Un o bentrefi bach niferus Cwm Rhondda yw Wattstown,
neu ‘Pont rhyd y cwch' neu ‘Pont-y-Cwtch' cyn y cyfnod
diwydiannol. Mae rhai o'r trigolion lleol yn dal i'w alw'n ‘Cwtch'
heddiw. Hyd yn oed ar ôl i'r diwydiant glo gyrraedd
Cwm Rhondda Fach, dim ond ardal ddi-nod rhwng y Porth a
phentrefi Tylorstown, Ferndale a'r Maerdy ydoedd.
Datblygodd yn bentref go iawn ar ôl agor Glofa'r National
ar ddechrau'r 1880au. Ym 1881, aeth tri pherchennog glo -
Ebenezer Lewis, Henry Lewis a Mathew Cope - ati i suddo dwy
siafft ar dir ar brydles gan Crawshay Bailey a William Partridge
Bailey. Bu llawer o bobl wahanol yn rhedeg y National, gan
gynnwys Messrs. Griffiths and Company, a Watts, Watts and
Company, sef yr enw a roddwyd ar y pentref maes o law.
Bu dwy drychineb fawr yng Nglofa'r National yn ystod ei hoes. Lladdwyd 39 o
ddynion a bechgyn yn y ddamwain gyntaf ym 1887. Lladdwyd 119 o weithwyr yn yr
ail ddamwain ym mis Gorffennaf 1905, gan ddryllio'r gymuned fach glos hon. Ar
ôl y drychineb gyntaf, gwerthwyd y lofa i'r National Steam Coal Company
Limited, sef y National Collieries Company Limited yn ddiweddarach. Daeth yn
rhan o'r Ocean Coal Company cyn y cyfnod gwladoli, cyn cau am y tro olaf ym
mis Tachwedd 1968.
Uchod a'r dde: Angladd y rhai a
laddwyd yn nhrychineb pwll glo Wattstown (Glofa'r National),
Gorffennaf 1905. Yn ôl pob sôn, roedd yr orymdaith yn 5 milltir
o hyd – wrth i'r galarwyr cyntaf gyrraedd Mynwent Llethr-ddu,
roedd y rhai olaf ar fin gadael Wattstown.
Yn ei lyfr ‘The Rhondda Valleys', mae ED Lewis yn disgrifio'r newid mawr yn
sgil agor pwll glo yn Wattstown a'i ddatblygiad fel pentref wedyn. Dywedodd
fod yr ardal wledig wedi'i gweddnewid yn llwyr a bod rhes hir o dai yn nadreddu
o Ynys-hir i'r Maerdy.
Er gwaethaf presenoldeb y lofa, a'r holl weithwyr a
ddenwyd i'r ardal, ni ddatblygodd Wattstown i'r un graddau â phentrefi
eraill Cwm Rhondda Fach - er bod yno eglwys arbennig, St.
Thomas a adeiladwyd ym 1896, tafarnau, ysgol a chapeli
ac ati.
Mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1906 yn dangos hyn yn glir. Lle mai dim ond pedwar
o drigolion preifat a restrir yn Wattstown (curadur, llawfeddyg, gweinidog y
Bedyddwyr a phreswyliwr Glenside House a adeiladwyd yn wreiddiol gan Henry Lewis,
goruchwylydd y gwaith o agor y pwll), roedd gan bentref bach Ystradyfodwg 27
o drigolion preifat . Yn yr un modd, mae'r rhestr masnachwyr yn dangos holl
anghenion bywyd o ran cigyddion, pobyddion ac ati, ond i raddau tipyn llai na
phentrefi eraill y cylch.
Chwith: Glofa'r National tua 1920
TANCHWA GLOFA'R NATIONAL, WATTSTOWN, 18 CHWEFROR 1887
Ceir disgrifiad o drychineb lofaol gyntaf Wattstown (er mai Ynys-hir neu Cwtch
oedd enw'r lle ar y pryd) ym mhapur newydd y Rhondda Chronicle ar 25 Chwefror.
Rhwng 6.40-6.45pm y nos Wener honno, bu tanchwa yng Nglofa'r National (Cwtch).
Yn ffodus, roedd 200 o weithwyr y shifft nos yn dal heb fynd o dan y ddaear,
ac roedd y mwyafrif o weithwyr y shifft dydd wedi cyrraedd pen y pwll yn ddiogel
- neu fe fyddai nifer y meirwon wedi bod yn uwch o lawer. Mae'r papur yn disgrifio
sut y clywodd y gweithwyr ar ben y pwll swn anferthol yn llenwi'r lle. Dinistriwyd
y pen pwll a'r offer weindio, ac felly nid oedd y tîm achub yn gallu mynd
o dan y ddaear tan ryw 3-4 awr yn ddiweddarach. Ymgasglodd miloedd o bobl y
cylch ar unwaith ar frig y pwll i glywed newyddion am y dynion oedd yn gaeth
oddi tanynt. Ar ôl cyrraedd y gwaelodion, llwyddodd yr achubwyr bron ar
unwaith i anfon 29 o lowyr heb eu hanafu a 9 wedi'u hanafu i'r wyneb, a 6 chorff.
Mae'r papur newydd yn sôn am ddihangfa ryfeddol Samuel Strange, gwas stabl
y pwll, oedd wedi'i losgi ond yn fyw, tra'r oedd 23 o geffylau a thri dyn gerllaw
wedi'u lladd.
‘That an explosion of gas occurred at the National
Colliery, in the parish of Llanwonno at 6.40p.m. on February
18th 1887, whereby Gareth Griffiths and others lost their
lives, and they cannot in consequence of the lack of
evidence find out the cause of the explosion or where
it started'. Er hynny, roedd y rheithgor yn gwbl
unfrydol bod rheolwyr y lofa wedi bod braidd yn esgeulus,
ac nad oeddynt mor ofalus â'r hyn oedd yn ofynnol
yn yr achos hwn. Mae adroddiad yr Ysgrifennydd Cartref,
F.A. Bosanquet yn sôn yn fwy penodol am achos y
danchwa. Ynddo, mae'n nodi union leoliad a tharddiad
y danchwa yn ei farn ef. Mae'n disgrifio'r lofa fel lle
sych a llychlyd, yn nodweddiadol o byllau Cwm Rhondda,
gyda ffrwydriadau cyson o losgnwy. Digwyddodd y danchwa
ei hun yn rhan ogleddol y pwll, lle na ddaeth neb allan
yn fyw.
Mae'n canmol perchnogion y pwll am osod yr offer diogelwch
gorau oedd ar gael ar y pryd. Roedd dwy wyntyll neu ffan
ar gyfer awyru'r pwll (un ychwanegol ar gyfer unrhyw argyfwng),
roedd y lampau diogelwch yn rhai gwych a drud, a defnyddiwyd
cetris dwr i danio.
Er hynny, mae'n feirniadol o reolwyr y pwll ar nifer o bethau,
yn enwedig diffyg ffordd effeithiol o ddyfrio'r pwll a chael
gwared ar yr holl lwch oedd yno. Mae hefyd yn beirniadu'r ffaith
nad oedd y defnydd o lampau a ffrwydron yn y pwll yn cael ei
fonitro'n iawn. Roedd yn credu mai ergyd a daniwyd yn rhan
Cwm Nedd o'r pwll a achosodd y ffrwydrad, a bod glöwr
o'r enw John Jones wedi dweud bod nwy gwaeth nag erioed yn
ei ffas lo ar ddiwrnod y danchwa. Felly, roedd digon o nwy
wedi crynhoi i greu ‘cap' yn y lamp ddiogelwch rhyw 33 llath
i ffwrdd o gyffordd llwybr y ffas lo â hedin Rhisga.
Credai mai dyma'r lle y cafodd ergyd ei danio adeg y danchwa.
Yn ei adroddiad, roedd Mr Bosanquet yn credu bod tanio'r ergyd
adeg y shifft ‘wyth awr' yn torri Deddfau Rheoliadau Pyllau
Glo 1872, ac felly, roedd yn argymell dwyn achos yn erbyn Mr
Watts yr asiant a Mr Williams y rheolwr am dorri'r rheolau
hyn.
DINISTR GLOFA'R NATIONAL, WATTSTOWN, DYDD MAWRTH 11 GORFFENNAF 1905
‘Calamity at Wattstown-Immense loss
of life- Heartrending scenes' - dyna benawdau papur
newydd y Rhondda Leader ar 15 Gorffennaf yn sgil tanchwa
yng Nglofa Wattstown a laddodd 120 o ddynion a bechgyn.
Yr wythnos ganlynol, cyfeiriodd y papur at y trychineb
fel ‘The Wattstown Holocaust.' Mae'r adroddiad
yn mynd ymlaen i ddweud, ‘For the second time during
the present year the Rhondda Valley has been visited
by one of those great calamities which has made its name
synonymous with death and unexampled bravery'. Dim
ond pedwar mis ynghynt y cafodd 32 o lowyr eu lladd mewn
ffrwydrad yng Nglofa'r Cambrian yng Nghwm Clydach . Dyma'r
hanes gan ohebydd y cyfnod: ‘… the disaster adds
another to the already long list of gruesome and terrible
disasters', that had befallen the miners of the Rhondda… about
12 o'clock on Tuesday a volume of debris shot out of
the pit's mouth, accompanied by an ominous thud and a
low rumbling as of distant thunder.'
Erbyn tri o'r gloch y prynhawn, roedd miloedd wedi ymgynnull ym mhen y pwll,
ac roedd yn rhaid i'r heddlu sefyll yn un rhes o amgylch iard y lofa. Ar ôl
cludo'r cyrff i'r wyneb, fe'u cadwyd mewn marwdy dros dro yn siop y gof er mwyn
eu hadnabod. Yn anffodus, roedd llawer wedi'u hanafu cynddrwg fel mai'r unig
ffordd o'u hadnabod oedd trwy eu heiddo personol, darnau o ddillad ac ati. Digwyddodd
y ffrwydrad yn y wythïen naw troedfedd lle'r oedd 150 i 200 o lowyr yn gweithio
fel arfer - ond lwcus nad oedd nifer ohonynt yn y gwaith y diwrnod hwnnw, neu
fe fyddai nifer y meirw wedi bod yn waeth o lawer. Cafodd tri gweithiwr eu hachub
yn fyw o'r wythïen lo ar ôl y ffrwydrad, ond bu farw dau ohonynt -
John Dando a John Reeves - o'u hanafiadau'n ddiweddarach, gan adael Mathew Davies
ar ôl fel yr unig oroeswr. Roedd Adroddiadau'r trychineb gan E. Milner
Jones, bargyfreithiwr, ac Arolygwyr y Pyllau Glo F.A.Gray a J.T.Robson yn cytuno
ar achos y ffrwydrad. Roeddynt yn credu bod y rheolwr wedi penderfynu tanio drwy
fur glo er mwyn draenio dwr a llaid i waelod y pwll cloddio. Y cynllun gwreiddiol
oedd codi'r dwr trwy'r siafft aer yn ystod y nos, proses araf a fyddai'n tarfu
ar waith y pwll. Ategwyd y farn hon gan y ffaith fod y prif gloddiwr wedi gofyn
am gebl ffrwydro ychydig cyn y danchwa, ac roedd batri ar gyfer tanio ergyd wedi'i
gymryd dan ddaear hefyd. Roedd y rheolwr, Mr Meredith, hefyd wedi disgyn i grombil
y pwll tua chwarter awr cyn y danchwa a chanfuwyd cyrff y rheolwr a'r cloddwyr
ar waelod y pwll cloddio.
Yn bwysicach fyth, ar ôl i'r holl ddwr a'r gwastraff
glirio o'r hedin ar ôl y danchwa, roedd y mur o lo
wedi diflannu'n llwyr. Roedd yr adroddiadau hyn yn lladd
ar reolwyr y pwll mewn sawl maes. Roedd yn arbennig o feirniadol
o'r rheolwyr am eu diffyg disgyblaeth o ran defnyddio ffrwydron
yn y pwll ac am danio ergydau yn ystod shifftiau, a system
ddyfrio'r pwll hefyd. Yn ôl E.Milner Jones, ‘The
evidence given at the inquest discloses a lax of discipline
and a total disregard of specific statutory rules for the
use of explosives in mines' gan ychwanegu nad oedd
yn argymell unrhyw gosb gan fod rheolwr y pwll wedi'i ladd
yn y ffrwydrad.
Ar ôl y danchwa, cafwyd negeseuon o gydymdeimlad o
bob cwr o Brydain – gan gynnwys un gan y Brenin ei hun: ‘The
King is anxious to express to you personally, to the widows,
the orphans, and other relations of those who have lost their
lives in the recent colliery accident, the profound sympathy
he and the Queen entertain for them on the overwhelming calamity
which has befallen them. Their majesties feel most sincerely
and deeply for them in their great sorrow.'
Disgrifiwyd y cynhebrwng gan bapur newydd y cyfnod. Dywedodd
fod rhes o alarwyr yn ymestyn 4 i 5 milltir yr holl ffordd
o Wattstown i fynwent Llethr-ddu yn Nhrealaw. Un elfen
drist iawn o'r drychineb yw'r ffaith mai bechgyn ifanc
o dan 20 oed oedd hanner y rhai a laddwyd, fel y cofnododd
papur newydd y Rhondda Leader, ‘Not the least pathetic
in this tear stained drama of human struggle for existence
is the fact that so many boys have lost their lives',