Fel llawer o bentrefi Cwm Rhondda, mae Ynys-hir wedi'i henwi ar ôl fferm
leol oedd yno cyn dyfodiad diwydiant. Ceir cyfeiriad at bentref glofaol bach
yn Ynys-hir mor gynnar â'r 1840au. Roedd safle Ynys-hir yn arbennig o
ddeniadol i fentrwyr cloddio. Gyda'r pentref brin filltir o'r Porth, roedd cludiant
yn haws ac roedd ei dolydd eang yn dipyn o fendith o gymharu â llawer
o gwm cul Rhondda Fawr.
Ym 1845 y dechreuodd y diwydiant glo go iawn yn Ynys-hir, ar ôl agor pwll
glo'r Meistri Shepherd ac Evans, Ynyshir Coal Company. Prynwyd ac ehangwyd y
pwll hwn maes o law gan Francis Crawshay ym 1856, er mwyn cyflenwi glo i Waith
Haearn Crawshay yn Nhrefforest. Dechreuwyd cloddio glo ager yn y cylch ar ôl
i James Thomas, prif bartner Troedyrhiw Colliery Company, brydlesu hawliau mwynol
ar ddarn o dir yn Ynys-hir. Agorodd Glofeydd Standard ar y safle – pwll rhif
un ym 1875, a phwll rhif dau yn y flwyddyn ganlynol. Darganfuwyd gwythïen
lo 4 troedfedd y Rhondda yn y pyllau hyn, y naill ym 1877 a'r llall ym 1878.
Roedd glo Ynys-hir yn arbennig o boblogaidd gan y Morlys
a'r marchnadoedd allforio hynod broffidiol, yn enwedig
Ffrainc. Ym 1914, unodd cwmni Standard gyda'r United National
Collieries Limited. Ym 1904, agorwyd Glofa Lady Lewis gan
Lewis Merthyr Consolidated Collieries Limited, a'i chysylltu
dan ddaear â phyllau eraill y cwmni, Glofeydd yr
Hafod, ymhellach i lawr y cwm.
Chwith: Glofa Lady Lewis tua 1900
Mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly 1906 yn cyfeirio at Ynys-hir
fel tref ar lan afon Rhondda Fach, gyda gorsaf ar gangen
y Rhondda Fach o gwmni rheilffordd Cardiff, Pontypridd
and Merthyr. Ym 1849 y daeth cwmni rheilffordd Taff Vale
i Ynys-hir ac agor gorsaf yno. Ym 1926, roedd yno eglwys
y plwyf (Santes Anne, a godwyd ym 1880) ynghyd â nifer
o gapeli gan gynnwys: Capel i'r Methodistiaid Wesleaidd
(Cymraeg a Saesneg), Capel y Bedyddwyr Saesneg a adeiladwyd
ym 1885 â lle i 350 o bobl, Capel y Bedyddwyr Cymraeg
(1884) â lle i 800 o bobl, a Chapel yr Annibynwyr
Cymraeg (1885) â lle i 800 o bobl.
Uchod: Glofa Jones tua 1905
Fel llawer o bentrefi glofaol y cyfnod, sefydliad y
glowyr oedd canolbwynt bwrlwm cymdeithasol a diwylliannol
Ynys-hir. Agorodd Ynyshir Standard Colliery Workmen's Hall
and Institute ym 1905 ar gost o £8,000. Roedd y Sefydliad
yn cynnwys neuadd â lle i 1,500 o bobl, llyfrgell
ac ystafell ddarllen, pwyllgor darllen, dau fwrdd biliards
a champfa. Rhestrir enwau prif berchnogion tir yr ardal
ar y pryd, sef yr Arglwydd Colum, E. Crichton-Stuart, y
Cyrnol John Picton Turbevill, Priordy Ewenni, Iarll Plymouth,
Theophilus R. Hamlen-Williams ac ymddiriedolwyr Ystad Bailey.
Roedd dwy ysgol elfennol yn y cylch hefyd. Adeiladwyd
ysgol y bechgyn ym 1882 a'i hailwampio ym 1905, a chodwyd
ysgol y merched a'r babanod ym 1903 ar gost o £13,500.