roedd yn rhan hynod ddylanwadol o'r gymuned
hyd at ddeng mlynedd yn ôl, cyn i ddirywiad y diwydiant
glo a'r diffyg diddordeb mewn crefydd arwain at lai o gynulleidfa.
Ymunodd 80 o ffyddloniaid y Neuadd Fawr â chapeli Methodistaidd
eraill y cylch, a daeth Llefarydd Ty'r Cyffredin, Mr. George
Thomas (Iarll Tonypandy yn ddiweddarach) i'r gwasanaeth olaf.
Ar ôl sefyll yn wag a chael ei fandaleiddio am flynyddoedd,
cafodd y Neuadd Fawr ei dymchwel ym 1985 er mwyn gwneud lle
i archfarchnad newydd.