Mae pentref Treorci wedi'i enwi ar ôl nant sy'n llifo o'r mynydd uwchben
y pentref cyn ymuno â'r afon Rhondda. Mae map Ordnans 1875 yn cyfeirio
at y nant hon fel ‘Nant Orky', ac mae'r pentref wedi'i sillafu fel ‘Treorky'.
Mae'r hen enw Cymraeg ‘Gorchwy' yn awgrymu nant ar y ffin. Cyn dyddiau diwydiant,
mae mapiau degwm yn dangos ardal brin ei phoblogaeth o ffermydd gwasgaredig,
fel Abergorchwy, Tyle-du, a Glyn Coli. Dolydd, porfeydd a choetiroedd oedd yma'n
bennaf, gyda ffermwyr-denantiaid yn cynnwys Walter Edwards, Llewellyn Lewis
a Mary Evans. Roedd rhan fwyaf o diroedd Cwm Rhondda yn eiddo i bendefigion
Morgannwg ar y pryd, a'r rhan fwyaf o Dreorci yn rhan o Ystâd Marcwis
Bute.
Er hynny, dechreuodd natur yr ardal newid yn y 1850au
wrth i wyr busnes fentro ar wythiennau glo pen uchaf Cwm
Rhondda. Dechreuodd y broses hon ym 1855 gydag agor Glofa
Tylacoch, yna lefelau Abergorchy (1859) a Glynoli (1860)
a Glofa Abergorchy ym 1865. Ar ôl i lofeydd ‘Parc'
a'r ‘Dare' agor ym mhentref cyfagos Cwm-parc, datblygodd
Treorci'n ddirfawr wrth i filoedd o fewnfudwyr lifo i'r
ardal i chwilio am waith.
Chwith: Treorci isaf
Adeiladwyd cannoedd o dai newydd i ateb
y galw, ynghyd â chapeli, siopau a thafarndai. Erbyn
y 1900au, roedd Treorci yn ganolfan siopa a chymdeithasol
o bwys yng Nghwm Rhondda.
Roedd Treorci'n enwog fel canolbwynt y bywyd diwylliannol
o'r dyddiau cynnar hefyd, ac mae'n gartref i Gôr Meibion
Treorci byd-enwog hyd heddiw yn ogystal â Theatr y
Parc a'r Dâr sy'n llwyfannu nifer o ddramâu,
sioeau cerdd ac operâu gan berfformwyr amatur y cylch
yn ogystal â rhai proffesiynol o bedwar ban byd. Cynhaliwyd
yr Eisteddfod Genedlaethol yn y dref ym 1928 – yr unig dro
iddi ymweld â Chwm Rhondda.
Roedd Treorci mewn sefyllfa tipyn iachach na llawer
o bentrefi eraill Cwm Rhondda yn sgil tranc y diwydiant
glo yn yr ugeinfed ganrif. Roedd sawl diwydiant arall yn
Nhreorci ar y pryd, gan gynnwys ffatrïoedd cwmnïau
fel Polikoff (cynhyrchwyr dillad), y cwmni corfforaethol
mawr EMI, a ffatri cynhyrchu dur T.C. Jones (rhan o'r 600
Group). Felly, llwyddodd Treorci i osgoi'r cyni a'r tlodi
mawr a welwyd mewn pentrefi eraill ar ôl i'r pyllau
glo gau.
Uchod: Treorci uchaf
Neuadd y Gweithwyr a Theatr y Parc a'r Dâr
Agorodd yr adeilad mawreddog hwn ym mis Mawrth 1895, am £4,000, fel Llyfrgell
a Sefydliad y Gweithwyr yn wreiddiol. Fe'i hadeiladwyd gyda chymorth ariannol
gweithwyr y glofeydd lleol ‘The Parc' a ‘The Dare', trwy gyfrwng Cymdeithas
y Glowyr. Roedd y glowyr yn cyfrannu ceiniog o bob punt o'u cyflog tuag at adeiladu
a chynnal a chadw'r adeilad - sy'n dipyn o aberth o gofio mai dim ond llai na £2
yr wythnos ar gyfartaledd oedd eu cyflog.
Ym 1913, ehangwyd yr adeilad gwreiddiol i gynnwys Theatr
y Parc a'r Dâr, a gynlluniwyd gan y pensaer o Ferthyr
Tudful, Jacob Rees. Y bwriad gwreiddiol oedd cael canolfan
theatr gerdd o fri. Ond erbyn cwblhau'r gwaith adeiladu,
roedd hi'n amlwg bod oes aur y theatr gerdd ar ben, a phenderfynodd
y pwyllgor rheoli mai ‘lluniau symudol' oedd y dyfodol.
Felly, agorwyd Theatr y Parc a'r Dâr fel sinema i
ddechrau yn ogystal â llwyfannu perfformiadau byw
gan gwmnïau drama lleol a'r eisteddfod lled-genedlaethol
o fri bob blwyddyn. Roedd y theatr yn rhan hollbwysig o
fywyd diwylliannol y gymuned leol.
Cafodd streic gyffredinol 1926 effaith ddifrifol ar Theatr
y Parc a'r Dâr. Nid oedd gan y glowyr unrhyw incwm
i gefnogi'r neuadd, ac roedd cael bwyd ar y bwrdd yn bwysicach
na diwylliant ac adloniant. Felly, roedd perygl i'r neuadd
fynd i'r wal a chafodd y glowyr eu gorfodi i werthu 99% o'u
cyfranddaliadau i'r Ocean Coal Company.
Ym 1930, dangoswyd y ffilm lafar gyntaf, ‘Broadway
Melody' yn y Theatr, a thyrrodd pobl o bell ac agos i weld
y rhyfeddod newydd hwn.
Ar ôl gwladoli, aeth Cyfrinfa'r Parc a'r Dâr
Undeb Cenedlaethol y Glowyr ati i ail-brynu'r neuadd am £35,000.
Ond gyda phoblogrwydd y teledu a dirywiad y diwydiant glo,
fe aeth Theatr y Parc a'r Dâr trwy gyfnod anodd iawn
ac roedd mewn perygl o gau. Er hynny, cyflwynodd y rheolwyr
y neuadd i'r awdurdod lleol, Cyngor Bwrdeistref y Rhondda,
ym 1975. Ers hynny, mae'r awdurdod lleol wedi gwario llawer
o arian ar droi'r lle yn sinema, theatr a neuadd gyngerdd
ffyniannus, gan sicrhau bod Theatr y Parc a'r Dâr
yn rhan anhepgor o fywyd diwylliannol y cymoedd.