Nid oes cofnod o'r enw Saesneg ‘Taffs Well' ar ddogfennau
hanesyddol cyn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Ni roddwyd
yr enw ar y pentref tan ddechrau'r bedwaredd ganrif ar
bymtheg gan nad oedd yn bodoli cyn hynny – yn hytrach,
dyma enw ffynnon dwr cynnes hynafol a ffermydd rhent ar
lan afon Taf. Ni wyddom pryd y cafodd y pentref presennol
ei enwi'n Taffs Well. Er hynny, defnyddiwyd yr enw ar orsaf
reilffordd Taff Vale a agorwyd ym 1840. Mae hefyd yn ymddangos
yng nghyfrifiad 1841.
Dde: Llun yn dangos cwt yn gorchuddio'r
ffynnon dwr cynnes
Yn ôl cyfrifiad
1841, roedd tua 300 o bobl yn byw yn Ffynnon Taf, traean
ohonynt mewn ardal o'r enw ‘Walnut Tree' yn ne'r pentref.
Nodwedd hynod o'r cofnodion hyn yw swyddi amrywiol y trigolion
- gan gynnwys ffermwyr, tafarnwyr, hetwyr, perchnogion
siopau, cigydd a heddwas. Y Glamorganshire Canal oedd ffynhonnell
gwaith mwya'r pentref. Yn ogystal â rhoi gwaith i
gychwyr a cheidwaid lociau, roedd hefyd o bosib yn bwysig
i seiri coed, torwyr coed a gofaint y pentref.
Mae map degwm 1841 a'r cofrestri ar gyfer plwyf Eglwysilan
yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol arall am hanes cynnar
Ffynnon Taf a'r cylch. Gwelir dwy bont yn ne'r pentref,
un yn croesi Camlas Morgannwg a'r llall yn croesi rheilffordd
y Taff Vale. Uwchben y pontydd hyn mae caeau fferm Portobello,
rhai ohonynt wedi'u rhannu'n ddiweddar gan y lein reilffordd.
Mae fferm Taffs Well i'w gweld ar y map hefyd.
Chwith: Glamorgan Canal, Ffynnon Taf
Mae caeau'r fferm yn ymestyn i'r dwyrain
o afon Taf, gan groesi'r gamlas a'r rheilffordd. Roedd
y fferm ar safle fflatiau Ty Bryncoch heddiw. Mae'r ffynnon
wedi'i nodi'n glir, ond heb ei henwi, mewn cae o'r enw
Cae Ffynnon. Yn union uwchben y cae hwn mae fferm o'r enw
Tir Ffynnon Taf. Er bod yr adeilad yno hyd heddiw, mae'r
pedwar cae a fu unwaith yn rhan o'r fferm yn gartref i
Ysgol Gynradd Ffynnon Taf a'i chaeau chwarae bellach. Achoswyd
sawl penbleth gan fod enwau'r ddau le mor debyg i'w gilydd.
Roedd poblogaeth Ffynnon Taf wedi mwy na dyblu mewn deugain
mlynedd, yn ôl cyfrifiad 1881. Er bod y cyfrifiad yn
dangos bod nifer helaeth o'r trigolion yn berchnogion siopau
o hyd, roedd y mwyafrif bellach yn ennill eu bara menyn yng
ngweithfeydd haearn Pentyrch a'r Garth a oedd o boptu'r afon,
neu yng nglofeydd Bryncoch a Rockwood ar gyrion y pentref.
Yn sgil hyn, codwyd ysgolion ac addoldai yn y pentref. Agorodd
Ysgol Genedlaethol o'r enw'r Walnut Tree Bridge School ym
1869. Mae'r adeilad i'w weld hyd heddiw, sef Eglwys St James
yn Church Street. Hefyd, cynhaliwyd Ysgol Brydeinig yn un
o gapeli'r pentref, ac roedd ysgol elusennol i ferched drws
nesaf i dafarn y Taffs Well Inn. Ar ôl sefydlu Bwrdd
Ysgol Eglwysilan ym 1871, dechreuwyd ysgol bwrdd yng nghanol
y 1870au – gan ddefnyddio adeilad yr hen Ysgol Brydeinig
fwy na thebyg – tan i'r ysgol newydd sbon agor ei drysau
ar 6 Ionawr 1879. Dyma ysgol y pentref hyd heddiw, a dathlodd
ei phen-blwydd yn 125 oed yn ddiweddar.
Hanes y ffynnon
Mae'r ffynnon hon ar
lan afon Taf i'r gogledd o'r pentref, ac mae'n un o ryfeddodau'r
cwm. Mae ei hanes cynnar yn bur annelwig. Yn ôl llyfr
a gyhoeddwyd ym 1833, roedd yn cael ei galw'n 'Ffynnon
Dwym' o bryd i'w gilydd. Mae'n mynd ymlaen i ddweud y canlynol: "an
extraordinary flood in the year 1799 is said to have laid
bare Roman masonry adjoining the well, which was covered
by subsequent inundations of the River Taff." Er
na lwyddwyd i ganfod olion y meini Rhufeinig yn ystod gwaith
cloddio diweddar, mae'n swnio'n ddigon credadwy gan fod
nifer o hen bentrefi a ffyrdd Rhufeinig yn y cyffiniau.
Yn ôl y fferyllydd Joseph Thomas, a archwiliodd y
ffynnon ym 1877, roedd yn sefyll yng nghanol dolydd ffrwythlon
yn wreiddiol. Ar ôl codi cored ar draws yr afon i
gyflenwi dwr i weithfeydd haearn Pentyrch, symudodd gwely'r
afon i'r dwyrain. Felly, roedd y ffynnon bellach yn ffinio
gyda'r afon ac yn cael ei gorlifo'n aml. Mae'n debyg mai
trigolion lleol yn unig oedd yn defnyddio'r ffynnon tan
ganol y ddeunawfed ganrif. Yn raddol, cafodd pobl eu denu
o bell yn sgil tystiolaeth am bwerau iachaol y ffynnon
ac ar ôl adeiladu'r ffordd dyrpeg, y gamlas a'r rheilffordd.
ae'n debyg y codwyd Taffs Well Inn er mwyn cynnig llety
i'r ymwelwyr hyn. Roedd llawer o'r pentrefwyr hefyd yn croesawu
ymwelwyr. Mae'n ymddangos bod y ffynnon wedi'i chau i mewn
erbyn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg - naill ai
gan wal garreg neu lenni haearn. Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf,
roedd y ffynnon wedi mynd â'i phen iddi. Mewn cyfarfod
agored ym 1929, penderfynodd y pentrefwyr i drwsio'r ffynnon
ac fe ail-agorodd ym mis Awst 1930. Yn ddiweddarach, adeiladwyd
pwll nofio wrth yr adeilad lle saif y ffynnon, gan ddefnyddio'r
dwr ohoni. Yn anffodus, daeth dyddiau'r pwll nofio a'r ffynnon
i ben ar ôl llifogydd trychinebus yn y 1950au.
Uchod: Y ffynnon yn ystod gwaith adfer
Bu dyfroedd y ffynnon yn fendith mawr i lawnt fowlio'r
pentref yn ystod sychder mawr 1978. Aildaniwyd y diddordeb
yn y ffynnon, ac ar ddiwedd y 1970au, lansiwyd ymgyrch
i adfer y ffynnon a'r safle. Glanhawyd y ffynnon yn llwyr,
a bu nifer yn nofio ynddi hyd yn oed. Er hynny, ni chafodd
yr ardal ei hailddatblygu'n llwyr tan ganol y 1990au. Rhoddwyd
wyneb newydd i'r adeilad lle saif y ffynnon, llenwyd y
pwll nofio a gosod gardd yn ei le.
Dde: Adeilad y ffynnon, Gorffennaf 2004
Cludiant Ffynnon Taf
Roedd cludiant a thrafnidiaeth yn ffactorau pwysig
yn hanes a datblygiad Ffynnon Taf, diolch i'w leoliad daearyddol
yng nghanol ceunant cul rhwng Caerdydd a'r cymoedd.
Nid yw'n syndod felly bod camlas, dwy ffordd a phedair
rheilffordd yn mynd drwy'r pentref, ynghyd ag afon Taf.
Ar brydiau roedd yr afon yn gyfrwng teithio, dro arall
yn rhwystr i'r rhai oedd am groesi o un pen i'r llall.
Mae map Arolwg Ordnans 1875 yn dangos bod sawl rhyd i fyny
ag i lawr yr afon - un ohonynt ger safle'r orsaf heddlu
heddiw.
Dde: Y gamlas ger Ffynnon Taf
Cyn dyddiau'r pontydd troed, roedd y rhan fwyaf o bobl
yn defnyddio'r fferi i groesi'r afon. Roedd fferi Pentyrch
yn mynd o westy'r Junction tra'r oedd perchennog y Portobello
Inn yn gyfrifol am un arall. Byddai'r ddwy fferi yn cludo
gweithwyr gwaith haearn Pentyrch yn ôl ac ymlaen
i'w cartrefi yn ardal Ffynnon Taf. Roedd fferi Ffynnon
Taf yn croesi'r afon o fferm Ty'r Ffynnon, neu ‘Ferry Farm'
ar lafar gwlad, y tu ôl i'r ysgol. Teulu'r Saunders
oedd perchnogion gwasanaeth fferi Ffynnon Taf am flynyddoedd
lawer. Yn anffodus, cafodd Mrs Saunders ei sgubo i ffwrdd
a boddi wrth gasglu teithwyr ar ddechrau'r 1920au. Ar ôl hynny, roedd pobl yn mynnu cael pompren
neu bont droed dros yr afon. O'r diwedd, adeiladwyd pont
droed diolch i garedigrwydd John Philips yn bennaf, ac enwyd
y bont ar ei ôl. Roedd ‘Station Bridge' eisoes wedi'i
chodi dros yr afon ar droad y ganrif, ar lwybr fferi Pentyrch.
Chwith: Fferi Ffynnon Taf yn fferm Ty'r Ffynnon.
Gallwch weld yr ysgol y tu ôl i ganghennau'r coed ar
y dde.
Traphont Walnut Tree
Roedd Ffynnon Taf yn cael ei ystyried yn
ddolen gyswllt bwysig rhwng y cymoedd a'r arfordir ar ôl
i weithfeydd haearn Merthyr Tudful agor yn ail hanner y
ddeunawfed ganrif. Adeiladwyd y ffordd dyrpeg rhwng Merthyr
a Chaerdydd yn y 1770au, ac un o brif dafarnau ac arosfan
y goets fawr oedd tafarn y Portobello Inn, Ffynnon Taf.
Er gwaetha'r datblygiadau hyn, sylweddolodd meistri haearn
Merthyr fod cludiant â cheffylau nid yn unig yn araf
a drud ond yn eu hatal rhag datblygu'r diwydiant. Aethpwyd
ati i ddechrau adeiladu'r Glamorgan Canal ym 1791, gyda
chymorth ariannol y meistri haearn. Agorwyd rhan o'r gamlas
yn Ffynnon Taf ym 1794. Roedd 51 o lociau ar hyd y gamlas
i gyd, ac roedd tair ohonynt yn Ffynnon Taf - Taff Well
Lock, Caegias Lock a Portobello Lock. Ychydig i'r gogledd
o'r pentref, roedd y lociau trebl rhyfeddol yng Nglan-y-llyn,
a oedd yn codi 30 troedfedd.
Cyn hir, roedd datblygiad cyflym y diwydiant haearn yn ormod
o faich ar y Glamorgan Canal. I'r meistri haearn, roedd hi'n
amlwg bod angen adeiladu rheilffordd o Ferthyr Tudful i Gaerdydd.
Agorodd rhan gyntaf rheilffordd y Taff Vale ym 1840, gan
gynnwys gorsaf Ffynnon Taf. Yn ddiweddarach, cafodd ei hailenwi'n
Walnut Tree Junction ar ôl agor cysylltiad rheilffordd
Rhymney Valley gyda'r Taff Vale yn Ffynnon Taf ym 1858.
Erbyn 1880, roedd rheilffordd TVR a Rhymney Railway
mor orlawn o drenau glo fel yr aeth y perchennog glo David
Davies ati i sefydlu'r Barry Dock and Railways Company
ym 1884 ar y cyd â pherchnogion glo rhwystredig eraill.
Gan mai lein y Barri oedd un o'r rhai olaf i'w hadeiladu
yn y De, roedd angen cryn dipyn o ddyfeisgarwch peirianyddol
i wneud y gwaith, gan fod cwmnïau blaenorol wedi dewis
llwybrau haws o lawer i gyrraedd y meysydd glo. Adeiladwyd
Traphont Walnut Tree ym 1901, ac roedd yn gampwaith ym
maes peirianneg sifil.
Chwith: Traphont Walnut Tree
Wedi'i chynllunio gan Syr James Szlumper, roedd y draphont
120 troedfedd o uchder a 1548 troedfedd o hyd yn cynnwys
saith o hytrawstiau dellt dur yn gorffwys ar golofnau brics.
Roedd rhywfaint o dro yn y pen gorllewinol er mwyn i'r
gledren droi ar ‘silff' yn y bryn. Ar ôl arglwyddiaethu
dros ben deheuol y pentref am bron i 70 o flynyddoedd,
fe'i dymchwelwyd ym 1969 er bod dau biler yn dal i sefyll
heddiw. Lein reilffordd cwmni Cardiff Railway oedd yr olaf
i'w hadeiladu trwy Ffynnon Taf. Er iddi gael ei chwblhau
ym 1911, dim ond cerbydau lleol oedd yn ei defnyddio'n
bennaf gan fod cwmni Taff Vale yn gwrthod ei chysylltu â'u
lein nhw yn Nhrefforest. Roedd y Glamorgan Canal yn segur
erbyn 1942. Adeiladwyd cefnffordd yr A470 rhwng Merthyr
Tudful a Chaerdydd ym 1969 ar safle'r hen gamlas a chwmni
Cardiff Railway. O blith y pedair rheilffordd wreiddiol,
dim ond hen lein Taff Vale sy'n dal i ymlwybro ar hyd ceunant
Ffynnon Taf.