Yn ôl cyfrifiad 1841, roedd tua 300 o bobl yn
byw ym mhentref Nantgarw a'r cyffiniau, ac roedd llawer
ohonynt yn gweithio ar y Glamorganshire Canal. Yn wir,
oni bai am y gamlas mae'n debyg na fyddai Nantgarw wedi
bodoli o gwbl. Mae'r cyfrifiad yn dangos bod 34 o drigolion
y pentref yn gweithio fel cychwyr, 16 fel labrwyr amaethyddol,
15 fel gwneuthurwyr pibellau tybaco clai yng Nghrochendy
Nantgarw, a dim ond 11 fel glowyr.
Dde: Golygfa gyffredinol o Nantgarw tua 1900
Fodd bynnag, ugain mlynedd yn ddiweddarach mae cyfrifiad
1861 yn dangos bod poblogaeth y pentref wedi cynyddu i
tua 500, tra bod nifer y cychwyr a'r glowyr wedi disgyn.
Roedd y gostyngiad hwn i'w ddisgwyl o ystyried twf y Taff
Vale Railway ar draul y gamlas, a bod cloddfeydd drifft
wedi agor yn y cwm. Mae map Arolwg Ordnans 1875 yn dangos
lleoliad pentref Nantgarw rhwng dwy sianel ddwr, yr Afon
Taf i'r gorllewin a'r Glamorganshire Canal i'r dwyrain.
O gymharu'r map hwn â map arolwg ordnans a gyhoeddwyd
bron i hanner canrif yn ddiweddarach ym 1919, does fawr
ddim wedi newid. Roedd yn anodd datblygu'r pentref oherwydd
y ddwy sianel ddwr, ond yn bwysicach na hynny, ni chafodd
yr un pwll glo mawr ei agor nes i Lofa Nantgarw agor ym
1911. O ganlyniad, ychydig o newid a fu ym mhoblogaeth
y pentref yn ystod chwarter olaf y bedwaredd ganrif ar
bymtheg.
Parhaodd y broses hon o ddiffyg datblygu ym mhentref
Nantgarw hyd at yr Ail Ryfel Byd. Ar ôl y rhyfel
aed ati i ddatblygu Glofa Nantgarw ar raddfa fawr, ac agorodd
ffwrn glo golosg a ffatri sgil-gynhyrchion ym 1951. Adeiladwyd
pentref bach newydd ar lechwedd y tu ôl i'r lofa
yn ystod yr un cyfnod. Ym 1969 dinistriwyd yr hen bentref
pan adeiladwyd ffordd yr A470, ac erbyn heddiw mae yna
gylchfan fawr lle safai'r pentref.
Chwith: dechrau'r gwaith o agor Glofa Nantgarw ym 1910
Crochenwaith Nantgarw
Mae Crochenwaith Nantgarw
yn enwog am y porslen artiffisial hardd a wnaed yno bron
i ddwy ganrif yn ôl, ac sy'n dal yn hynod o boblogaidd
gyda chasglwyr heddiw. Dechreuwyd cynhyrchu crochenwaith
yn Nantgarw pan ddaeth William Billingsley a'i fab yng
nghyfraith, Samuel Walker, i Nantgarw ym 1813. Mae'n bosibl
iddynt gynnal trafodaethau yn y dirgel gyda'r gwr busnes
William Weston Young, ac iddo ef fynd ati i godi dwy odyn
danio a'r adeiladau angenrheidiol i'r dwyrain o'r Glamorganshire
Canal ychydig cyn i'r crochenwyr gyrraedd. Diolch i'r gamlas
roedd modd dod â chaolin i'r gwaith a chludo porslen
i Gaerdydd i'w gludo ar long i Lundain. Roedd cyflenwad
digonol o danwydd hefyd ar gael yn lleol. Ar ben hynny,
gan fod Nantgarw yn ardal gymharol anghysbell, roedd modd
cuddio sgiliau arbenigol gwaith cynhyrchu porslen rhag
cystadleuwyr.
Cyfalaf o £250 yn unig a ddefnyddiwyd
i agor y crochendy, a wynebodd broblemau ariannol o'r cychwyn
cyntaf. Roedd angen tymheredd uchel i gynhyrchu darnau
perffaith, ac oherwydd hynny roedd dull past meddal Billingsley
yn anodd iawn ei danio. Ar adegau, difethwyd 90% o'r cynnyrch
yn ystod y broses danio, gan ddod allan o'r odyn wedi'i
ddifrodi gormod i'w ddefnyddio. Yn sgil y colledion hyn,
doedd dim syndod i Billingsley a Walker ddechrau cael problemau
ariannol cyn pen dim. Gwellodd y sefyllfa am gyfnod yn
sgil benthyciad o £600 gan Weston Young, ond gwariwyd
yr holl arian heb lwyddiant masnachol. Fis Medi 1814 aeth
Billingsley a Walker ati i geisio cael cymorth ariannol
gan y Bwrdd Masnach.
Gofynnwyd i Lewis Weston Dillwyn o Grochendy Cambrian Abertawe ymweld â Nantgarw
er mwyn adrodd ar y mater. Methodd y Bwrdd Masnach â chynnig cymorth,
a chaeodd y gwaith yn Nantgarw yn fuan wedyn.
Penderfynodd Dillwyn wahodd y ddau grochenydd i ymuno
ag ef yn Abertawe. Aethant ati i gynhyrchu porslen trwy
ddefnyddio mowldiau ac offer Nantgarw, gan barhau i ddefnyddio
marc Nantgarw ar y darnau. Dyma'r tro cyntaf i borslen
gael ei gynhyrchu yn Abertawe. Arhosodd Billingsley a Walker
yn Abertawe cyn dychwelyd i Nantgarw ym 1817. Er i ansawdd
a dyluniad y porslen wella, roedd llawer o'r cynnyrch yn
dal i gael ei wastraffu yn y broses danio. Er bod galw
mawr am y porslen gan gasglwyr o Lundain, buan iawn y daeth
arian y busnes i ben, a gadawodd Billingsley a Walker Nantgarw
ym 1819.
Ym 1821 llwyddodd Young i berswadio Thomas Pardoe
adael Bryste a dod yn rheolwr yn Nantgarw gan gynorthwyo
gyda'r gwaith o addurno'r porslen. Buan iawn y daeth yn
amlwg na fyddai'r fenter yn llwyddo. Fis Hydref 1822 gwerthwyd
yr offer a'r holl stoc mewn arwerthiant cyhoeddus, a chyda
hynny daeth y gwaith o gynhyrchu porslen enwog Nantgarw
i ben. Ym 1833 prynwyd Crochendy Nantgarw gan William Pardoe,
mab Thomas Pardoe, a dechreuodd gynhyrchu llestri pridd
a llestri caled â sglein.
Fe aeth ati i gynhyrchu pibellau tybaco clai, gan allforio
llawer ohonynt i Iwerddon.
Mae rhai o drigolion presennol Nantgarw yn cofio mynd
i'r crochendy yn blant er mwyn prynu pibellau i'w defnyddio
i chwythu swigod. Roedd pibellau â choesau wedi'u
torri ar werth am ddimai. Yn dilyn marwolaeth Thomas ym
1867, penderfynodd nifer o'i feibion barhau â'r busnes
dan yr enw Pardoe Bros. Fodd bynnag, arweiniodd y cynnydd
mewn ysmygu sigaréts a dyfodiad nwyddau metel rhatach
ar ddechrau'r ugeinfed ganrif at dranc y busnes, a chaeodd
y crochendy yn Nantgarw am y tro olaf ym 1921.
Dros y saith
deg mlynedd nesaf, tyfodd coed a drysni i guddio'r odynau
a'r bwthyn. A dyna fu eu hanes tan 1991 pan gliriwyd y
safle gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent,
gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Taf Elái. Agorwyd
canolfan arddangos ar y safle y flwyddyn ganlynol.
Glofa Nantgarw
Glofa Nantgarw oedd un o lofeydd mwyaf Taf El á i yn ystod yr ugeinfed
ganrif. Agorwyd y lofa gan Thomas Taylor o Bontypridd fis Mai 1910, ac roedd
y ddwy siafft yn cyrraedd yr wyth ï en ar ddyfnder o dros 850 llath – y
pyllau dyfnaf ym maes glo'r De hyd at y cyfnod hwnnw. Erbyn 1924 roedd y lofa
yn cyflogi 850 o ddynion, ac fe'i gwerthwyd i'r Taff Rhondda Navigation Steam
Coal Co. Cafodd y cwmni lawer o broblemau daearegol wrth weithio'r lofa, a phenderfynwyd
rhoi'r gorau iddi ym 1927. Roedd yn segur am gyfnod wedyn nes iddi gael ei phrynu
gan y Powell Duffryn Steam Coal Co Ltd. Cafwyd sawl ymgais arall i weithio'r
pwll, cyn iddi gael ei rhoi mewn sefyllfa ‘gofal a chynnal a chadw'.
Ym 1937, lluniodd Powell Duffryn gynllun datblygu i ailddechrau
gweithio Glofa Nantgarw, ond ni ellid ei weithredu oherwydd
y rhyfel. Atgyfodwyd y cynllun ym 1946, ac ar ôl
i'r pyllau gael eu gwladoli ym 1947, fe'i rhoddwyd ar waith
gan y Bwrdd Glo. Yn wir, hwn oedd prosiect mawr cyntaf
Is-adran y De-orllewin, a buddsoddwyd £5 miliwn er
mwyn creu adeiladau modern ar wyneb y pwll a dulliau mwyngloddio
modern. Agorwyd ffyrnau glo golosg newydd ym 1951, ac roedd
y lofa yn cynhyrchu glo erbyn y flwyddyn ganlynol. Llwyddwyd
i gynhyrchu glo rhwng 1952 ac 1974. Ar ôl hynny,
unodd Glofa Nantgarw a Glofa Windsor Abertridwr yn uned
gynhyrchu sengl. Llwyddodd y lofa i ymdopi ag effeithiau
streic y glowyr ym 1984/5, ond fel nifer o byllau glo eraill,
fe'i caewyd fel rhan o bolisi'r llywodraeth fis Tachwedd
1986.
Safai Glofa Craig yr Allt i'r de o bentref Nantgarw,
a hwn oedd un o byllau glo cyntaf yr ardal. Byddai dwr
o'r Afon Taf yn aml yn llifo i'r lofa adeg llifogydd, ac
fe'i caewyd ym 1878.
Crefydd ac Addysg
Fel sy'n wir am nifer o addoldai Taf El á i, defnyddiwyd
Eglwys y Santes Fair Nantgarw fel ysgol yn wreiddiol. Rhoddwyd
darn o dir i Archddiacon Llandaf gan Henry Williams, sgweier
Ystâd Dyffryn Ffrwd, ac adeiladwyd ysgol ym 1845.
Ficer Eglwysilan oedd yn gyfrifol am addysg grefyddol yn
yr ysgol, ac roedd modd defnyddio'r adeilad ar gyfer addoli
cyhoeddus hefyd. Erbyn 1875 roedd yr ysgol wedi cau a'r
adeilad yn cael ei ddefnyddio fel eglwys yn unig. Adnewyddwyd
yr eglwys yn ystod y 1890au, ac mae llawer o'r clod am
hynny'n mynd i Mrs Evan Williams, merch yng nghyfraith
Henry Williams. Arferai gynnal Ysgol Sul yn Nyffryn Ffrwd
yn ogystal â ffair sborion. Fodd bynnag, o'r 1920au
ymlaen roedd gan yr eglwys nifer o ddyledion, nifer llai
o addolwyr a diffyg cymorth gan glerigwyr. Ar ben hynny,
yn sgil y gwaith o adeiladu ffordd newydd yr A470, dinistriwyd
yr hen bentref a gwahanwyd yr eglwys oddi wrth y boblogaeth.
Caeodd Eglwys y Santes Fair ym 1983, gan ddod yn anedd-dy.
Ymunodd y gynulleidfa ag Eglwys Sant Iago, Ffynnon Taf,
ac ail-enwyd yr eglwys yn Eglwys y Santes Fair a Sant Iago.
Lleolwyd Capel Cymraeg yr Annibynwyr yng nghanol yr hen
bentref. Codwyd yr adeilad gwreiddiol ym 1825, ond fe'i
hail-adeiladwyd yn ddiweddarach. Codwyd Neuadd Efengylaidd
Nantgarw tua diwedd y 1920au gyda deunyddiau ail-law. Mae'r
neuadd yn dal i sefyll hyd heddiw, ac yn sgil dymchwel
Capel Nantgarw adeg adeiladu ffordd yr A470, dyma addoldy
olaf y pentref, ac felly mae'r aelodau'n awyddus i'w heglwys
barhau i wasanaethu Nantgarw.
Agorodd Ysgol Plant Bach Nantgarw ar 11 Mawrth 1907 gyda
55 o blant ar y gofrestr. Fe'i dinistriwyd gan dân
fis Ebrill 1933 a symudwyd y plant dros dro i Neuadd Biliards
Wheeler wrth i'r ysgol gael ei hail-adeiladu. Ail-agorodd
yr ysgol mwy neu lai yn ei ffurf bresennol ar 2 Medi 1935.
Adeiladwyd estyniad yn cynnwys toiledau, cegin fach a swyddfa
i'r pennaeth ym 1979. Mae nifer y plant sy'n mynd i'r ysgol
heddiw yn debyg iawn i'r nifer a'i mynychodd adeg ei sefydlu
bron i ganrif yn ôl.