Pentref tair milltir i'r de o Bontypridd yw Glan-bad, ar lwybr yr hen Glamorganshire
Canal ers talwm, a'r enw Saesneg ‘Upper Boat' yn enw ar y dafarn leol yn ogystal â'r
ardal. Mae enw'r pentref yn cyfeirio at un o'r tri bad oedd yn cludo teithwyr
dros afon Taf. Roedd un bad yn Ffynnon Taf; un arall ymhellach i fyny'r afon
yn Willowford; a'r olaf wedi'i angori ger tafarn Upper Boat Inn. Dim ond 150
o bobl oedd yn byw yng Nglan-bad yn ôl cyfrifiad 1841.
Roedd y gamlas yn creu gwaith i gychwyr, ceidwaid lociau
a seiri coed. Roedd rhai'n gweithio yng nglofeydd bychain
y fro fel Glofa Groes-wen neu Lofa Maes-mawr ar ochr arall
afon Taf, eraill yn gweithio yn ffowndri haearn Melin-gorwg,
neu yn y felin flawd neu ar ffermydd. Roedd y rhan fwyaf
o'r pentrefwyr yn byw mewn tai teras o boptu heol Caerdydd,
sef Williams Place yn ddiweddarach. Ac yng nghanol y tai
teras dwyreiniol, roedd Capel Carmel y Methodistiaid Calfinaidd
Cymraeg a adeiladwyd ym 1839.
Chwith: Glamorgan Canal ger Glan-bad
Yn wahanol i Gilfynydd neu Drehopcyn, ni agorodd unrhyw
lofa fawr yn ardal Glan-bad yn ystod ail hanner y bedwaredd
ganrif ar bymtheg. Ni chynyddodd y boblogaeth fawr ddim,
ac erbyn 1901, dim ond rhyw 300 oedd yn byw yno. Roedd
y Glamorganshire Canal a ffowndri Melin-gorwg yn dechrau
dirywio. Er gwaetha'r ffaith nad oedd glofa fawr yn y pentref,
roedd bron pawb o'r pentrefwyr yn gweithio yn y diwydiant
glo.
Dde: The Upper Boat Inn, tua 1977
Erbyn yr ugeinfed ganrif, gwelwyd tro ar fyd yng Nglan-bad
a'r cyffiniau. Ar 30 Ebrill 1902, gosodwyd carreg sylfaen
Gorsaf Bwer Glan-bad. Cwmni South Wales Electrical Power
Distribution Company oedd biau'r orsaf bwer, a adeiladwyd
ar lan orllewinol afon Taf. Ar y lan ddwyreiniol, aeth
y Cardiff Railway Company ati i osod lein reilffordd rhwng
Caerdydd a Rhydfelen. Y nod oedd dilyn y lein i Bontypridd,
ond ni wireddwyd y syniad oherwydd gwrthwynebiad cwmnïau
eraill.
Chwith: Dymchwel hen orsaf bwer Glan-bad,
Rhagfyr 1976
Er hynny, cafodd Glan-bad ei drawsnewid yn llwyr ym
mis Gorffennaf 1936 pan ddewiswyd safle Ystâd Ddiwydiannol
Trefforest gerllaw - ac ymhen blwyddyn, roedd tair ffatri'n
cyflogi 69 o bobl yno. Wrth i'r ystâd ehangu, buan
y diflannodd y caeau i'r de o'r pentref ac ar lan orllewinol
afon Taf. Codwyd tai parod ar frys ym Mhont Pentre ar gyfer
y gweithwyr newydd, ond cymharol fyr fu eu hoes.
Dde: Capel Carmel y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg, a gaeodd
ym 1987
Cawsant eu dymchwel ar ddechrau'r 1970au er mwyn adeiladu cefnffordd yr A470.
Dyna hefyd oedd tynged Gorsaf Bwer Glan-bad a gaeodd ym 1972. Cafodd ei dymchwel
ar 14 Rhagfyr 1976. Ni chodwyd llawer o dai newydd yng Nglan-bad yn ystod y
blynyddoedd diwethaf. Yn hytrach, prif nodwedd yr ardal yw ei harchfarchnadoedd
mawr a modurdai Griffin Mill sy'n sefyll ar safle'r hen felin flawd.