Mae gwreiddiau Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn
perthyn i'r 'South Wales and Monmouthshire Trading Estates
Ltd' a sefydlwyd ym mis Mehefin 1936. Dyma gwmni dielw â'r
nod o agor un neu fwy o stadau masnachu yng Nghymru i arallgyfeirio
swyddi a chynnig rhywbeth heblaw'r diwydiannau dur a glo
oedd yn dechrau edwino. Y dasg gyntaf a'r adnoddaf i'r
cwmni oedd dod o hyd i safle ar gyfer yr Ystâd Fasnachu
gyntaf, ac ar ôl ystyried sawl adroddiad manwl ar
safleoedd posib, dewiswyd safle Trefforest o'r diwedd fel
yr un mwyaf addas ar 20 Gorffennaf.
Torrwyd y dywarchen gyntaf ar 29 Rhagfyr 1936, ac erbyn
diwedd 1937 roedd tair ffatri fechan wedi'u hagor yno ac
yn cyflogi 69 o bobl. Dyfarnwyd y contract cyntaf i ffatri
fawr ar gyfer cwmni British Coated Board and Paper Company
Cyf (Wiggins Teape), a dyma ddechrau perthynas hir a llewyrchus
iawn gydag Ystâd Ddiwydiannol Trefforest.
Dde: Y dirwedd wledig cyn dyddiau'r Ystad Fasnachu
Erbyn yr Ail Ryfel Byd, roedd yr Ystad Fasnachu'n mynd o nerth i nerth a dechreuodd
chwarae rhan allweddol yn yr ymdrech ryfel ac yn economi Prydain. Roedd ymweliad
Brenin Siôr VI a'r Frenhines Elizabeth ym 1941 yn adlewyrchu pwysigrwydd
cynyddol yr ystâd. Amharwyd llawer ar waith yr Ystad yn ystod y cyfnod
hwn wrth i'r Llywodraeth hawlio llawer o'r ffatrïoedd, a'r gweithwyr yn
cael eu symud i adeiladau dros dro ymhell o'r ystâd. Aeth adrannau'r Llywodraeth
ati i godi estyniadau a hyd yn oed adeiladu ffatrïoedd newydd i'w dibenion
eu hunain rhwng 1939 a 1945. Oherwydd hyn, bu cynnydd dramatig yn nifer y gweithwyr
ar yr ystâd, gyda bron i 16,000 yn cael eu cyflogi yno erbyn dechrau 1944.
Ar derfyn y rhyfel, cafodd llawer o adeiladau'r Llywodraeth eu gadael yn wag
a dychwelodd nifer o'r cwmnïau gwreiddiol i Drefforest - gyda llawer ohonynt
eisiau mwy o le nag oedd ganddynt yno i ddechrau.
Daeth yr ystâd dan reolaeth nifer o gyrff gwahanol
yn y cyfnod hwn. Ym 1946 y bu'r newid cyntaf pan ddaeth
Wales and Monmouthshire Industrial Estates Ltd berchen
arni. Bu newidiadau pellach ym 1960 a 1976 pan ddaeth yr
ystâd dan reolaeth 'Welsh Industrial Estates Corporation'
ac Awdurdod Datblygu Cymru yn ddiweddarach.
Mae'r safle wedi newid ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer
o'r hen ffatrïoedd wedi'u disodli gan ffatrïoedd
mwy ac amrywiol i fodloni gofynion yr unfed ganrif ar hugain.
Mae'r math o fusnesau sy'n prydlesu adeiladau'r ystâd
wedi newid cryn dipyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf,
gyda mwy o gyfleusterau hamdden a swyddfeydd y tu allan
i'r trefi mawr. Er gwaethaf neu efallai oherwydd y newidiadau
hyn, mae Ystâd Ddiwydiannol Trefforest yn llwyddiant
o hyd ac yn cynnig gwaith i nifer fawr o weithwyr.