Fel sy'n wir am lawer o bentrefi yn ardal Taf El á i,
y diwydiant glo sy'n gyfrifol am fodolaeth a thwf pentref
y Beddau. Yn ôl cyfrifiad 1861, dim ond ychydig o
ffermydd oedd yno, gan gynnwys Llwyncrwn Uchaf a Gelynog.
Fferm bwysicaf yr ardal oedd Ty'n-y-nant ger Nant Myddlyn.
Roedd Coedwig Tynant gerllaw, lle byddai sgweier Castellau'n
mynd i hela llwynogod. Mae'r rhan fwyaf o ffermydd yn y
cyffiniau yno ers dros dri chan mlynedd.
Mae dau eglurhad
posibl i darddiad yr enw ‘y Beddau'.
Gallai'r pentref fod wedi'i enwi oherwydd pwysigrwydd yr
ardal yn ystod rhyfeloedd rhwng llwythau. Ar y llaw arall,
mae map Arolwg Ordnans 1833 yn dynodi pedwar llwybr trol
a oedd yn cyfarfod mewn lle o'r enw Coesheol y Beddau (Croesffordd
y Beddau). Byddai troseddwyr yn cael eu crogi o goeden
wrth y groesffordd a'u claddu o dan y crocbren.
Chwith: Fferm Cwm a ddaeth yn safle Glofa Cwm yn ddiweddarach
Uchod: Mae'r map
hwn o'r ardal o 1878 yn dangos mai prin oedd tai ym mhentref
y Beddau yn y cyfnod hwnnw
Yn y 1860au y cafodd
pentref y Beddau ei ddatblygu gyntaf. Sefydlwyd nifer o
byllau glo yn y cyffiniau, a'r rhai pwysicaf oedd Ty'n-y-nant
a Gelynog. Daeth y glo yn amryw o'r pyllau hyn i ben yn
gymharol fuan. O ganlyniad i'r datblygiad diwydiannol hwn,
adeiladwyd bythynnod a Swyddfa Bost ar sgwâr y pentref.
Mae cyfrifiad 1871 yn dangos bod y rhan fwyaf o drigolion
y pentref yn lowyr. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, mae
map Arolwg Ordnans 1878 yn dangos bod y pentref hefyd yn
cynnwys Capel y Bedyddwyr Bethania (1867),Tafarn Gelynnog
(1871) ac Ysgol y Beddau (1877). Prifathro cyntaf yr ysgol
oedd Mr Rees Morgan, a ddaeth yn brifathro cyntaf Ysgol
Ramadeg y Bechgyn Pontypridd maes o law. Prin iawn oedd
trafnidiaeth yn y cyfnod hwnnw, a byddai llawer o bobl
yn cerdded i Bontypridd i siopa neu i fwynhau adloniant.
Ni ddatblygwyd y Beddau ymhellach tan 1909. Yn y flwyddyn
honno, torrwyd y dywarchen gyntaf ar safle Glofa Cwm.
Yn ystod y blynyddoedd canlynol, adeiladwyd tai ger y
pwll glo a enwyd yn nes ymlaen yn Commercial Street, Mildred
Street a Parish Road. Ni chafwyd datblygiadau mawr tan
1921 pan gafodd cynghorau lleol yr hawl i ddarparu tai
am y tro cyntaf. Prin ei bod yn syndod i nifer disgyblion
Ysgol y Beddau gynyddu cymaint nes bod rhaid agor ysgol
newydd ym mis Chwefror 1931, sef Ysgol Uwchradd y Beddau.
Gyda'r gymuned yn tyfu'n gyflym, roedd angen trafnidiaeth
ar ei chyfer. Roedd Beddau Halt wedi agor ym 1909 o dan
yr enw World's Ends, ac erbyn yr 1920au roedd gwasanaeth
bws yn gweithredu rhwng y Beddau a Phontypridd.
Chwith:
Roedd un o'r gwasanaethau bws cynharaf yn teithio o'r
Beddau i Bontypridd
Sefydlwyd nifer o addoldai yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Agorwyd yr eglwys
wreiddiol ym mhentref y Beddau ym 1921, ac mae'r adeilad bellach yn Neuadd yr
Eglwys. Eglwys Sant Ioan oedd ei henw gwreiddiol. Cysegrwyd yr eglwys gyfredol
i Sant Mihangel a'r Holl Angylion, ac agorodd ei drysau ym 1936. Fe wnaeth Mount
Pleasant (1924) a Chapel Seion (1921) hefyd gyfrannu at fywyd crefyddol y gymuned.
Agorwyd
amryw o lefydd i ddarparu adloniant i drigolion y Beddau. Agorodd y Welfare
Hall and Institute fis Hydref 1933. Cynhaliwyd cyngherddau, dawnsfeydd a hyd
yn oed ornestau bocsio yno, ond ym 1935 fe gafodd ei throi'n sinema, y Gaiety.
Caeodd y sinema ym 1964 ac mae'r adeilad bellach yn glwb cymdeithasol. Agorodd
Parc Mount Pleasant ym 1938, ond ni chafodd ei gwblhau tan ar ôl
yr Ail Ryfel Byd. Agorodd clinic iechyd ym 1940. Dewiswch bwnc Y Beddau
Glofa Cwm Y Beddau
Glofa Cwm
Dechreuwyd ar gyfnod
o ddatblygu sylweddol yn ardal y Beddau ar ôl i'r
Great Western Colliery Company Limited agor Glofa Cwm ym
1909. Roedd y cwmni wedi'i ymgorffori i agor pyllau yn
ardal Pontypridd er mwyn darparu glo ager i Reilffordd
y Great Western. Gwraig Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Mrs
C.H. James, a gafodd y fraint o dorri'r dywarchen gyntaf.
Ymysg y pwysigion lleol roedd y Fonesig Margaret a'r Fonesig
Mildred Bramwell o Dir Mab Ellis. Cysylltwyd enwau'r ddwy â'r
lofa am byth, am i'r ddau bwll a agorwyd ddod yn fwy adnabyddus
fel Pyllau Margaret a Mildred. Roedd y gwaith o ddatblygu'r
pwll yn dal i fynd rhagddo ym 1913 pan oedd 212 o ddynion
yn cael eu cyflogi. Erbyn 1934 roedd y lofa'n gweithio
i'w llawn botensial, yn cyflogi 100 o ddynion ar y wyneb
a 780 dan ddaear. Daeth Powell
Duffryn Steam Coal Company
yn berchnogion y lofa ym 1928, gan ei gweithio tan i'r
pyllau gael eu gwladoli ym 1947.
Datblygodd Glofa Cwm yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel
byd, ac ar ôl yr Ail Ryfel Byd, roedd cynnydd sylweddol
yn nifer y gweithwyr a'r glo a gynhyrchwyd. Agorodd rheilffordd
danddaearol yn cysylltu Glofa Maritime, Pontypridd â'r
Cwm ym 1931. Ym 1957 agorodd rheilffordd debyg rhwng Cwm
a Glofa Coedely. Yn sgil uno'r ddau bwll hwn, crëwyd
y lofa fwyaf ym maes glo'r de. Erbyn 1960 roedd Glofa Cwm
ar ei hanterth, gan gyflogi 1,470 o ddynion a chynhyrchu
324,794 o dunelli o lo. Agorodd gweithfeydd golosg Cwm
ym 1958. Eu nod oedd canoli a chynnal y gwaith o gynhyrchu
golosg ffowndri ym maes glo'r de. Roedd glo Cwm yn addas
iawn ar gyfer golosg ffowndri oherwydd ei lefelau isel
o sylffwr. Caewyd Glofa Cwm gan Fwrdd Glo Prydain ym 1986,
a chaeodd y gweithfeydd golosg fis Mehefin 2002.