Saif treflan Trehafod ar y ffin rhwng Cwm Rhondda a Thaf Elái, ac roedd
wedi'i rhannu rhwng plwyfi Pontypridd ac Ystradyfodwg yn ôl Cyfeiriadur
Busnesau Kelly 1926.
Mae map degwm 1847 yn dangos bod yr ardal yn frith o ffermydd
fel Hafod Uchaf, Hafod Genol a Hafod Fawr. Ystyr ‘hafod'
yw cartre'r bugail dros fisoedd y gaeaf, a dyma fu'n sail
i enwi'r dref newydd hon. Cafodd hawliau mwynol y tiroedd
hyn eu prydlesu mor gynnar â 1809. Yn ogystal â'r
ffermydd, mae map degwm 1847 yn dangos bwthyn, tramffordd
a rheilffordd.
Dechreuwyd cloddio am lo yn gynnar yn yr ardal hon gan ei bod mor gyfleus cyrraedd
yma. Felly, agorwyd nifer o lefelau bach a phyllau bas i'r lefelau glo bitwmen
yma cyn 1850 ar gyfer y marchnadoedd ‘glo gwerthiant' bach oedd yn prysur gynyddu.
Agorwyd Lefel yr Hafod yn gyntaf gan Jeremiah Homfrey ym 1809, ac ym 1835, agorwyd
lefel Gwaun yr Eirw gerllaw gan William Crawshay. Ar y cyfan, cyn-weision fferm
o'r ardal leol oedd y glowyr cyntaf yma. Ym 1850, agorwyd Glofa Coed-cae gan
Edward Mills ac yna Glofa'r Hafod gan y brodyr David a John Thomas.
Glofeydd Hafod a Choed-cae
Aeth glofeydd Coed-cae a'r Hafod trwy gyfnodau anodd iawn fel
busnesau bach, ond newidiodd y sefyllfa ar ôl i W.T.
Lewis (Arglwydd Merthyr yn ddiweddarach) brynu'r glofeydd hyn
ac agor pyllau Trefor a Bertie yr ochr arall i'r afon. Er i
Lewis barhau i gloddio'r glo bitwmen o bwll Coed-cae dan fantell ‘Coed
Cae Coal Company', ni ddatblygodd pethau go iawn yn Nhrehafod
tan ar ôl iddo gysylltu pyllau'r Hafod, Trefor a Bertie â'r
gwythiennau glo ager fwy cyfoethog. Dyma ddechrau un o weithfeydd
glo mwyaf Prydain, a oedd yn cyflogi bron i 5,000 o ddynion
ac yn cynhyrchu bron i filiwn o dunelli o lo'r flwyddyn ar
ei anterth.
Fel llawer o bentrefi glofaol y cyfnod, roedd gan Drehafod
ei heglwys ei hun, Eglwys Sant Barnabas (Cenhadfa Bryn
Eirw yn wreiddiol), a llu o gapeli gan gynnwys Capel y
Bedyddwyr Cymraeg, Capel Calfinaidd, Capel y Wesleaid a
Chapel Cymraeg yr Annibynwyr.
Roedd Trehafod yn dref siopa
digon bywiog, a chyda tref ffyniannus Pontypridd gerllaw,
roedd digon o gyfleusterau diwylliannol, addysgol, crefyddol
ac ati i blesio'r trigolion lleol.
Ym mis Gorffennaf 1889,
daeth Trehafod yn derfynfa ar gyfer lein reilffordd newydd
cwmni ‘Barry Railway and Docks'
rhwng Cwm Rhondda â Dociau'r Barri, fel rhan o ymgais
perchnogion glo'r Rhondda i gystadlu yn erbyn monopoli
cwmni Taff Vale Railway a dociau Bute Caerdydd wrth allforio
glo i bedwar ban byd.