Cyn dyfodiad diwydiant, dim ond clwstwr o dyddynnod
bach a ffermydd anghysbell oedd pentrefi Treherbert, Tynewydd,
Blaenrhondda a Blaen-cwm. Ychydig iawn o bobl oedd yn byw
yma, ac yn ôl y Parchedig Lewis yn ‘History of the
Parish of Treherbert' ym 1959, roedd Treherbert ar frig
cwm diarffordd ac wedi llwyddo i gadw ei gymeriad gwledig
arbennig . Er bod tystiolaeth yn dangos fod pobl yn byw
yma yn oes y Celtiaid, prin oedd poblogaeth yr ardal am
flynyddoedd maith - dim ond 218 o bobl oedd yn byw yn 'Middle
hamlet of Treherbert' ym 1841. Erbyn 1861 fodd bynnag,
cynyddodd y ffigur hwn 500% i 1,203.
Un peth oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r pentrefi hyn,
a Chwm Rhondda i gyd i raddau helaeth, sef agor y pwll
glo stêm cyntaf yng Nghwmsaerbren (Treherbert) ym
1855.
Agorwyd y pwll gan Ymddiriedolwyr Marcwis Bute ar ôl
iddynt brynu fferm Cwmsaerbren gan William Davies am £11,000
ym mis Awst 1845. Dechreuwyd cloddio am lo mewn pwll arbrofol
ym 1850, ond araf iawn y datblygodd pethau oherwydd cysylltiadau
trafnidiaeth gwael Cwm Rhondda yn y 1840au. Roedd rhaid
defnyddio ceffylau i lusgo'r offer ar draciau garw am wyth
milltir o derfynfa rheilffordd Taff Vale ym mhentref Dinas.
Chwith: William a Catherine Davies, Fferm Cwmsaerbren
Er gwaethaf hyn, daethpwyd ar draws gwythïen lo 4 troedfedd, 125 o lathenni
islaw'r ddaear, a dechreuodd y gwaith ym 1855. Gyda llaw, ym mis Ionawr y flwyddyn
honno y ceir y cofnod cyntaf o'r enw Treherbert yng nghofnodion y Plwyf, ar ôl
un o enwau teuluol Marcwis Bute. Cafodd y 38 o wagenni glo stêm cyntaf
eu cludo o orsaf drenau Taff Vale Railway (oedd newydd ei ehangu) yng Ngelligaled
(Ystrad) i Gaerdydd ar 21 Rhagfyr 1855. O ganol y 1850au ymlaen, dechreuwyd
ehangu pentrefi rhan uchaf Cwm Rhondda Fawr ac adeiladau'r rhesi cyntaf o dai,
sef Bute Street, Dumfries Street, a Baglan Street.
Diwydiant glo Treherbert
Dyma rywfaint o hanes prif byllau glo ardal Treherbert, Blaenrhondda a Blaen-cwm.
Nid rhestr gynhwysfawr na chyflawn mohoni.
Glofa Abergorchi - Treherbert
r bod lefel lo fach yma yn nechrau'r 1800au, manteisiwyd
i'r eithaf arni wrth i fflyd o fentrwyr glo heidio i'r
ardal ar ôl
agor pwll Bute . Ym mis Medi 1859, llwyddodd partneriaeth Houghty
Huxham, Thomas Hopkin a William Morgan i gysylltu'r lefel â gwythïen ‘Rhondda
No.3'. Prynwyd y lefel hon maes o law gan H. Insole am £7,000
ym 1862 a suddodd y siafft i'r gwythiennau glo stêm,
ac yna gan Bunyeat, Brown and Company a brynodd y lofa ym 1874.
Fe'i prynwyd gan Ocean Coal Company ym 1926, ond roedd yn segur
erbyn gwladoli'r pyllau glo ym 1947.
Uwchben Glofa Abergorchi tua 1900
Glofa Bute Merthyr (Treherbert)
Agorodd y lofa hon ym 1851, ac erbyn 1853 roedd wedi
cyrraedd y wythïen 4 troedfedd 125 o lathenni islaw'r
ddaear cyn suddo'r siafft aer rhwng 1853 a 1854. Ym 1857,
gosodwyd y pwll ar les gan Ystâd Bute i gwmni a aeth
i'r wal ym 1859 ac roedd y pwll yn wag am naw mis wedyn.
Ym 1862, penderfynodd W.S.Clark i orchwylio'r gwaith cynhyrchu
ei hun ar ran Ystâd Bute a chynyddodd y gwaith cynhyrchu
yn gyflym. Erbyn 1869, roedd y pwll yn cynhyrchu bron ddwywaith
cymaint o lo, a chloddiwyd yn ddyfnach o dan y ddaear gan
daro'r wythïen dwy droedfedd naw modfedd, y wythïen
chwe throedfedd a'r wythïen naw troedfedd. Prynodd
United National Collieries y lofa ym 1915, cyn dod o dan
reolaeth Ocean Coal Company ym 1926.
Er na chynhyrchwyd mwy o lo gan y Bwrdd Glo ar ôl
gwladoli, fe'i cadwyd ar agor fel gorsaf bwmpio am gyfnod
byr wedyn.
Uchod: Glofa Bute Merthyr tua 1885
Glofeydd Fernhill
oedd pump o byllau a lefelydd yn Fernhill, gan gynnwys
pwll North Dunraven. Agorwyd pyllau rhif 1 a 2 Fernhill
gan Ebenezer Lewis ym 1869, ac ar ôl i'r pyllau hyn
gyrraedd y wythïen
chwe throedfedd ym 1871 fe'u gwerthodd i bartneriaeth y Meistri
Crowley, John ac Oldroyd yn yr un flwyddyn. Gwerthwyd y pyllau
maes o law i George Watkinson a'i feibion ym 1877, a brynodd
bwll North Dunraven (Blaenrhondda) ym 1893 hefyd a'i uno gyda
Glofa Fernhill. Aeth Watkinson ati i greu cwmni cyhoeddus Fernhill
Collieries Cyfyngedig wedyn. Daeth y cwmni dan fantell Cambrian
Trust Limited ym 1910, ac erbyn 1913 roedd dros 1,700 o ddynion
yn gweithio i byllau'r cwmni.
Uchod: Pyllau 1 a 2, Fernhill
Ym 1920, agorwyd pwll olaf Fernhill, pwll rhif 5, a daeth y cwmni'n rhan o'r
Welsh Associated Collieries Limited a unodd gyda Powell
Duffryn ym 1935 i greu
cwmni Powell Duffryn Associated Collieries Limited oedd yn rheoli'r glofeydd
tan iddynt gael eu gwladoli ym 1947. Ar ôl gwladoli, daeth Fernhill yn
rhan o Ranbarth De-orllewinol, Ardal 3, Grwp 4, Bwrdd Glo Prydain. Ar y pryd,
cyflogwyd dros 1,000 o ddynion oedd yn cloddio'r gwythiennau pedair troedfedd,
naw troedfedd, newydd a dwy droedfedd. Unwyd glofa Fernhill gyda Glofa'r Twr,
Hirwaun ym 1966, a chynyddodd y gwaith cynhyrchu. Caeodd glofa Fernhill am y
tro olaf ym 1978.
Glofa Glyn Rhondda (Blaen-cwm)
Agorwyd y lofa hon ym 1911 gan gwmni Glenavon Garw
Collieries Limited, aelod o Gymdeithas Perchnogion Glo
De Cymru, a wasanaethwyd gan reilffordd Rhondda and Swansea
Bay. Roedd yn cynnwys dwy lefel, slant a phwll, a chyflogwyd
rhwng 200 a 500 o ddynion yn ystod oes y lofa a oedd yn
cynhyrchu glo i gartrefi a diwydiannau. Ar ôl gwladoli,
daeth y lofa'n rhan o Ranbarth De-orllewinol, Ardal 3,
Grwp 4, y Bwrdd Glo. Ar y pryd, roedd dros 450 o lowyr
yn gweithio ym mhyllau 1 a 2, a thua 70 yn gweithio yn
lefel rhif 2. Caeodd lefel rhif 2 ym 1954, a chaewyd y
lofa i gyd gan y Bwrdd Glo ym 1966
Dde: Glofa Glyn Rhondda tua 1963
Glofa Lady Margaret (Treherbert)
Dyma un o byllau glo cyntaf rhan uchaf Cwm Rhondda,
a agorwyd gan Farcwis Bute ym 1853. Roedd rheilffordd Taff
Vale newydd gael ei hymestyn ar y pryd i wasanaethu'r lofa,
ac roedd digon o le i 160 o wagenni llawn, 114 o wagenni
gwag a 45 o wagenni eraill ar seidins y lofa. Cloddiwyd
yn ddyfnach i'r wythïen bedair troedfedd uchaf a'r
gwythiennau dwy droedfedd naw modfedd, pedair troedfedd
a chwe throedfedd cyn rhoi'r gorau iddi ym 1909. Aeth United
National Collieries Limited ati i brynu'r lofa hon ynghyd â Glofa
Bute Merthyr ym 1915, ac erbyn 1926 roedd y gyfran fwyaf
o'r cwmni ym meddiant Ocean Coal Company. Ar ôl gwladoli'r
diwydiant glo ym 1947, dim ond at ddibenion pwmpio ac awyru
y defnyddiwyd Glofa Lady Margaret.
Chwith: Glofa Lady Margaret tua 1916
Glofa Tydraw (Blaen-cwm)
Glofa Dunraven oedd enw'r pwll hwn yn wreiddiol, ar ôl
y perchnogion gwreiddiol, Dunraven United Collieries Limited
a sefydlwyd gan Thomas Joseph. Aeth y cwmni i'r wal ym
1866 ar ôl darganfod y wythïen dwy droedfedd
naw modfedd ym 1865. Roedd yn segur tan 1872 pan brynwyd
y lle gan Watts and Company. Fe'i gwasanaethwyd gan reilffordd
Taff Vale, ac ym 1897 roedd lle i 340 o wagenni ar y seidins.
Pan brynodd y Brodyr Cory y lofa ym 1913, roedd yn cyflogi
806 o ddynion. Parhaodd yn eu dwylo nhw tan 1947 pan ddaeth
yn rhan o Ranbarth De-orllewinol, Ardal 3, Grwp 4, y Bwrdd
Glo, gyda bron i 450 o weithwyr. Daeth y gwaith i ben am
y tro olaf ym 1959.
Dde: Glofa Tydraw yn y cefndir.
Cludiant Treherbert
Cyn agor Pwll Bute Merthyr, roedd cysylltiadau cludiant
ym mhen uchaf Cwm Rhondda yn gwbl nodweddiadol o ardal
wledig yn nechrau'r 1800au. Doedd dim cyswllt rheilffordd,
a thraciau garw a llwybrau ceffyl niferus oedd ffordd fawr
y cyfnod. Yr unig ffordd o gyrraedd y cymoedd cyfagos oedd
ar hyd y grib oedd yn cysylltu â ffordd Castell-nedd/Aberdâr.
Er mwyn croesi'r afon, roedd rhaid mynd drwy ddwy ryd,
Rhyd-y-cwm, uwchben Blaenrhondda, a Rhyd Tonllwyd yn Nhreherbert.
Mae cysylltiad amlwg rhwng datblygiad diwydiannol yr ardal
a datblygu'r cysylltiadau cludiant yma. Mewn dim o dro,
trodd yr ardal wledig anghysbell hon i fod yn ganolbwynt
bwrlwm diwydiannol.
Un o'r prif ffactorau y tu ôl i ddatblygiadau mawr
yr ardal oedd yr angen i reilffordd Taff Vale ehangu ei
wasanaethau i ben uchaf Cwm Rhondda, a gwneud mwy o elw
yn sgil hynny. Yn y 1840au, roedd y rheilffordd yn mynd
cyn belled â Dinas, ond roedd cryn sôn am gyfoeth
mwynol Cwm Rhondda Uchaf. Felly, sicrhaodd cwmni rheilffordd
Taff Vale yr hawl i ehangu'r lein cyn belled â Thynewydd
ym 1846. Byddai cost hynny wedi bod yn llethol oni bai
am werth adnoddau mwynol y rhan yma o'r cwm.
Chwith: Platfform gorsaf Blaenrhondda
Felly, cynigiodd y cwmni wobr o £500
i unrhyw un a fyddai'n agor pwll 120 o lathenni o dan y
ddaear ym mhen uchaf Cwm Rhondda Fawr. Llwyddodd pwll Bute
Merthyr i wneud hyn wrth ddarganfod gwythïen lo 125
o lathenni o dan y ddaear ym 1853. Cafodd hyn effaith uniongyrchol
ar gludiant, gyda rheilffordd Taff Vale yn ehangu'r lein
i Gelligaled yn Ystrad Rhondda i ddechrau ac yna i bwll
glo Bute Merthyr, Treherbert, ym 1856. Bellach, roedd modd
cloddio am lo ar raddfa fawr yn y cylch, a doedd dim angen
defnyddio ceffylau a wagenni i gludo'r holl offer ar lonydd
anaddas wyth milltir i fyny'r cwm mwyach. Hefyd, doedd
dim angen cludo'r glo i lawr y cwm fel hyn chwaith. Cyflymodd
yr holl broses yn sylweddol, ac yn bwysicach i bawb oedd
yn gysylltiedig â'r diwydiant, cynyddodd yr elw hefyd.
Rhaid cofio mai trenau cludo nwyddau'n bennaf oedd yn teithio
ar gledrau'r cyfnod, ac ni ddechreuwyd cludo teithwyr i
orsaf Treherbert tan fis Ionawr 1863.
Ffactor hynod ddylanwadol arall ar y pryd oedd creu Rheilffordd
Rhondda and Swansea Bay a agorodd ym mhen ucha'r cwm, gan
gysylltu Cwm Rhondda ag ardaloedd Castell-nedd ac Abertawe.
Daeth y Rhondda and Swansea Bay Company yn gwmni corfforedig
ym 1882 gyda'i fryd ar gysylltu Cwm Rhondda Uchaf â phorthladdoedd
Bae Abertawe, a rhyddhau'r meysydd glo o fonopoli cwmni Taff
Vale. Un o orchestion peirianyddol y cwmni hwn oedd creu
twnnel bron i 3,500 o lathenni o hyd o Flaenrhondda i Flaengwynfi
(y mwyaf o'i fath yng Nghymru), a gyflogai 1,100 o ddynion
pan roedd y gwaith adeiladu ar ei anterth. Ond ni fu'r cwmni
rheilffordd hwn mor llwyddiannus â'r disgwyl, ac ni
lwyddwyd i lacio gafael haearnaidd Taff Vale Railway. Un
o sgil-effeithiau hyn oedd y ffaith iddo agor yr ardal i'r
gorllewin o Gwm Rhondda i drigolion Cwm Rhondda Uchaf - ac
roedd yn arbennig o boblogaidd yn ystod misoedd yr haf pan
roedd pawb a'i fodryb yn mynd ar y trên am y dydd i
draethau Aberafan ac Abertawe.
Fel y nodwyd eisoes, roedd ffyrdd yr ardal yn hollol
anaddas ar gyfer yr holl bobl a heidiodd i'r ardal i chwilio
am waith yn y diwydiant newydd. Mater i berchnogion y glofeydd
eu hunain oedd mynd ati i adeiladu ffyrdd gwell, ac yn
hyn o beth, roedd Ystâd Bute ar flaen y gad - gan
alw am ffordd 50 troedfedd o led o Dreherbert i Bontypridd
yn nechrau'r 1860au. Er na wireddwyd y cynllun hwn, aeth
Ystad Bute ati i gyflawni'r gwaith o Dreherbert i Dreorci.
Yn y 1920au, aeth y cyngor lleol ati i adeiladu ffordd
y Rhugos (neu ‘New Road' fel yr oedd ar y pryd) fel dolen
gyswllt rhwng pen ucha'r cwm â Chwm Cynon a Chwm
Nedd.
Chwith: Pont Ynysfeio tua 1900
Cerbydau hansom, breciau a wagonetiau oedd fwyaf cyffredin
ar y ffyrdd cynnar, ond ym 1860au, sefydlwyd dau wasanaeth
bws â cheffyl rhwng Treorci a Threherbert. Ehangwyd y
gwasanaeth yn y 1870au gyda thri gwasanaeth dyddiol rhwng Treherbert
ac Ystradyfodwg. Ym mis Ebrill 1906 ffurfiwyd cwmni Rhondda
Tramways gan arwain at y gwasanaeth tram trydan cyntaf i Dreherbert
ym 1908. Disodlwyd y tramiau gan y bysus yn y 1930au, gyda'r
gwasanaeth bws cyntaf rhwng Treherbert a Chaerdydd 1931. Mewn
llai nag 80 mlynedd felly, roedd Treherbert a'r cylch wedi
gweddnewid yn llwyr - o fod yn blwyf tawel ac anghysbell oedd
heb newid fawr ddim ers canrifoedd, i fod yn dref ddiwydiannol
brysur â chysylltiadau i weddill y De.