Mae map degwm 1841 a'r atodlenni'n dangos Meisgyn fel
pentref bach tua dwy filltir i'r de o Lantrisant ar lan
yr Afon El á i. Roedd yn cynnwys ffermdy New Mill,
bwthyn ac ysgubor a bwthyn a gefail, bob un yn perthyn
i Fferm New Mill.
O gymharu'r map â map Arolwg Ordnans 1875, gwelwn
fod map y degwm hefyd yn dangos melin a bwthyn ar safle
presennol y Miskin Arms. Mae cyfrifiad 1841 yn nodi poblogaeth
o 31 mewn pum cartref, gan gynnwys ffermwr, melinydd, siopwr,
gwniadwraig, crydd a labrwr. Nodir mai ‘New Mill' oedd
enw'r pentref bach.
Erbyn cyfrifiad 1861 roedd New Mill wedi tyfu'n bentref.
Roedd ei boblogaeth wedi cynyddu i 83 mewn 17 cartref.
Yn ogystal â'r ffermwr, y melinydd, y crydd a'r labrwr,
roedd yna 17 o fwyngloddwyr haearn yn byw yn y pentref
hefyd. Mae'n amlwg, felly, fod agor gweithfeydd mwyn haearn
Bute a Mwyndy yn ystod y 1850au wedi cael effaith drawiadol
a pharhaol ar ddatblygiad New Mill. Gweithiwyd y gweithfeydd
mwyn haearn fel chwareli brig yn ystod datblygiad cynnar
y diwydiant.
Dde: Map Meisgyn 1874/1876
Fodd bynnag, erbyn diwedd y 1860au, roedd siafftau'n
cael eu hagor, a bu newid yn natur y gweithlu o chwarelwyr
a labrwyr i fwynwyr crefftus. Mae map Arolwg Ordnans 1875
yn dangos sawl gwaith mwyngloddio haearn i'r gogledd o'r
pentref. Cyflogwyd nifer o gloddwyr o Gernyw, ac roedd
llawer o'r rhain wedi colli eu swyddi yn dilyn cwymp y
diwydiant mwyngloddio copr ym 1866. Mae cyfrifiad 1871
yn nodi bod dros hanner mwynwyr haearn New Mill wedi symud
o Gernyw, gan godi poblogaeth y pentref i 144.