Nid yw hanes Cilfynydd fel pentref yn ymestyn
y tu hwnt i chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Fel mae map Arolwg Ordnans 1875 yn ei ddangos, pentref
bach o fythynnod oedd Cilfynydd a adeiladwyd ar lan Camlas
Morgannwg, wedi'u hamgylchynu gan ychydig o ffermydd gwasgaredig.
Yn ôl cyfrifiad 1881, roedd tua 100 o bobl yn byw
yn y tai hyn. Newidiodd y sefyllfa'n gyfan gwbl pan ddechreuodd
Albion Steam Coal Company agor pyllau glo ym 1884. Tyfodd
poblogaeth Cilfynydd ar raddfa enfawr. Erbyn 1891 roedd
y boblogaeth wedi tyfu bum gwaith drosodd, ac yn ystod
y degawd nesaf gwelwyd twf ar raddfa fwy. Yn ôl cyfrifiad
1901, tua 3,500 oedd cyfanswm y boblogaeth. Roedd Cilfynydd
wedi newid yn llwyr.
Map Arolwg Ordnans
o 1875
Map Arolwg Ordnans
o 1900
Mae map Arolwg Ordnans 1900 yn wahanol iawn i'r map a luniwyd chwarter canrif
yn gynharach. Mae'n dangos naw teras o dai, wyth ohonynt yn gyfochrog, o'r gogledd
i'r de yn fras, ar ochr y bryn. Mae tai wedi'u hadeiladu ar hyd y ffordd rhwng
Merthyr a Chaerdydd hefyd. Yn ogystal, mae'n dangos pedwar capel, tair tafarn,
ysgol, eglwys, swyddfa bost, neuadd y gweithwyr a Glofa Albion. Adeiladwyd y
mwyafrif o dai ac adeiladau cyhoeddus Cilfynydd rhwng 1884 ac 1910.
Glofa Albion
Uchod: Dynion yn
cerdded i'r gwaith yng Nglofa Albion am 6.30 y bore
Dechreuwyd ar y gwaith yng Nglofa Albion
ym 1884 ar safle Fferm Ynyscaedudwg. Albion Steam Coal
Company oedd y perchnogion, ac agorodd y lofa fis Awst
1887. Cyn bo hir roedd y gwaith yn ffynnu a'r lofa'n cynhyrchu
cyfartaledd wythnosol o 12,000 o dunelli o lo. Dyma'r nifer
mwyaf o dunelli mewn glofa weindio-glo siafft sengl ym
maes glo'r De. Erbyn 1893, roedd 1,500 o ddynion a bechgyn
yn cael eu cyflogi yn yr Albion. Ni fu llawer o ddamweiniau
difrifol yn ystod blynyddoedd cynnar y lofa, ond cafwyd
trychineb fawr brynhawn Sadwrn 23 Mehefin 1894.
Ar y prynhawn tyngedfennol hwnnw roedd y shifft nos wrthi'n
cael gwared â llwch ac yn atgyweirio'r ffyrdd. Am
3.50 p.m. clywyd dau ffrwydriad swnllyd yn syth ar ôl
ei gilydd. Dilynwyd y rhain yn syth gan lwch a mwg o'r
siafft aer ‘downcast' ac yna o'r siafft aer ‘upcast'. Roedd
effeithiau'r danchwa yn arswydus. Lladdwyd 290 o ddynion
a bechgyn, a hon oedd trychineb waethaf maes glo'r de ar
y pryd. Dim ond y ffrwydrad yng Nglofa Universal, Senghenydd
ym 1913 oedd yn waeth na thrychineb Glofa Albion. Ychydig
iawn o lowyr a ddaeth allan o'r pwll yn fyw, a bu farw'r
rhan fwyaf o'r rheiny wedyn o'u hanafiadau. Aed â chyrff
y meirw i lofft wair stablau'r pwll a oedd yn gweithredu
fel marwdy dros dro, ac fe gafwyd golygfeydd torcalonnus
wrth i berthnasau chwilio am aelodau eu teuluoedd yng ngolau
llusern. Roedd llawer o'r cyrff wedi'u hanffurfio'n ddifrifol,
ac roedd angen dychwelyd o leiaf tri ohonyn nhw i'r llofft
wair wedi iddyn nhw gael eu hadnabod yn anghywir. Ychwanegwyd
at y dryswch gan y ffaith nad oedd neb yn gwybod faint
o ddynion oedd dan ddaear yn ystod y ffrwydrad.
Cynhaliwyd cwest y mis canlynol ym Mhontypridd. Buan iawn
y daeth i'r amlwg bod yna wahaniaeth barn ynghylch achos
a lleoliad y ffrwydrad rhwng yr arolygwyr a'r tystion proffesiynol
ar y naill law a pherchnogion y lofa ar y llaw arall. Ar ôl
clywed y dystiolaeth, daeth aelodau'r rheithgor i'r casgliad
bod llwch glo wedi cyflymu ffrwydrad nwy, ond ni allen
nhw gyrraedd cytundeb ar y materion eraill. Penododd y
Llywodraeth fargyfreithiwr o'r enw Mr J Roskill i archwilio'r
dystiolaeth. Cyflwynodd ei adroddiad i'r Ysgrifennydd Cartref
fis Medi 1894. Ym marn Mr Roskill, achoswyd y ffrwydrad
gan broses ffrwydro coed a daniodd groniad nwy a oedd yn
gyfrifol wedyn am danio llwch glo. Roedd y tebygrwydd o
ddamwain yn y pwll wedi cynyddu o ganlyniad i arferion
gwaith peryglus ac anniben. Ymhlith yr arferion hyn oedd
ffrwydro coed yn ystod shifftiau, diffyg defnydd o ddwr
i gael gwared ar lwch a phatrymau shifft newydd ar ddydd
Sadwrn a olygai nad oedd egwyl ar gyfer clirio llwch rhwng
shifftiau. Er i'r adroddiad argymell erlyn Cwmni Glo Albion
a nifer o unigolion penodol, yn y diwedd dim ond y rheolwr
Philip Jones a'r fforman William Anstes a erlynwyd, a derbyniodd
y cyntaf ddirwy o £10 a'r ail £2.
Ail-agorwyd y lofa lai na phythefnos ar ôl y ffrwydrad,
a chyn hir cyflogwyd glowyr newydd yn lle'r rhai a fu farw.
Cynyddodd y gweithlu i 1,735 erbyn 1896, ac i 2,589 erbyn
1908. Yn ystod y blynyddoedd canlynol, cafwyd gostyngiad
cyson yn nifer y dynion a gyflogwyd gan y pwll, ac ym 1928
fe aeth Cwmni Albion Steam Coal yn fethdalwyr. Prynwyd asedau'r
cwmni gan Gwmni Powell Dyffryn Steam Coal, a nhw oedd perchnogion
y lofa tan i'r Bwrdd Glo Cenedlaethol gael ei ffurfio ym
1947. Erbyn hynny roedd y gweithlu ychydig yn llai na 1000.
Erbyn i'r lofa gau ym 1966 roedd y gweithlu bron wedi haneru.
Pan ddaeth cyfnod Glofa Albion fel cyflogwr trigolion Cilfynydd
i ben, roedd y tomennydd yn dal i sefyll yn fygythiol uwchlaw'r
pentref, gyda'r bygythiad o drychineb debyg i Aberfan. Dechreuodd
cynllun dau gam i leihau graddiant serth y domen wastraff
ym 1974, ac fe'i cwblhawyd ddwy flynedd yn ddiweddarach.
Ysgolion a Chapeli Cilfynydd
Mis arwyddocaol yn hanes Cilfynydd oedd
Awst 1887. Yn ogystal â Glofa Albion yn cynhyrchu
glo am y tro cyntaf, agorodd ysgol gyntaf Cilfynydd yn
ystod y mis hwnnw. Tyfodd y pentref mor gyflym o ganol
yr 1880au nes i ysgol gael ei hagor yn festri Capel Annibynwyr
Cymraeg Moriah yn Ann Street. Dechreuodd naw deg pedwar
o ddisgyblion ar 15 Awst a chofrestrwyd un deg tri arall
cyn y penwythnos. Prifathro ac unig athro'r ysgol oedd
Richard Williams, 24 oed o Donyrefail. Roedd yn brifathro
ar yr ysgol tan 1928. Roedd Festri Capel Moriah yn adeilad
bach, ac roedd yn anodd addysgu dros gant o blant mewn
lle mor gyfyng. Parhaodd nifer disgyblion yr ysgol i gynyddu,
ac yn y pen draw symudwyd y plant ieuengach i Gapel Methodistiaid
Calfinaidd Bethel.
Cyfarfu Bwrdd Ysgol Eglwysilan ar 28 Tachwedd 1887, gan gytuno
i brynu erw o dir ar ymyl y ffordd gyferbyn â festri'r
capel. Adeiladwyd ysgol ar gost o £5,320 ar gyfer 630
o blant. Ar 2 Ebrill, agorwyd y tri adeilad unllawr yn swyddogol
gan Alfred Thomas, yr Aelod Seneddol lleol, un adeilad yr un
ar gyfer ‘bechgyn', ‘plant bach' a ‘merched'. Ychwanegwyd llawr
arall at adrannau'r bechgyn a'r merched ym 1889. Saif Ysgol
Gynradd Cilfynydd ar y safle hyd heddiw. Yn ogystal, mae Ysgol
Gyfun Coedylan wedi'i hadeiladu ar safle Glofa Albion.
Yn ogystal â sefydlu ysgol, adeiladwyd nifer o addoldai
yn ystod cyfnod cynnar twf Cilfynydd. Erbyn 1891, roedd Eglwys
Sant Luc a chwe chapel Anghydffurfiol wedi'u hadeiladu. Yn
ogystal â gweinidogaethu ar gyfer anghenion ysbrydol
trigolion Cilfynydd, roedd llawer o fywyd cymdeithasol y pentref yn troi o gwmpas
yr eglwysi a'r capeli. Roedd corau'n gysylltiedig â'r capeli, a bydden
nhw'n cystadlu'n aml mewn eisteddfodau. Roedd yr eisteddfodau hefyd yn cynnwys
cystadlaethau llenyddiaeth, traethodau, barddoniaeth ac adrodd. Byddai pob capel
yn perfformio oratorios ac operâu plant bob blwyddyn.
Er bod cerddoriaeth
yn rhan bwysig iawn o fywydau llawer o bobl, mae'n anhygoel bod pentref Cilfynydd
wedi magu tri cherddor a lwyddodd i berfformio ar rai o lwyfannau enwoca'r byd.
Ganwyd Syr Geraint Evans, Stuart Burrows a Gareth Wood yng Nghilfynydd.
De: Eglwys Fethodistaidd Gynnar
Gareth Wood – Cyfansoddwr a Chanwr Bas Dwbl
Ganwyd Gareth Wood yn Mary Street ar 7 Mehefin 1950
ac amlygodd ddawn gerddorol pan yn ifanc iawn. Dim ond
deuddeg oed ydoedd pan berfformiodd mewn clybiau yng Nghwm
Rhondda fel gitarydd gyda'r grwp pop The Planets. Mynychodd
Ysgol Ramadeg Pontypridd lle dechreuodd ganu'r bas dwbl
a chyfansoddi ar gyfer cerddorfa'r ysgol. Mynychodd yr
Academi Frenhinol a daeth yn aelod o'r Gerddorfa Ffilharmonig
Frenhinol. Mae Gareth Wood wedi mwynhau gyrfa hynod o lwyddiannus
fel cyfansoddwr ac fel un o gerddorion preswyl gorau'r
gerddorfa adnabyddus.
Adeiladwyd capeli Cilfynydd yn yr un cyfnod ac o dan amgylchiadau
cymharol debyg. Ar y dechrau, cynhaliodd rhai capeli eu
cyfarfodydd gweddi yng nghartrefi eu haelodau. Buan iawn
y darganfu sylfaenwyr Eglwys Fethodistaidd Gynnar Howell
Street nad oedd eu cartrefi'n ddigon mawr ar gyfer pawb
oedd am fynychu. Cynhaliwyd cyfarfodydd gweddi mewn llofft
popty ar waelod Richard Street cyn i'r capel gael ei adeiladu
ym 1890.
Chwith: Capel Beulah y Bedyddwyr Seisnig
Sefydlwyd capeli eraill fel canghennau
capeli sefydledig Pontypridd. Dechreuodd Capel Annibynwyr
Cymraeg Moriah fel cangen o Gapel Seion, Pontypridd. Ym
1887 rhoddodd y capel gymorth i aelodau a oedd yn byw yng
Nghilfynydd i adeiladu festri er mwyn cynnal eu gwasanaethau
eu hunain. Adeiladwyd Rehoboth fel cangen o Gapel Tabernacl,
Pontypridd. Adeiladwyd y festri ym 1888 ac agorodd y capel
ym 1889. Capel Beulah y Bedyddwyr ac Eglwys Sant Luc yw'r
unig addoldai sy'n dal i fod ar agor yng Nghilfynydd heddiw.
Mae mwyafrif y capeli eraill wedi'u dymchwel.
Yn yr un modd ag eglwys a chapeli'r pentref, roedd Neuadd
y Gweithwyr Cilfynydd yn fan cyfarfod a chanolfan gymdeithasol
bwysig. Fe'i hadeiladwyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg
gyda thanysgrifiadau gan lowyr lleol. Roedd yn cynnwys ystafelloedd
darllen a llyfrgell, a'r glowyr eu hunain oedd yn gyfrifol
am ei chynnal a'i chadw. Cafwyd tanysgrifiad blynyddol gan
y cyngor hefyd er mwyn sicrhau bod yr ystafelloedd darllen
ar gael i holl drigolion Cilfynydd. Roedd tafarndai'n ganolfannau
cymdeithasol hefyd. Adeiladwyd tair ar hyd y brif ffordd,
gan ychwanegu at y Cilfynydd Inn, oedd wedi'i hen sefydlu.
Trafnidiaeth Cilfynydd
Adeiladwyd y Cilfynydd Inn ddechrau'r bedwaredd ganrif
ar bymtheg. Roedd mewn lleoliad cyfleus gerllaw'r ffordd
a'r gamlas, gan ddarparu stablau dros nos i geffylau a dynnai
goetsis neu gychod camlas. Agorodd y Glamorganshire Canal
ym 1794, gan gysylltu Merthyr a Chaerdydd gan basio ochr orllewinol y pentref.
Roedd y gamlas yn mynd yn ei blaen wedyn i
Chwareli Bodwenarth lle y llwythid cychod camlas â cherrig. Fodd bynnag,
daeth cyfnod y gamlas i ben yn sgil dyfodiad y rheilffordd. Caewyd y darn rhwng
Abercynon a Chilfynydd ym 1915 a'r darn rhwng Cilfynydd a Chaerdydd ym 1942.
Roedd modd dilyn llwybr y gamlas nes i ffordd yr A470 gael ei hadeiladu ddechrau'r
1970au.
Agorodd Rheilffordd Taff Vale oedd yn cysylltu Merthyr â Chaerdydd ym 1841.
Nid oedd y rheilffordd yn mynd drwy Gilfynydd oherwydd bod y llinell yn rhedeg
ar hyd ochr arall Cwm Taf. Pan agorodd Glofa Albion, roedd angen i'r pentref
ddatblygu cysylltiadau rheilffordd er mwyn cludo glo a phobl. O ganlyniad, adeiladwyd
llinell leol yn gadael y brif linell ychydig i'r gogledd o Goedpenmaen, yn croesi'r
Afon Taf dros draphont haearn ac yn rhedeg ar lan y Glamorganshire Canal i Lofa
Albion.
Chwith: Y Glamorgan Canal yn cael ei defnyddio at ddibenion
hamdden
Adeiladwyd y draphont ym 1885 ac mae'n
dal i sefyll heddiw. Adeiladwyd gorsaf Cilfynydd a dechreuwyd
cludo teithwyr fis Mehefin 1900. Ychydig dros ddeng mlynedd
ar hugain yn ddiweddarach, ar Fedi 12 1932, rhoddwyd terfyn
ar gludo teithwyr a chaewyd y llinell, ac yna chwalwyd
yr orsaf.
Roedd oes y gwasanaeth tramiau yn debyg iawn i oes y rheilffordd i deithwyr yng
Nghilfynydd. Dechreuodd y gwasanaeth ar 6 Mawrth 1905, gan redeg o Gilfynydd
trwy Bontypridd i Drefforest. Parhaodd am 25 mlynedd cyn i fysiau troli gymryd
ei le ar 18 Medi 1930
Uchod: Pont Berw ger Cilfynydd
Seiclon Cilfynydd 1913
Daeth digwyddiad dinistriol arall i ran Cilfynydd ar
27 Hydref 1913. Gwibiodd seiclon drwy'r pentref, gan achosi
difrod mawr a lladd un o'r trigolion. Ar Richard Street,
dinistriwyd tu blaen bron bob siop, a gwasgarwyd y nwyddau
ar hyd y stryd. Chwythwyd tô haearn rhychiog y Co-operation
Stores ymaith yn gyfan gwbl, a dinistriwyd toeau dau dy yn
Park Place.
Chwith; Difrod i siopau Richard Street
Chwythwyd adeiladau pren yr Orsaf Dân ger Glofa Albion i'r gamlas a dinistriwyd
yr orsaf aros ar derfyn llwybr y tramiau. Torrwyd gwifrau'r tramiau a'r gwifrau
ffôn. Malwyd ffenestri yng Ngorsaf yr Heddlu, a difrodwyd sawl addoldy
yn ddifrifol. Bu'n rhaid i aelodau Capel Moriah dalu £130 i atgyweirio'r
adeilad. Cafodd Treharris ac Abercynon eu difrodi'n ddifrifol hefyd.