I uchelgais a dyheadau diwydiannol y teulu
Crawshay o Ferthyr Tudful y mae'r diolch am ddatblygiad
Trefforest i fod yn bentref modern fel y mae heddiw. Dechreuodd
eu cysylltiad â Threfforest
ym 1794 pan brynodd William Crawshay ddarn o dir yn Ynys-pen-llwch
lle'r oedd melin fechan ar gyfer rholio tunplat. Daeth y
fenter hon yn llwyddiant ysgubol, yn enwedig ar ôl
agor y Glamorganshire Canal ym 1794 i gludo cynnyrch y cwmni.
Wedi blynyddoedd o ehangu a moderneiddio, dyma'r gwaith tun mwyaf ym Mhrydain
erbyn 1836. Yn ystod y cyfnod hwn, prynodd y Crawshays waith haearn bach ar
dir cyfagos yn Nhrefforest. Ehangwyd y safle hwnnw i greu gwaith haearn Taff
Vale, a unwyd gyda'r gwaith tun i greu Fforest Works. Erbyn 1835, roedd y gweithfeydd
hyn dan reolaeth uniongyrchol Francis Crawshay oedd wedi symud i Drefforest
o Hirwaun (lle'r oedd y teulu'n berchen ar waith haearn) gan ymgartrefu yn Forest
House - safle Prifysgol Morgannwg heddiw.
Aeth y pentref o nerth i nerth yn sgil llwyddiant y
ddau ddiwydiant a'r cysylltiad cynnar â masnach lo
Cwm Rhondda, diolch i dramffordd Dr Griffiths rhwng Dinas
a Threfforest. Cafodd llawer o weithwyr eu denu i'r ardal,
gan arwain at gynnydd sylweddol mewn gwaith adeiladu a
masnach. Cyn pen dim, codwyd tai newydd i'r gweithwyr ar
strydoedd fel Long Row, Forest Row, River Row a Market
Street, ac agorodd siopau i gynnig nwyddau iddynt. Agorodd
tafarnau newydd hefyd, ac mae Cyfeirlyfr Busnesau Kelly
1884 yn nodi pump ohonynt yn cynnwys y Ballar's Arms, The
Greyhound Inn a Danygraig Arms.
Diwallwyd anghenion crefyddol y trigolion hefyd, ac
agorwyd nifer o gapeli Anghydffurfiaeth - gyda Chapel y
Bedyddwyr Cymraeg (1841) a Chapel Methodistiaid Saron (1843)
ymysg y cynharaf. Trefforest oedd y pentref cyntaf yn y
cylch i gael swyddfa bost, ac roedd post Pontypridd yn
cael ei anfon i Swyddfa Bost Trefforest i'w ddosbarthu.
Yma hefyd yr oedd un o farchnadoedd cynharaf yr ardal,
a chynhaliwyd marchnad reolaidd yn Market Square (Castle
Square yn ddiweddarach) o 1803 ymlaen. Ond rhaid aros tan
1847 cyn agor gorsaf drenau Trefforest.
Heddiw, mae Trefforest yn aml yn cael ei hystyried fel
rhan o Bontypridd ac yn fwyaf enwog am ei brifysgol. Ond
yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Trefforest
yn lle tipyn mwy byrlymus na Phontypridd (neu Newbridge
fel yr oedd bryd hynny) gyda llu o gyfleusterau a llawer
mwy o botensial iddi fel tref.
Dde: Long Row Terrace oedd un o strydoedd cyntaf Trefforest.
Dyma lun ohoni ym 1977
Prifysgol Morgannwg (Forest House)
Dechreuodd William Crawshay II (1788 -1867) y gwaith
o foderneiddio Gwaith Tunplat Trefforest yn nechrau'r 1830au.
Collodd ddiddordeb yn y gwaith, fodd bynnag, pan etifeddodd
ymerodraeth Crawshay ym 1834 ar ôl marwolaeth ei
dad, William Crawshay I. Felly, rhoddwyd y cyfrifoldeb
o gwblhau'r broses foderneiddio yn nwylo mab William II,
Francis Crawshay (1811 -1878). Erbyn 1836, roedd y gweithfeydd
yn cynhyrchu'n llawn unwaith eto a symudodd Francis i dy o'r
enw Forest House. Adeiladwyd y t y crand hwn ar gyfer ei
daid, ar safle fferm Fforest Isaf.
Chwith: Francis Crawshay
Mae Forest House, sy'n perthyn i Brifysgol Morgannwg
bellach ac yn cael ei adnabod fel ‘Bloc A', yn adeilad
rhestredig. O'r tu allan, mae'n debyg i'r hyn yr oedd yn
nyddiau Francis Crawshay. Ond mae'r tiroedd o amgylch y
t y wedi gweld byd o wahaniaeth dros y blynyddoedd. Yn
niwedd y 1880au, gosododd Barry Railway Company gledrau
oedd yn mynd ar hyd y tir y tu ôl i'r ty cyn mynd
drwy dwnnel Trefforest ac ymlaen i Bontypridd. Diflannodd
y perllannau ar y bryniau islaw'r rheilffordd ar droad
yr ugeinfed ganrif wrth i strydoedd newydd gael eu hadeiladu,
fel Forest Grove, Bertha Street a Hilda Street.
Dde: Forest House
Yn ystod ei oes, cododd Francis Crawshay nifer o feini
hirion yma ac acw ar dir Forest House. Ar ôl iddo
farw, aeth ei frawd Henry Crawshay (1812 -1879) ati i osod
y cerrig hyn mewn cylch tebyg i Gylch yr Orsedd. Symudwyd
y meini yn y 1950au er mwyn gwneud lle i ehangu Coleg Technegol
Morgannwg. Ar ôl i deulu'r Crawshay adael Forest House, fe'i prynwyd
gan gyfreithiwr lleol o'r enw Walter Morgan 1853-1901. Ef
sefydlodd gangen Pontypridd o gwmni cyfreithwyr, Bruce and
Nicholas, oedd yn gweithio'n agos gyda Ffederasiwn y Glowyr
De Cymru. Ym 1913, gwerthwyd y ty gan ei weddw ar gyfer y
South Wales and Monmouthshire School of Mines. Tua'r un pryd,
symudwyd injan weindio a phwmpio John Calvert (1845) o Lofa
Gelliwion hefyd. Sefydlwyd cyfansoddiad yr ysgol trwy weithred
ymddiriedolaeth gydag Iarll Plymouth, Arglwydd Merthyr a
David Davies fel yr ymddiriedolwyr, a phenodwyd George Knox
(1869 -1950) yn brifathro. Ariannwyd yr ysgol trwy gyfraniad
treth y glofeydd oedd wedi tanysgrifio iddi. Parhaodd y tanysgrifiad
preifat hwn tan 1928 pan ddaeth yr ysgol dan ofal Awdurdod
Addysg Morgannwg.
Chwith: Meini hirion Francis Crawshay
O 1940, cafodd y coleg ei ailenwi'n School of Mines and Technology. Er gwaetha'r
enw newydd, roedd yr adeiladau'n debyg i'r hyn yr oeddynt ym 1913. Roedd pedair
adran yn y coleg, gyda 150 o fyfyrwyr llawn amser ac 800 o rai rhan-amser. Ar
ôl cyfnod y rhyfel, ehangwyd nifer y cyrsiau. Agorwyd llawer o weithdai
a labordai parod a chodwyd pedair ystafell ddosbarth alwminiwm y tu ôl
i Forest House. Ym 1956, cwblhawyd y gwaith o godi bloc pedwar llawr ger Forest
House. Newidiwyd statws yr ysgol ar hyd y blynyddoedd i adlewyrchu ei llwyddiant
wrth ateb y galw cynyddol am addysg uwch, gan ddatblygu'n gyflym o fod yn Goleg
Technegol (1949), i Goleg Technegol (1958) a Pholytechnig (1970).
Uchod: Yr injan bwmpio o Lofa Gelliwion
Ym 1967, agorwyd y llety preswyl cyntaf
ar y campws gyda lle i gant o fyfyrwyr. Roedd 632 o fyfyrwyr
llawn amser a thua 1,500 o fyfyrwyr rhan-amser yma ar y
pryd. Ehangodd campws y coleg gydag adeilad aml-lawr i'r
adran peirianneg sifil ac yna adeilad undeb y myfyrwyr,
llyfrgell a'r adran fusnes.
Yn dilyn Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, cafodd Polytechnig
Morgannwg yr hawl i fabwysiadu teitl prifysgol a statws corfforaethol.
Bu cryn drin a thrafod ar deitl newydd i'r sefydliad newydd
hwn. Un o'r enwau a awgrymwyd oedd Prifysgol Crawshay, ond
nid oedd enw'r meistr haearn a dreuliodd flynyddoedd maith
yn byw yn Forest House yn addas ym marn rhai pobl - felly
dewiswyd enw Prifysgol Morgannwg. Agorwyd y Brifysgol newydd
gan David Hunt, Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 1 Medi 1992,.
Wrth inni nesáu at ganmlwyddiant Forest House fel
sefydliad addysg, mae bron i 19,000 o fyfyrwyr yn astudio
ym Mhrifysgol Morgannwg heddiw.