Pentref sy'n datblygu'n gyson yw Llanhari yng ngogledd
Bro Morgannwg, bedair milltir i'r gogledd o'r Bont-faen.
Mae mwyngloddio haearn wedi bod yn bwysig i'r pentref ers
canrifoedd, ac yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid, oes Elisabeth
ac am gyfnod yn yr ugeinfed ganrif, yno yr oedd unig bwll
haearn Cymru.
Fodd bynnag, mae plac bach ar wal ger tafarn
y Fox and Hounds yn ein hatgoffa nad mwyngloddwyr oedd
yr ymwelwyr cyntaf â'r
ardal, ond llwyth rhannol- grwydrol o'r Oes Efydd o'r enw
Pobl y Biceri. Codwyd y plac yn y 1960au gan Gyngor y Plwyf
yn dilyn pwysau gan yr ysgol gynradd leol. Mae'n coff á u
darganfyddiad ysgerbwd dyn tua 35 oed, 5tr. 9 mod. a llestr
bicer 8 modfedd ym 1929. Mae gan y llestr gynllun trawiadol
a gwneuthuriad cain a defnyddir llun ohono'n aml heddiw mewn
llyfrau pwysig am y cyfnod. Daethpwyd o hyd i'r Dyn Bicer
yn gorwedd ar ei ochr dde, gyda'i ben yn wynebu'r gogledd
a'i ben-gliniau o dan ei ên. Glanhawyd yr ysgerbwd
gan y diweddar Mrs. Eliza Johns ar fwrdd yn ei bwthyn cyfagos,
cyn cael ei symud gyda'r llestr i Amgueddfa Genedlaethol
Cymru.
Uchod: Gwaith cloddio ar safle Claddu Pobl y Biceri yng
Ngwinllan Naboth, 1929. Daethpwyd o hyd i'r safle wrth
adeiladu'r ffordd rhwng Llanharan a Llanhari.
I'r gogledd o'r pentref ger Ystâd Trecastell,
daethpwyd o hyd i dystiolaeth o waith mwyn haearn Rhufeinig
neu Rufeinig-Brydeinig. Llwyddodd y mwynau cyfoethog ger
y wyneb i ddenu mewnddyfodiaid o dai moethus y Fro ac o
anheddiad Rhufeinig y Bont-faen. Mae'n ymddangos i'r gwaith
mwyngloddio haearn gael ei wneud mewn siafftau bas dros
ardal eang i gyfeiriad Meisgyn a Mwyndy, ond daeth y dystiolaeth
orau o Lanhari i'r amlwg ym 1967 pan ddaethpwyd o hyd i
damaid o grochan Rhufeinig o'r drydedd ganrif yn "Redlands
House". Ychydig flynyddoedd yn ôl canfuwyd rhai
ceiniogau Rhufeinig yn yr un ardal hefyd.
Chwith: Pwll Llanhari yn yr 1960au cyn iddo gau ym 1975
Llun trwy garedigrwydd Paul Thomas
Eglwys Illtud Sant
Eglwys Illtud Sant Llanhari (Mae David J Francis, awdur
y dudalen hon, i'w weld yn y llun)
Saif Eglwys Illtud Sant yng nghanol y pentref. Fe'i hail-adeiladwyd ym 1867-8,
ond mae'n bosibl i'r anheddiad Cristnogol cyntaf dyfu o amgylch eglwys bren
yn ystod Oes y Seintiau. Does wybod ai Illtud Sant, neu un o'i ddilynwyr, sefydlodd
yr eglwys yn ail hanner y bumed ganrif, neu i'r eglwys gael ei sefydlu yn y
ddeuddegfed ganrif. Yr hyn sy'n hysbys i ni yw bod enw'r eglwys a'r enwau 'Llanhari'
a 'Llanharry" yn dechrau ymddangos ar ddogfennau ar ôl y dyddiad
diweddarach hwn a thrwy'r Oesoedd Canol. Does neb yn gwybod beth yw ystyr Llanhari,
(doedd yna ddim Sant Harri), ond mae'n bosibl mai ‘Llanhari' yw'r ffurf Gymraeg
gywir, a dyna sy'n ymddangos yng ngwaith y beirdd Cymraeg yn yr unfed ganrif
ar bymtheg. Cafodd y Diwygiad a'r Rhyfel Cartref effaith ar yr eglwys ei hun.
Yn ystod teyrnasiad Edward VI, cafodd llawer o eiddo'r eglwys ei atafaelu gan
Brotestaniaid eithafol, ac yn ystod cyfnod Oliver Cromwell, cafodd y Rheithor
Edmond Gamage ei droi allan o'i gartref ym 1649, gan ddioddef cryn galedi ariannol
nes i'r frenhiniaeth gael ei hadfer ym 1660. Mae mwy o wybodaeth am yr hen eglwys
a'r adeilad Fictoraidd a gymerodd ei lle ar gael ar wefan yr eglwys. Mae'r wefan
yn cynnwys gwybodaeth bensaern ï ol a hanesyddol.
Llanhari – hen dafarndai
Fel llawer o hen bentrefi, mae yna dafarn gerllaw'r
eglwys yn Llanhari. Mae hanes diddorol iawn yn perthyn
i'r Bear Inn. Defnyddiwyd y lle fel ysgol yn y bedwaredd
ganrif ar bymtheg, a byddai'r plant yn cael eu dysgu gan
athro 80 oed a oedd yn ddisgyblwr llym. Roedd yn gartref
i Gymdeithas Gyfeillgar a oedd yn dyddio'n ôl i Ryfeloedd
Napoleon, ac ar un adeg roedd yn Ysgol Nos Fictoraidd ar
gyfer glowyr a gweithwyr haearn.
Dde: The Bear Inn, Llanhari 2004 ac (isod) - hen ran y Bear
a ddefnyddiwyd fel ysgol ar un adeg
Ganllath neu ddau ar hyd y ffordd i gyfeiriad Llanharan
saif "The Fox and Hounds", adeilad sy'n perthyn
i Oes y Tuduriaid sydd wedi'i ymestyn yn sylweddol yn ddiweddar.
Roedd yna dair tafarn arall yn y plwyf yn ystod y bedwaredd
ganrif ar bymtheg, sef "The Colliers Arms", "The
Gronow" a "The Boars Head" yn Nhylagarw.
Enwyd y ddwy olaf ar ôl arglwyddi maenordai Llanhari
a Threcastell. Ers 1959, mae Clwb y Gweithwyr wedi agor
yng nghanol stad fawr o dai, gan ddatblygu'n ganolfan gymdeithasol
a hamdden ffyniannus yn y pentref. Caeodd y tafarndai Fictoraidd, "The
Colliers Arms" a "The Gronow" yn y 1920au.
Chwith: The Fox and Hounds, Llanhari 2004
Mae ysgolion wedi'u cynnal mewn amryw o adeiladau gwahanol yn y pentref dros
y blynyddoedd. Cynhaliwyd Ysgolion Cylchynol Griffith Jones yn yr eglwys a'r
hen reithordy yn y ddeunawfed ganrif. Sefydlwyd yr Ysgol Sul gyntaf a Chapel
Anghydffurfwyr pwysig ychydig y tu allan i Lanhari ar y ffordd i'r Bont-faen
yn yr 1820au, yn rhannol oherwydd bod grwp o fechgyn wedi bod yn chwarae pêl-droed
ar y Sabath. Nid yn unig y perswadiodd y Parch. Shadrach Davies y bechgyn i
roi'r gorau i'w chwaraeon “annuwiol” a mynychu'r Ysgol Sul, ond mae'n debyg
iddo fynd ati ei hun i adeiladu Capel Peniel. Ar ôl i'r Bear Inn gau ym
1870, roedd plant Llanhari yn gorfod cerdded i'r Ysgol Genedlaethol yn Llansannor
ym mhob tywydd. Mae'n dal i fod mor boblogaidd ag erioed. Erbyn 1913 roedd Ysgol
y Cyngor wedi'i hadeiladu yn Llanhari ger Capel Peniel. Goroesodd yr adeilad
blêr hwn, lle'r oedd yr inc yn rhewi yn y gaeaf, tan 1935 pan adeiladwyd
Ysgol Gynradd fodern ar yr un safle. Agorodd Ysgol Uwchradd Fodern Llanhari
gyferbyn â'r Ysgol Gynradd ym 1959, gan droi'n Ysgol Gyfun Llanhari yn
ddiweddarach.
Profodd Llanhari chwyldro diwydiannol bach tua chanol
yr Oes Fictoraidd gyda mwyngloddio glo a Distyllfa ar Ddôl
Llanhari a mwyngloddio haearn ar safle presennol Tai Patch.
Ond ni chafwyd twf sylweddol o ran y boblogaeth, gwaith
a thai tan ddechrau'r ugeinfed ganrif pan agorwyd Pwll
Mwyn Haearn Hematit Llanhari ger Fferm Llechau. Adeiladwyd
tai cyngor yn Addison a Thylacoch yn y 1920au, ac aed ati
i adeiladu rhagor ar ôl y Rhyfel yn Aelfryn a Gelli,
ac ar stad fawr ym Mhantgwyn yn y 1950au. Gydol y cyfnod
hwn, y Pwll Haearn oedd prif gyflogwr yr ardal, ac roedd
yn ergyd drom pan gaeodd ym 1975.
Er i nifer o amwynderau cyhoeddus fel siopau newydd, meddygfeydd,
canolfan gymunedol, parciau a meysydd chwarae gael eu hadeiladu
cyn i'r pwll gau, cafwyd cryn galedi economaidd yn yr 1980au
a'r 1990au. Fodd bynnag, mae dyfodiad yr M4, twf datblygiadau
tai preifat, lleoliad y pentref gerllaw Caerdydd a'r Fro,
un o ardaloedd mwyaf ffyniannus Cymru, a'r tebygolrwydd o
agor Stiwdio Ffilm arobryn yn Llanilid yn argoeli'n dda i
bentref sydd wedi colli ei enaid haearn.