Yn ôl pob sôn, Alaw, yr enw barddol ar dirfeddiannwr lleol David
Williams oedd ffynhonnell yr enw Trealaw. Mae manylion perchnogion a thenantiaid
Trealaw ar fapiau degwm 1847 yn dangos bod pobl wedi dechrau cloddio am lo yno.
Er mai ysgutorion ystâd Anne Sanderson sy'n berchen ar ffermydd fel Brithweunydd
Isaf a Brithweunydd Uchaf, Walter Coffin sydd wedi'i restru fel y tenant - sef
arloeswr cyntaf gwaith glo yn rhan isaf Cwm Rhondda. Yn wir, roedd Coffin wedi
prydlesu'r tir yn Nhrealaw ers 1811, er na agorodd ei lefel lo gyntaf yn yr
ardal hon tan 1839, ar ôl llwyddo ym mhentref Dinas. Gwerthwyd pyllau
glo Trealaw maes o law i Daniel Thomas, a agorodd lefel lo Brithweunydd ym 1862
cyn cau ym 1879.
Gyda phoblogaeth Cwm Rhondda'n prysur gynyddu yn ail
hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sylweddolodd y cyngor
dosbarth lleol nad oedd y fynwent bresennol yn ddigon mawr.
Felly, prynwyd darn o dir yn Llethr-ddu, ar ochr y mynydd
yn Nhrealaw, ar gyfer mynwent gyhoeddus a chapel. Cynhaliwyd
yr angladd cyntaf ym mynwent Llethr-ddu ym 1881, a chwblhawyd
y capel ym 1883.
Chwith: Mynwent Eglwys Trealaw
Digwyddiad pwysig yn hanes Trealaw oedd sefydlu canolfan
addysg Maes-yr-haf yn ystod y 1920au. Emma a William Noble
aeth ati'n ddiflino i'w sefydlu a bu'n hynod bwysig yn
ystod blynyddoedd y dirwasgiad yng Nghwm Rhondda. Yn ogystal â rhaglen
o ddosbarthiadau a darlithoedd, roedd hefyd yn rhoi cymorth
ymarferol i leddfu problemau trigolion Trealaw a Chwm Rhondda
pan oedd y dirwasgiad ar ei waethaf. Sefydlwyd Clybiau'r
Dynion Di-waith yma er mwyn rhoi cyfle iddynt addysgu eu
hunain a cheisio dod o hyd i swydd arall. Cyn pen dim,
sefydlodd clybiau tebyg ledled Prydain a hyd yn oed yn
America yn ystod y Dirwasgiad mawr.
Uchod: Royal Hotel, Trealaw
Roedd adeilad trawiadol o'r enw ‘Judge's Hall' yn y
pentref hefyd. Ei enw llawn oedd ‘The Judge Williams Memorial
Hall' ac agorwyd yr adeilad yn swyddogol ym mis Gorffennaf
1909 gan y Dywysoges Louise a Dug Argyll. Rhodd i bobl
y fro gan yr Is-gyrnol Syr Rhys Williams oedd yr adeilad,
oedd yn cynnwys neuadd gyngerdd â lle i 1,500 o bobl,
ynghyd â llyfrgell ac ystafell biliards.
Chwith: Pont Trealaw
MAES-YR-HAF TREALAW
Canolfan gymuned i drigolion Trealaw yw Maes-yr-haf heddiw, ac mae'n gartref
i gylch meithrin, clwb camera, cyfarfodydd Clwb y Rotari a chyfarfodydd Cyfeillion
y Crynwyr ymhlith eraill. Arbrawf cymdeithasol unigryw yng nghanol cyfnod cythryblus
y 1920au oedd y ganolfan wreiddiol, arbrawf a ledodd i rannau eraill o Brydain
a hyd yn oed America ar y pryd. Mae llyfryn a ysgrifennwyd gan William Hazelton
i ddathlu pen-blwydd Maes-yr-haf yn chwarter canrif oed ym 1952 yn crynhoi hanes
y ganolfan bwysig hon.
Gwreiddiau
Roedd Prydain 1926 yng nghanol argyfwng diwydiannol,
a bu galw am Streic Gyffredinol o blaid y glowyr ym mis
Mai. Gohiriwyd y streic naw diwrnod yn ddiweddarach, ond
parhaodd miloedd o lowyr i streicio yn erbyn cyflogau is.
Trafodwyd y sefyllfa yng nghyfarfod Cymdeithas y Cyfeillion
(Crynwyr) ym Manceinion y flwyddyn honno, a phenderfynwyd
anfon cynrychiolwyr i'r ardaloedd glo. Gorchwyl y cynrychiolwyr
oedd casglu gwybodaeth o lygad y ffynnon am gyflwr yr ardaloedd
hyn, a nodi anghenion y bobl mewn argyfwng.
Roedd Emma Noble, un o aelodau'r Gymdeithas, yn y cyfarfod,
a phenderfynodd fynd i Gwm Rhondda. Cyrhaeddodd Donypandy
ym 1926, ac ar ôl cael llety mewn ty glöwr yn
y dref, penderfynodd aros am 3 wythnos i asesu'r sefyllfa
yn yr ardal. Daeth yn gyfeillgar â gwragedd y glowyr,
gan drafod y problemau o fyw mewn ardal ag un diwydiant
mawr lle'r oedd bron pawb yn ddi-waith. Ar ôl treulio
wythnos yn yr ardal, roedd hi'n argyhoeddedig fod angen
cymorth materol a chydymdeimlad cariadus ar y bobl hyn.
Egwyddor sylfaenol Emma a'r gwirfoddolwyr eraill a ddaeth
i Gwm Rhondda oedd mai ‘hunangymorth yw'r cymorth gorau'.
Sylweddolodd Emma fod angen dillad ar fenywod, plant a phobl
ifanc yr ardal, ac felly sefydlwyd Clybiau Gwnïo i Fenywod.
Roedd y grwpiau hyn yn trwsio, darnio ac ail-wnïo sypiau
mawr o ddillad wedi'u hanfon gan Bencadlys Cymdeithas y Cyfeillion
yn Llundain a chan gymwynaswyr ledled Prydain. Yn sgil hyn,
ymunodd y glowyr di-waith â ‘chlybiau trwsio esgidiau',
gyda llawer ohonynt yn gysylltiedig ag ysgolion lleol. Cyflenwyd
lledr ac offer drwy Gymdeithas y Cyfeillion a'r Bwrdd Gwarcheidwaid
lleol, ac roedd glowyr di-waith yn treulio oriau maith yn
trwsio esgidiau plant - tua 82,000 o barau i gyd.
Wedi'r streic
Daeth streic y glowyr i ben ar ddiwedd 1926, a dychwelodd y glowyr i'r gwaith,
wedi'u trechu'n llwyr. Er hynny, gadawyd miloedd o lowyr ar y clwt. Ym mis Ionawr
1927, aeth Emma Noble i gyfarfod yn Rhydychen gan fynnu bod angen parhau i helpu'r
ardaloedd glofaol tlawd. Yn y cyfarfod hwn, cymerwyd y camau cyntaf tuag at
gynnal a datblygu gwaith ysbrydol ac addysgol law yn llaw â'r gwaith cymdeithasol
ymarferol yng Nghwm Rhondda. Ffurfiwyd pwyllgor, a chytunodd Emma a'i gwr William
i ddychwelyd i Gwm Rhondda am ddwy flynedd, gan brynu Maes-yr-haf ar gyfer eu
gwaith. Y syniad oedd ei droi'n ganolfan addysg i oedolion a chreu cyfleoedd
i drafod, addysgu ac astudio. Roedd yn cael ei ystyried yn ffordd arloesol o
ddiwallu anghenion pobl - glowyr yn bennaf - a oedd wedi diodde'n drwm gan ddirwasgiad
a diweithdra. Fel canolfan arbrofol, cafodd y cwpwl rwydd hynt gan y pwyllgor
i ddefnyddio'u profiad a'u gwybodaeth arbennig i ddatblygu'r lle heb unrhyw
ymyrraeth. Bwriad y ganolfan o'r cychwyn cyntaf oedd bod yn gyfrwng cyfeillgarwch,
cwnsela, cydymdeimlad a chymorth ymarferol, a thorri tir newydd ym maes addysg
oedolion. Oherwydd tlodi a chyni mawr y cwm ar y pryd, fe ddaeth Maes-yr-haf
yn ganolfan i ddigwyddiadau cymorth materol maes o law hefyd, er nad dyna'r
bwriad ar y cychwyn.
Addysg i oedolion
Rhwng ei sefydlu ym 1927 a 1939, cynhaliwyd dros 475 o
ddosbarthiadau a chyrsiau o ddarlithoedd gyda chymorth
grant ym Maes-yr-haf, ynghyd â miloedd o ddarlithoedd
sengl. Er enghraifft ym 1937-38, cynhaliodd y ganolfan
gyrsiau ar diwtorialau Prifysgol, cyrsiau paratoadol ar
gyfer Prifysgol a chyrsiau estyn Prifysgol. Cyflwynwyd
y cyrsiau hyn gyda chymorth gwirfoddolwyr yn ogystal â Phrifysgol
Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, YMCA, Cyngor Cerddoriaeth
Cenedlaethol Cymru a Chyngor Cenedlaethol Gwasanaethau
Cymdeithasol, ac fe'u cynhaliwyd ym Maes-yr-haf ac mewn
nifer o is-ganolfannau eraill. Hefyd, ffurfiwyd llu o grwpiau
anffurfiol a chylchoedd trafod, cymdeithasau dramâu
a chorau, dosbarthiadau gwniadwaith, crefftau a dosbarthiadau
ymarfer corff ym Maes-yr-haf .
Uchod: Maes-yr-haf tua 1930
Dynion sengl di-waith
Erbyn 1928, roedd y cwm yn llawn dynion di-waith, anghenus, oedd yn methu hawlio
budd-daliadau. Felly, torrwyd tir newydd ym Maes-yr-haf trwy sefydlu clybiau
hyfforddi neu alwedigaethol i'r glowyr. Y syniad oedd cynnig diwrnod o waith
yr wythnos i bob dyn ar raddfa gyflog yr undebau, ynghyd â chinio poeth
a chyfle i ddefnyddio cyfleusterau'r ganolfan. Roedd y dynion di-waith yn gweithio
mewn parciau a chaeau hamdden/chwaraeon lleol dan drefniant awdurdodau lleol
a phwyllgorau hamdden lleol. Gwaith ar gyfer y gymuned gyfan oedd hwn, ac nid
oedd yn cael ei ddefnyddio yn lle llafur cyffredin. Roedd cyfleusterau ym mhob
ardal leol er mwyn i'r aelodau gael pryd poeth a chymryd rhan mewn dosbarthiadau
ymarfer corff, datganiadau gramoffon, cyngherddau a darlithoedd ac ati. Yn yr
haf, roedd gan bob aelod hawl i gael wythnos o wyliau yng nghanolfan Maes-yr-haf
ger y môr. Manteisiodd 5,030 o ddynion ar y clybiau hyn i gyd, oedd yn
cael eu hariannu gan Gymdeithas y Cyfeillion i ddechrau ac yna gan gronfa'r
Arglwydd Faer ar gyfer helpu'r meysydd glo. Ehangwyd y cynllun hwn i holl ardaloedd
anghenus y De.
Clybiau'r Dynion Di-waith
Yn sgil llwyddiant yr arbrawf hwn, ffurfiwyd y clybiau
cyntaf i ddynion di-waith ym 1931, oedd yn llwyddiant mawr
ledled Prydain ac America. Cynhaliwyd y clybiau hyn mewn
adeiladau gwag yn y gymuned i ddechrau, ond wrth i'r mudiad
fynd o nerth i nerth, dechreuodd y dynion godi eu hadeiladau
eu hunain. Erbyn 1932, roedd 10 o glybiau a 1,500 o aelodau,
a thyfodd hyn dros y saith mlynedd nesaf i 60 o glybiau a
rhyw 9,000 o aelodau. Yn nyddiau'r diweithdra mawr, roedd
y clybiau hyn ar agor drwy'r dydd er mwyn i'r dynion gael
eistedd, darllen a chymdeithasu, ac er mwyn cael lloches
a chynhesrwydd yn y gaeaf.
Roedd y clybiau'n cynnwys gweithdai gydag offer a deunyddiau
ar gyfer gwaith coed, trwsio esgidiau a chelfi, ynghyd â'r
holl gyfleusterau addysgol a diwylliannol ym Maes-yr-haf.
Cafodd y clybiau hyn effaith annisgwyl a llesol, gyda dynion
oedd wedi'u dadrithio'n llwyr ar fod yn ddi-waith yn cael
ail wynt, ac yn dysgu sgiliau newydd ac ymdeimlad o werth
ac o berthyn i gymuned. Roedd menywod hefyd yn elwa ar
ddysgu sut i ddefnyddio peiriannau gwnïo, trwsio a
gwneud dillad, a dysgu crefftau fel gwehyddu a chrochenwaith.
Mewn ardaloedd lle rhoddwyd caniatâd i aelodau'r
clybiau i weithio mewn lefel lo yn wirfoddol, roedd dynion
yn cyflenwi 2 can pwys o lo yr wythnos i bob teulu yn y
clwb, ac i bensiynwyr a phobl anabl y fro. Yr aelodau eu
hunain oedd yn rheoli'r clybiau, gan gynnig gwasanaeth
amhrisiadwy i'r cymoedd yn ystod y Dirwasgiad Mawr.
Gwyliau haf ar lan y môr
Roedd Cymdeithas y Cyfeillion yn credu y byddai rhywfaint
o newid a seibiant o'r holl dlodi a chyni ysbrydol yn gwneud
byd o les i bobl. Felly cafwyd syniad o gynnig wythnos
o wyliau haf ar lan y môr i bob aelod o'r clwb. Cafodd
y Gymdeithas afael ar hen fragdy segur yn y Wig, ger y
Bont-faen, Bro Morgannwg. Aeth y dynion di-waith ati i
atgyweirio'r adeilad eu hunain, ac yn ystod ei gyfnod fel
canolfan wyliau, cafodd miloedd o deuluoedd wyliau braf
ar lan y môr.
Dde: Yr hen fragdy, y Wig
Pobl ag anabledd difrifol
Yn y 1940au, Cwm Rhondda oedd â'r gyfran uchaf o
bobl ag anabledd difrifol ym Mhrydain gyfan, ac ym 1941,
cyflwynwyd nifer o argymhellion gan Adroddiad Tomlinson
o ran adsefydlu a chyflogi pobl ag anableddau difrifol.
Gan fod gan Maes-yr-haf brofiad eisoes o addysgu a hyfforddi
oedolion, dechreuodd y ganolfan arbrofi i helpu dynion anabl
y cylch. Ailagorwyd gweithdai'r ganolfan ar ôl bod
ar gau yng nghyfnod y rhyfel, a chrëwyd cyfleusterau
gwneud carpedi a chelfi yno. Roedd arbenigwyr yn goruchwylio'r
gweithgareddau hyn, a gwerthwyd y nwyddau yn y gymuned leol.
Pump o ddynion oedd yn cael eu cyflogi gan y cynllun i ddechrau,
cyn cynyddu i 30 o ddynion erbyn 1948.
Ar ôl y rhyfel, newidiodd anghenion y gymuned a wasanaethwyd
gan Faes-yr-haf, gostyngodd y lefelau diweithdra, ac adfywiodd
y diwydiant glo. Doedd dim angen Clybiau'r Di-waith na'r dosbarthiadau
trwsio dillad ac ati mwyach. Felly, ailafaelodd Maes-yr-haf
yn ei chynlluniau cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol,
a pharhau i helpu'r rhai oedd yn rhy hen i weithio, a gweithio
gyda'r anabl. Ymddeolodd Emma a William Noble o'u gwaith ym
1945.