Dengys cofnodion cyfrifiad 1841 nad yw
hanes Pentre'r Eglwys fel cymuned yn ymestyn rhyw lawer
tu hwnt i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Maent yn
dangos mai dim ond cartref saer coed a dau adeilad neu
dy anghyfannedd oedd yn y pentref.
Yn ôl map degwm 1846, roedd yr adeiladau hyn wrth groesffordd ffyrdd Tonteg
i Lantrisant a Llanilltud Faerdref i Efail Isaf. Yn ystod y deng mlynedd nesaf,
cafodd Pentre'r Eglwys ei ddatblygu'n sylweddol, a newidiwyd ei enw hefyd.
Cross Inn yw enw'r pentref ar gyfrifiad 1851, ac arhosodd
felly tan ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r
cyfrifiad hefyd yn dangos bod gan y pentref boblogaeth
o 91 o bobl yn byw mewn 14 cartref, gan gynnwys fiteliwr,
gwniadwraig, cigydd, dilledydd, groser a phrifathro. Yn
arwyddocaol, cofnodir 24 glöwr a 2 gontractwr glo
fel trigolion y pentref. Roedd lefelau a phyllau glo bach
fel Glofa Dyhewid yn dechrau ymddangos yng nghyffiniau'r
pentref. Roedd twf y diwydiant glo lleol yn dechrau cael
effaith ar dwf a datblygiad Cross Inn
Uchod: Y briffordd, Pentre'r Eglwys
Yn ystod y degawd canlynol, sefydlwyd nifer o sefydliadau
crefyddol ac addysgiadol. Cynhaliwyd ysgol yn y stablau
ger fferm Tir Bach ar gyrion y pentref. Yn nes ymlaen,
symudodd yr ysgol i ystafell hir y tu ôl i dy tafarn
y pentref, Tafarn y Groes. Roedd yr ystafell hon hefyd
yn gartref i'r Bedyddwyr Cymreig nes i gapel gael ei adeiladu
ym 1854 tua milltir i ffwrdd yng Ngwaun y Celyn. Tyfodd
poblogaeth Tafarn y Groes yn fwy graddol yn ystod yr 1860au.
Yn ôl cyfrifiad 1861, roedd poblogaeth o 11 o bobl
yn byw mewn 22 cartref.